Gwyr
004 Morfa Heli Llanrhidian a Landimôr
HLCA004 Morfa Heli Llanrhidian a Landimôr
Tirwedd gwlyptir rhynglanwol: tirweddau claddedig; adnoddau gwlyptir; ymelwa ar yr amgylchedd morol; trafnidiaeth; nodweddion arforol a nodweddion dwr. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Morfa Heli Llanrhidian and Landimôr yn cwmpasu'r morfa heli heb ei wella a welir heddiw i'r gogledd o Lanrhidian a Landimôr o fewn ffin yr AOHNE.
Er ei bod yn debyg bod yr ardal hon yn cael ei hecsbloetio fel adnodd gwlyptir ymylol yn darparu tir pori, pysgod cregyn, a chorsleoedd o'r cyfnod cynhanesyddol ymlaen, ni chofnodwyd fawr ddim tystiolaeth eto. Ystyrir bod y potensial archeolegol yn uchel am fod ardaloedd tebyg o wlyptir mewn mannau eraill megis Gwastadeddau Gwent, wedi darparu tystiolaeth gyfoethog ac amrywiol o ddefnydd blaenorol. Mae tystiolaeth o ardaloedd oddi amgylch yn awgrymu bod adnoddau yn cael eu defnyddio mewn sawl cyfnod. Er enghraifft, darganfyddiadau cynhanesyddol yn North Hill Tor a chaeau yn dyddio o'r Oes Haearn yn Tor Gro a'r fryngaer fawr yng Nghil Ifor. Byddai aneddiadau canoloesol ar gwr yr ardal yn Landimôr a Bovehill, Weble, Llanrhidian, Leason a Wernffrwd ymhlith eraill wedi defnyddio'r corstiroedd i bori da byw yn ogystal ag amaethu'r porfeydd. Ym 1583 awdurdodwyd y gallai unrhyw denant i unrhyw faenor ym Mro Gwyr roi anifeiliaid i bori ar y morfa heli (Emery 1957). Oherwydd eu lleoliad arfordirol roedd gan y trigolion fynediad hawdd i adnoddau eraill yr ardal, gan gynnwys bwyd a chysylltiadau trafnidiaeth i Aber Afon Llwchwr. Mae Landimôr, Leason a Llanrhidian yn arbennig wedi'u canoli gerllaw ffynhonnau a chilfachau sy'n llifo i'r aber, ar adegau byddai'r rhain wedi bod yn fordwyadwy.
Mae'r prif gilfachau sy'n croesi'r ardal yn cynnwys Burry Pill a Great Pill, sydd yn eu tro yn llifo i mewn i Aber Llwchwr. Mae Llanrhidian Pill yn ymestyn yn syth i'r gogledd ar draws Morfa Llanrhidian, a leolir i'r gogledd o anheddiad Llanrhidian, cyn ymuno â Leason Pill a llifo i mewn i Aber Afon Llwchwr (Dunning a Howell 2005). Camleswyd Bennets Pill a chafodd ei gwella i ganiatáu i longau gyrraedd Landimôr, a arferai fod yn borthladd yn ôl pob sôn (Edmunds 1979).
Yn ddiau ni newidiodd y cyfryw weithgareddau fawr ddim dros y blynyddoedd a hyd at ganol yr ugeinfed ganrif parhawyd i gynaeafu'r corsleoedd ar gyfer gwellt toi a gwasarn anifeiliaid. Roedd pysgota yn y cilfachau a hela chwiwellau yn weithgareddau cyffredin (Williams 2004). Roedd yr ardal yn ddelfrydol ar gyfer pori merlod, y defnyddid rhai ohonynt i gludo cocos yn ôl i'r lan. Mae'r ardal yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer pori heddiw.
Yn debyg i ardaloedd eraill ar hyd arfordir Bro Gwyr, defnyddiwyd y morfa at ddibenion hyfforddi yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Lleolir olion magnelfa, barics posibl a thwr gwylio (03046w) ar y morfa. Mae olion dau dwmpath (03089w) wedi'u rhestru fel targedau ymarfer a ddefnyddiwyd ar gyfer gweithrediadau o'r awyr i'r ddaear gan yr RAF. Dengys ffotograffau a dynnwyd o'r awyr ym 1946 fod gan y twmpath mwyaf dwyreiniol gynllun hirsgwar, a bod lôn yn rhedeg i'r de ohono.