Gwyr
005 Morfa Cwm Ivy
HLCA005 Morfa Cwm Ivy
Tirwedd gwlyptir adferedig amgaeëdig: nodweddion amaethyddol a nodweddion rheoli dwr creiriol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Morfa Cwm Ivy yn cyfateb i'r ardal o forfa wedi'i ddraenio, amgaeëdig i'r gogledd o Lanmadog ac i'r gorllewin o Forfa Heli Llanrhidian.
Lleolir yr ardal hon ym mhen deheuol Twyni Tywod Burrows, wrth waelod sgarp Gogledd Bro Gwyr, ac mae'n cynnwys amfae bach â gwaelod gwastad a amddiffynnir rhag y môr gan forglawdd â llifddor. Fe'i croesir gan nant, sy'n llifo i mewn i Sluice Gutter a Burry Pill ar Forfeydd Llanrhidian. Mae tystiolaeth ar gyfer o leiaf dri chyfnod o weithgarwch adfer a draenio tir, er na ddyddiwyd unrhyw dystiolaeth yn uniongyrchol. Lleolir morglawdd cynharach, llawer llai amlwg, 200m i'r gorllewin o'r morglawdd presennol. 'New Marsh'oedd enw'r caeau rhwng y ddau forglawdd ym 1844; gelwid yr un ardal yn 'Enclosed Marsh' ym 1783. I'r gorllewin mae cae a nodir fel 'Old Marsh', a gellir gweld olion ardal wedi'i draenio hirsgwar, lai o faint ar ochr ogleddol y cwm ar ffotograffau a dynnwyd o'r awyr. Mae Plunkett-Dillon a Latham (1987a, 24) yn cyfeirio at ddogfen yn dyddio o 1661 sy'n cyfeirio at 'forglawdd' yn Cwm Ivy, er na wyddom a yw'r wal hon yn cyfateb i'r morglawdd a welir heddiw. Maent yn awgrymu bod Morfa Llanmadog yn dir pori cyffredin yn yr 17eg ganrif, er ei fod yn eiddo preifat ym 1844, a bod y morglawdd yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol (Locock 1996, 11; Plunkett-Dillon a Latham 1987a, 25, 3). Mae'r ardal hon yn dal i gael ei defnyddio at ddibenion pori.