Gwyr
021 Clogwyni Oxwich
HLCA021 Clogwyni Oxwich
Tirwedd rynglanwol: blaen traeth creigiog yn cynnwys clogwyni ac ogofâu; a llongddrylliadau. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Clogwyni Oxwich gan y marc penllanw cymedrig a'r marc distyll cymedrig fel y'u nodir ar fap 1:10000 yr AO a chan y blaen traeth creigiog agored.
Celc o ddarnau arian Rhufeinig a ddarganfuwyd ychydig uwchlaw'r marc penllanw ar ochr ddwyreiniol Oxwich Point yw'r unig dystiolaeth archeolegol o'r ardal. Dyddiwyd un darn o arian i gyfnod Trebonianus Gallus OC 253, yr ail i gyfnod Gallienus OC 253-68 a'r olaf i gyfnod Probus OC 278. Yn seiliedig ar yr hyn a wyddom am ardaloedd eraill, er enghraifft HLCA 029, honnir i'r ogofâu yn yr ardal hon gael eu defnyddio yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol er na chanfuwyd unrhyw dystiolaeth uniongyrchol eto.
Nodwyd bod olion anifail a ddarganfuwyd ar gwr yr ardal yn perthyn i geffyl gwedd a gladdwyd, fe ymddengys, yn y caeau ar ben y clogwyni ac a symudodd wedyn ar y traeth o ganlyniad i erydu. Awgrymwyd y gallai'r olion hyn fod tua chan mlwydd oed pan y'u darganfuwyd ym 1986. Gall y clogwyni fod wedi ymestyn ymhellach i'r gogledd-ddwyrain; fodd bynnag, mae'n bosibl bod y clogwyni yma yn is nag yr arferent fod o ganlyniad i weithrediadau chwarel fawr a leolid yn y rhan hon o'r ardal uwchlaw'r traeth.