The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

001 Traeth Llanrhidian ac Aber Afon Llwchwr


Ffoto o Draeth Llanrhidian ac Aber Afon Llwchwr

HLCA001 Traeth Llanrhidian ac Aber Afon Llwchwr

Tirwedd rynglanwol: tirweddau claddedig; ymelwa ar yr amgylchedd morol; nodweddion trafnidiaeth a nodweddion arforol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Yn ffinio ag ardal tirwedd hanesyddol Traeth Llanrhidian ac Aber Afon Llwchwr ceir yr AOHNE i'r gogledd ac i'r dwyrain, sy'n cwmpasu fflatiau llaid a thywod yn aber Afon Llwchwr, morfa heli i'r de a thwyni tywod i'r gorllewin.

Mae'r dystiolaeth archeolegol uniongyrchol ar gyfer yr ardal yn gyfyngedig i nifer o longddrylliadau ôl-ganoloesol. Yn hanesyddol, roedd Aber Afon Llwchwr yn fynedfa bwysig ar gyfer cychod o leiaf o'r cyfnod Rhufeinig. Safai caer ategol a sefydlwyd tua OC75 yng Nghasllwchwr (Leucarum) mewn lleoliad strategol ym man croesi culaf Afon Llwchwr; mae'n debyg y gellid rheoli symudiadau o'r aber i fannau ymhellach i fyny'r afon yn y lle hwn. Ar ben hynny mae'r ffaith bod Rhufeiniaid yn bresennol yn ardal Llanelli yn awgrymu o bosibl bod yr aber a chilfachau hefyd wedi'u defnyddio i lanio cychod yma ac i roi mynediad i Afon Lliedi. Mae'n debyg i'r ardal hon gael ei defnyddio at ddibenion milwrol a masnachol yn bennaf yn ystod y cyfnod Rhufeinig a'r cyfnodau dilynol. Ar ben hynny mae'n bosibl i Normaniaid fanteisio ar lwybrau môr wrth sefydlu rheolaeth ar yr ardal.

Arweiniodd datblygu aneddiadau ar hyd yr arfordir yn ystod y cyfnod canoloesol at gynnydd mewn masnach forol trwy'r aber. Ceir nifer o gilfachau mawr ar hyd arfordir yr ardal, yn ymestyn hyd at y forfa heli i'r de (HLCA 004), sef Cilfachau Burry, Great, Leason a Llanrhidian. Er na ddarganfuwyd unrhyw strwythurau yn yr ardal, yn ddiau roedd y sianeli hyn yn fordwyadwy bryd hynny. Er ei fod ychydig y tu allan i'r ardal, mae'r anheddiad mynachaidd a arferai sefyll ym Machynys, a sefydlwyd yn ôl pob tebyg yn y chweched ganrif, yn dangos pa mor bwysig oedd yr aber yn ystod y cyfnod hwn; pan fyddai'n benllanw byddai'r dwr wedi gwahanu'r mynachdy oddi wrth y tir mawr, gan ffurfio ynys fach, yn debyg i safleoedd mynachaidd eraill a sefydlwyd ar ynysoedd yn yr ardal oddi amgylch.

Mae gennym fwy o dystiolaeth am fordwyo yn yr aber, yr afon a'r cilfachau yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Ceir sôn am Gasllwchwr yn llyfrau Porthladdoedd Cymru yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg (Lewis 1927); fodd bynnag, ni ddatblygodd yn borthladd pwysig erioed am fod gweithgareddau morol wedi'u canolbwyntio ar Lanelli. Cofnodir bod glo yn cael ei allforio o Lanelli trwy'r aber i leoedd mor bell i ffwrdd â Ffrainc a Phortiwgal o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen yn ogystal â masnach mewn sebon, llechi, efydd, cnau Ffrengig, gwin, menyn a thybaco (Dunning a Howell 2005). Yn y ddeunawfed ganrif penodwyd Jacob Dumain yn 'waiter and searcher at south Burry', lle'r oedd yn gyfrifol am reoleiddio'r fasnach lo ar hyd rhan ddeheuol yr aber yn ogystal â gwylio am smyglwyr (Cooper 1998). Mae dociau a leolir ar hyd yr arfordir yn cynnwys Penclawdd a Llanmorlais. Mae olion dociau diweddarach i'w cael yng Nghasllwchwr ac mae siartiau mordwyo yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn manylu ar longau a fu'n defnyddio'r aber (Marvell ac Owen-John 1997). Mae llongddrylliadau a ganfuwyd yn yr ardal yn cynnwys Adventure, ECT, William and Mary a Harmony. Ceir enghraifft arall yn yr hanesyn am y 'Dollar Ship of North Gower'. Yn ôl pob sôn aeth llong o'r enw y 'Scanderoon Galley' (03048w) yn sownd ar y lan yma, gan suddo i'r llaid. Dywedir bod deuddeg cist o aur ar fwrdd y llong ac i bob cist ond un gael ei hachub; flynyddoedd lawer yn ddiweddarach daeth dyn lleol yn gyfoethog iawn yn sydyn, dywedir iddo ddod o hyd i'r gist goll (Edmunds 1979). Yn wir newidiodd cwrs yr afon ac amrediad ei llanw dros y blynyddoedd, fodd bynnag gall llongau llai o faint hwylio i fyny'r aber o hyd pan fydd yn benllanw.

Roedd gweithgarwch ecsbloetio'r môr yn yr ardal hon yn gyffredin, a gynhwysai bysgota cilfachau ond yn arbennig casglu cocos. Mae'n debyg bod y gweithgaredd hwn yn dyddio o'r cyfnod pan ddaeth pobl i fyw yn yr ardal gyntaf ac yn ddiau roedd yn rhan hanfodol o ddiet y rhanbarth. Yn sicr ers y canol oesoedd, buwyd yn casglu cocos ar raddfa helaethach; fe'u casglwyd o fflatiau'r aber rhwng llanwau gan ferched y pentrefi lleol megis Llanrhidian a Phenclawdd. Nid oes fawr ddim tystiolaeth am y broses gynnar ond am fod traddodiadau yn gryf yn yr ardal ymddengys fod pobl wedi parhau i gasglu cocos yn yr un ffordd am gannoedd o flynyddoedd. Ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif cynyddodd gweithgarwch casglu cocos fel diwydiant i ychwanegu at incwm pobl. Roedd merched yn ddiwyd ac yn gryf, a gweithiai llawer ohonynt oriau anghymdeithasol tra bod eu Gwyr yn gweithio yn y mwyngloddiau a'r pyllau glo (Roberts 2001).