Gwyr
006 Burry Holms a'r Tors
HLCA006 Burry Holms a'r Tors
Ymyl arfordirol agored: darganfyddiadau cynhanesyddol; anheddu amlgyfnod; nodweddion defodol; anheddiad eglwysig; nodweddion diwydiannol ôl-ganoloesol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Yn ffinio ag ardal tirwedd hanesyddol Burry Holms a'r Tors ceir y marc penllanw cymedrig fel y'i nodir ar fap 1:10000 yr AO a'r darn o dir agored ar hyd y llain arfordirol i'r gogledd ac i'r gorllewin o Fryn Llanmadog. Yn rhan dde-orllewinol yr ardal mae'r ffin yn dilyn y tir uwch ar hyd ymyl y clogwyn o ardal Twyni Tywod Llangynydd sydd wedi'i gorchuddio â thywod.
Mae gan y darn hwn o arfordir, yn arbennig Burry Holms, hanes cyfoethog ac amrywiol ac mae tystiolaeth o anheddu yn yr ardal hon yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig. Y dystiolaeth bwysicaf yw casgliad o fflintiau o Burry Holms a ail-ddarganfuwyd yn ystod gwaith cloddio gan T.C. Lethbridge a H.E. David (Savory 1984). Mae offer a gofnodir yn y casgliad hwn yn awgrymu gweithgareddau prosesu bwyd ac mae lleoliad arfordirol y gwrthrychau hyn yn awgrymu y câi'r adnodd morol ei ecsbloetio.
Ceir nifer o ogofâu ar hyd y rhan hon o'r arfordir, gan gynnwys Spritsail Tor, Prissen's Tor, Cwm Ivy Tor a'r Three Chimneys (Culver Hole) y mae'n ddigon posibl bod pobl yn byw yno ers y cyfnod Mesolithig ymlaen neu ers cyfnod cynharach hyd yn oed. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth gynharaf a gofnodwyd o'r ogofâu yn dyddio o'r Oes Efydd. Datgelodd gwaith cloddio yn Ogof y Three Chimneys (SAM GM087) a wnaed yn ystod y 1920au a'r 30au gryn dipyn o olion dynol; awgrymwyd bod yr ogof hon yn ffurfio esgyrnfa yn dyddio o'r Oes Efydd. Cynrychiolir gweithgarwch yn ystod yr Oes Efydd hefyd gan domen ysbwriel (00036w) a charnedd ar Burry Holms (00023w).
Mae tystiolaeth o anheddu ar Burry Holms a'i ddatblygiad fel canolbwynt i weithgarwch anheddu yn amlycach mewn cyfnodau diweddarach. Lleolir caer bentir yn dyddio o'r Oes Haearn (SAM GM088) ar ochr orllewinol yr ynys. Atgyfnerthir y gaer bentir hon gan glogwyni uchel a rhagfur mawr tua 100m o hyd, sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de ar draws yr ynys gan ddilyn ffawtlin. Yn ochr ddwyreiniol yr ynys lleolir anheddiad mynachaidd canoloesol a oedd naill ai'n feudwyfa neu'n anheddiad eglwysig (SAM GM473; 00030w; 94719). Rhoddodd Harri iarll Warwick, arglwydd Abertawe a Bro Gwyr Burry Holms yn ogystal ag eiddo arall yng ngogledd-orllewin Bro Gwyr i Abaty Sant Taurin yn Evreux, Normandi rhwng 1095 a 1115 (Savory 1984). Gelwid y safle hwn yn 'the church of the isle' neu 'the hermitage of St. Kenydd-atte-Holme'; yn ystod y cyfnod hwn roedd yn gyffredin sefydlu meudwyfeydd ar y môr fel encilfa unig o fynachaeth gynnar. Datgelodd gwaith cloddio ar y safle yng nghanol y 1960au dystiolaeth o anheddiad yn dyddio o'r cyfnod cyn y Goresgyniad Normanaidd er bod y prif strwythurau a oedd wedi goroesi yn dyddio o'r ddeuddegfed ganrif hyd y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae'r olion yn cynnwys eglwys, anheddau cysylltiedig, neuadd ac ystafell ddosbarth bosibl. Mae'n debyg i'r ardal gael ei defnyddio yn barhaol rhwng y cyfnodau hyn am i rywfaint o grochenwaith Rhufeinig llwyd yn dyddio o'r ail ganrif gael ei ddarganfod wrth gloddio'r safle canoloesol.
Nodweddir yr ardal yn y cyfnod ôl-ganoloesol gan weithgarwch gwledig-diwydiannol. Mae nifer o chwareli ac odynau calch wedi'u gwasgaru ledled yr ardal ar hyd ymylon y clogwyni (02447w, 02448w, 02454w, 02446w, 03043w). Nodir y rhain ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO, lle y'u disgrifir fel 'hen odynau calch' a 'hen chwareli'.