Gwyr
013 Llain Arfordirol Amgaeëdig Rhosili Isaf
HLCA013 Llain Arfordirol Amgaeëdig Rhosili Isaf
Ymyl arfordirol amgaeëdig a thirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: archeoleg greiriol; anheddu canoloesol; a chaelun ôl-ganoloesol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Llain Arfordirol Amgaeëdig Rhosili Isaf y tir amgaeëdig rhwng marc penllanw Bae Rhosili fel y'i dangosir ar fap 1:10000 yr AO a Thwyn Rhosili. Mae'n llain arfordirol gul i'r gogledd o bentref Rhosili sy'n ymestyn i'r twyni tywod yn Hillend ac mae'n cynnwys yr anheddiad canoloesol anghyfannedd (SAM GM414; 15446; 01862w), Old Rectory (LB 22781 II) a thir llan cysylltiedig. Ni wyddom beth yn union yw maint yr anheddiad sydd wedi'i orchuddio â thywod ac felly gall ymestyn y tu hwnt i ffiniau'r ardal gymeriad hon.
Mae cyfeiriadau yn dyddio o'r seithfed ganrif hyd y ddegfed ganrif yn Llyfr Llandaf yn cyfeirio at ddwy ystâd eglwysig bosibl yr ystyrir eu bod wedi'u lleoli o fewn plwyf Rhosili; fodd bynnag nid yw union leoliad yr ystadau hyn yn hysbys ac ni ellir ond dyfalu yn ei gylch. Credir bod yr ystâd fwyaf gorllewinol yn gysylltiedig â mynachdy Cynwal Sant (Llan Cyngualan). Mae dryswch ynghylch hanes mynachaidd ac eglwysig manwl Rhosili yn deillio o'r ffaith bod dwy eglwys; un ym Mhentref Rhosili (HLCA 031) (Eglwys y Santes Fair) a'r llall (310526) a leolir yn yr ardal hon ac sydd bellach wedi'i gorchuddio â thywod. Mae traddodiad lleol yn dweud y perthynai drws yr eglwys bresennol i'r eglwys sydd wedi'i gorchuddio â thywod yn wreiddiol sy'n golygu ei bod yn gynharach nag Eglwys y Santes Fair; mae ei harddull Romanésg yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif. Fodd bynnag ni phrofwyd awgrymiadau mai dyma oedd y pentref isaf gwreiddiol, a symudodd i fyny'r llwyfan o ganlyniad i ddyddodi tywod ac mae'n bosibl y gallai'r ddwy eglwys fod wedi bodoli ar yr un pryd (Evans 1998). Cyfeirir at 'Landimore Rossily the great and the lesse' yn y cyfieithiad o Morganniae Archaiographia a ysgrifennwyd gan Rice Merrick (1983, 55), ac eto am fod dwy ystâd y gwyddom amdanynt gall hyn gyfeirio at y rhain, gyda'r canlyniad bod ystyr Pentref Isaf ac Uchaf yn amwys.
Credir i'r ardal hon gael ei gorchuddio â thywod yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, cyfnod pryd y gorchuddiwyd llawer o leoedd eraill o amgylch Bro Gwyr (e.e. HLCA 003, HLCA 009); dengys tystiolaeth i hyn ddigwydd yn gyflym ac yn sydyn yn yr ardal hon. Datgelodd gwaith cloddio a wnaed ar ddechrau'r 1980au fod gan yr eglwys gynllun Romanésg, ac mae'r arddull hon yn dyddio o tua 1200 (Davidson a Davidson 1980). Darganfuwyd murluniau gweddol ddiweddar o ddail pumbys a thendriliau du sy'n awgrymu i'r eglwys gael ei defnyddio dros nifer o flynyddoedd. Mae tystiolaeth alwedigaethol o'r ardal yn ymwneud ag olion ty, a gloddiwyd hefyd, a dau domen ysbwriel yn cynnwys olion bwyd, crib asgwrn, allwedd haearn a chrochenwaith yn dyddio o'r 12fed ganrif hyd y 13eg ganrif (Davidson 1980).
Mae'r honiad bod yr olion sydd wedi'u gorchuddio â thywod yn cynrychioli pentref yn un dadleuol o gofio mai dim ond hyn a hyn o waith a wnaed i ddatgladdu a nodi adeiladau. Mae'n bosibl bod yr anheddiad hwn yn faenor fynachaidd (Locock 1996), a berthynai yn ôl pob tebyg i Farchogion Sant Ioan ynghyd â rheithordy (LB 22781 II) a thir llan (h.y. y gyfordraeth o dir amgaeëdig a gynhwysir o fewn y HLCA). Fodd bynnag, mae pentrefannau a restrir o dan blwyf Rhosili gan Rice Merrick yn cynnwys 'Down in Rhossili' a all fod yn arwydd o weithgarwch anheddu yn dilyn diddymu'r mynachlogydd yn ardal y rheithordy ac ar dir i'r gogledd o'r tir sydd wedi'i orchuddio â thywod (Locock 1996). Datgelodd arolygon geoffisegol o'r ardal (arolygon geoffisegol Bradford 1996) olion strwythurau eraill o amgylch yr eglwys a'r Hen Reithordy. Mae olion dynol a ddatguddiwyd ym 1949 yn tystio i fynwent a oedd yn gysylltiedig â'r eglwys (Rutter 1949).
Adeiladwyd y Rheithordy (LB 22781 II) a welir heddiw tua 1850 o fewn clostir cynharach. Disgrifiwyd ei ragflaenydd fel 'two rooms upon a floor and lofted through, a barn and three small outhouses under one and the same roof' (LB disgrifiwyd). Ceir olion adeiladau allan eraill gerllaw. Cafodd y ty cynharach, y cyhoeddwyd nad oedd yn addas i fyw ynddo erbyn 1835, ei atgyweirio ac roedd rhywun yn byw ynddo erbyn tua 1840. Ni nodir unrhyw dy ar fap degwm 1845, er y disgrifir y safle fel persondy. Ni fu fawr ddim newid yn y patrwm caeau a welir heddiw ers y bedwaredd ganrif ar bymtheg.