The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

009 Twyni Tywod Llangynydd, Broughton a Hillend


Ffoto o Dwyni Tywod Llangynydd, Broughton a Hillend

HLCA009 Twyni Tywod Llangynydd, Broughton a Hillend

Tirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: darganfyddiadau ac olion anheddu cynhanesyddol; gweithgarwch diwydiannol ôl-ganoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Tywod Llangynydd, Broughton a Hillend yn dirwedd wedi'i gorchuddio â thywod a chanddi gryn botensial archeolegol. Dynodir ffiniau'r ardal gan y marc penllanw cymedrig a'r ardal fewndirol o systemau twyni tywod yn Broughton, Llangynydd a Hillend. Mae systemau twyni tywod yr ardal wedi'u sefydlogi gan lystyfiant, er eu bod yn parhau yn ansefydlog ar hyd y cyrion. Mae'r ardal yn ffinio â'r clogwyni yn Burry Holmes a Rhosili, tra bod y tywodydd yn ymestyn dros ddaeareg soled y clogwyni, eu hunain. Mae ei phwysigrwydd hanesyddol penodol yn deillio nid o wyneb presennol y ddaear, ond o'r dystiolaeth am ddefnydd tir blaenorol sydd wedi'i chadw o dan y tywodydd. Cynrychiolir gweithgarwch cyn-ganoloesol yn bennaf mewn darganfyddiadau gwasgaredig, ond ceir safleoedd hefyd yn dyddio o'r Cyfnod Mesolithig, yr Oes Efydd, yr Oes Haearn a dechrau'r Cyfnod Canoloesol ar Burry Holms gerllaw. O fewn yr ardal ei hun nodwyd un safle anheddu pendant, sef clostir yn dyddio o'r Oes Haearn (00031w); wal clostir tua 30m ar ei thraws ac iddi wyneb o rwbel, sy'n amgylchynu tua 0.07ha; a mynedfa bosibl i'r de. Mae wal, sy'n gysylltiedig â deunydd tomenni ysbwriel, yn ymestyn i'r de-ddwyrain o'r fynedfa. Nodwyd nodwedd clostir arall (00066w) ychydig i'r de-ddwyrain, y dehonglir ei bod yn amddiffynfa gylch bosibl, mae'n fwy tebyg bod y safle hwn yn cynrychioli olion corlan ôl-ganoloesol.

Nid oes fawr ddim gwybodaeth ychwanegol am Dwyni Tywod Llangynydd, Broughton a Hillend; fodd bynnag, pwysleisir potensial archeolegol sylweddol yr ardal gan yr hyn a wyddom am ardaloedd cyfagos. O fewn yr ardal gyfagos i'r gogledd ceir anheddiad Burry Holmes sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol a dechrau'r cyfnod canoloesol, ac i'r de, anheddiad Canoloesol wedi'i orchuddio â thywod, a ddisgrifir orau efallai fel Rhosili Isaf, y cloddiwyd rhan ohono ym 1981, i ddatgelu eglwys a rhan o adeilad seciwlar. Adeiladwyd yr adeilad seciwlar mewn ardal, a oedd eisoes wedi'i rhannol orchuddio â thywod ac a oedd yn ôl pob tebyg yn dwyni tywod sefydlog bryd hynny (Davidson ac eraill 1987). Yn draddodiadol ystyrir mai 'Rhosili Isaf' yw rhagflaenydd yr anheddiad presennol ar y llwyfandir sy'n edrych dros y Twyni Tywod, ond mae canlyniadau'r gwaith cloddio, a chasgliadau ailystyried y dystiolaeth ddogfennol, yn awgrymu bod anheddu yn y ddau anheddiad wedi gorgyffwrdd (Toft 1985, 53-4). O dan y dehongliad diwygiedig hwn, awgrymwyd i'r pentref uchaf a'r pentref isaf gael eu sefydlu rywbryd yn y drydedd ganrif ar ddeg (Davidson ac eraill 1987, 257-8), ond efallai fod rheswm dros gredu i'r ddau gael eu sefydlu cyn y Goresgyniad Normanaidd. Mae dwy o siarteri Llandaf yn ymwneud ag ystadau cyfagos, sef Lann Cingulan a Lann Gemei; mae Davies (1978, 135; 1979, 97, 124) yn awgrymu mai Rhosili oedd Lann Cingulan. Fodd bynnag, mae'r topograffi yn cyd-fynd orau â'r patrwm anheddu os mai Lann Cingulan yw'r Twyni Tywod, y nodir bod ei ffiniau 'rhwng y ddwy ffos tua'r môr ac i fyny ar hyd y ddwy ffos i'r mynydd ar hyd y Cecin, sef ffin Llan Gemei' (Evans 1893, 144, 369), ac os mai Lann Gemei yw pentref Rhosili.