Gwyr
008 Bae Rhosili
HLCA008 Bae Rhosili
Tirwedd rynglanwol: traeth agored; tirweddau claddedig; nodweddion arforol; cysylltiadau hanesyddol; digwyddiadau, llên gwerin a chwedlau. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Nodir ffin ardal tirwedd hanesyddol Bae Rhosili gan y marc distyll cymedrig a'r marc penllanw cymedrig fel y'u dangosir ar fap 1:10000 yr AO.
Mae gweithgarwch yn yr ardal yn dyddio o'r Cyfnod Paleolithig a darganfuwyd bwyell law fflint (01014w) yn perthyn i'r cyfnod hwnnw ar ymyl y traeth ar ôl iddi gael ei herydu'n naturiol o wyneb y clogwyn. Mae hon yn fwyell law wyffurf bigfain wastad-amgrwm fach o fflint di-staen, â sglein gwyn ac mae'n un o ddim ond dwy fwyell Baleolithig brin a ddarganfuwyd yng Nghymru.
Er na ddatgelwyd unrhyw dystiolaeth yn uniongyrchol o draeth Rhosili mae'n debyg i'r ardal hon gael ei defnyddio trwy'r cyfnod cynhanesyddol mewn ffordd debyg i ardaloedd arfordirol eraill ym Mro Gwyr. Fodd bynnag ni wyddom fawr ddim am yr unig ddarganfyddiad cyn-ganoloesol posibl arall, sef twmpath yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig y dywedir iddo gael ei ddarganfod yn yr ardal.
Mae gan arfordir Bro Gwyr gysylltiadau morol cryf a nifer o chwedlau yn gysylltiedig â mordwyo, smyglo a môr-ladrad. Mae tystiolaeth ddogfennol yn cofnodi i ysbeilwyr ddinistrio Priordy Llangynydd yn 986 OC. Mae cof gwlad yn ychwanegu manylion eraill, sy'n enwi'r bae fel man glanio llongau Llychlynnaidd; sy'n awgrymu i bobl Rhosili losgi'r llongau hyn o ran dial (Edmunds 1979). Drylliwyd y 'Dollar Ship' drwgenwog yma yn yr ail ganrif ar bymtheg. Darganfuwyd doleri arian Sbaenaidd yn portreadu Phillip IV sy'n dyddio o 1625 a 1639 yn y llongddrylliad dros gan mlynedd yn ddiweddarach ym 1807. Dywedir i ddarganfyddiadau eraill gael eu gwneud dros y blynyddoedd, yr olaf ym 1833. Mae llongddrylliadau eraill y gwyddom amdanynt yn y bae yn cynnwys; City of Bristol 1840 (03037w; 385), Tocopilla 1878 Mary Stenhouse 1879, Verani 1894, Ann of Bridgewater 1899, Notre Dame de Lourdes 1910, Pansy 161 1941, Cleveland 1957. Mae olion Helvetia (03024w; 464) a ddrylliwyd ym 1887 a Vennerne (03023w) a ddrylliwyd ym 1894, i'w gweld o hyd ym Mae Rhosili. Efallai fod llongddryllwyr Bae Rhosili yn gyfrifol am rai o'r trychinebau hyn am fod ysbail a gafwyd o longddrylliadau yn 'wobr' fawr. Denodd llusernau ffug wedi'u gosod ar hyd yr arfordir longau i'w ffawd.
Dywedir bod Bae Rhosili yn ddelfrydol i smyglwyr oherwydd ei leoliad anghysbell; Un smyglwr enwog oedd William Stote, Tafarnwr Middleton, a garcharodd swyddog tollau yn ei stabl. Roedd nwyddau gwaharddedig wedi'u cuddio ym mhob cwr o orllewin Bro Gwyr ac mae hyd yn oed sôn bod selerau a gloddiwyd yn arbennig wedi'u lleoli ar Dwyn Rhosili (Lucas 2004). Roedd ymchwiliadau gan y Tollau yn gyffredin ac ar un achlysur gadawyd 101 o gasgenni o frandi, rym a gwin ar draeth Rhosili (Lucas 2004, 28).
Mae cryn dipyn o dystiolaeth am y fasnach arfordirol yn yr ardal hon. Byddai'r rhan fwyaf o'r calchfaen a gloddiwyd ar arfordir deheuol Bro Gwyr wedi cael ei chludo mewn llongau i Ddyfnaint, lle y gellid cludo'r calchfaen i mewn yn rhatach mewn llongau nag y gellid ei gael yn lleol. Er y gellid bod wedi cludo calchfaen mewn llongau i Ddyfnaint o Fae Rhosili, mae Lewis yn ei eiriadur topograffig o Gymru (1833) yn disgrifio 'great quantities are shipped from the bay to different parts of the principality'. Gadawodd y cychod olaf yn cludo calchfaen o Fae Rhosili ym 1899. Dyfodiad trafnidiaeth reilffordd a fu'n gyfrifol am dranc y diwydiant.