Gwyr
061 Pennard
HLCA061 Pennard
Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol sydd mewn cyflwr da: llain-gaeau canoloesol/ôl-ganoloesol ffosiledig; aneddiadau amaethyddol ôl-ganoloesol gwasgaredig; ffermydd/bythynnod ôl-ganoloesol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol ôl-ganoloesol; eglwys ganoloesol ar wahân a chysylltiadau eglwysig cynnar. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Pennard yn cynnwys caelun a ddiffinnir gan y dirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol sydd mewn cyflwr da o fewn plwyf Pennard, sy'n cynrychioli'r mosäig gwreiddiol o gaeau yn dyddio o'r cyfnod cyn y bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd wedi goroesi heb fawr ddim newidiadau nac enghreifftiau o gyfuno caeau. Mae'r llwybr wedi'i darmacio i Southgate yn nodi'r ffin ogleddol. Mae'r ardal yn cynnwys pentrefan Pennard, ond nid yw'n cynnwys anheddiad estynedig diweddarach Southgate, yr ymdrinnir ag ef ar wahân o dan HLCA 062. Mae'r ardal yn cynnwys rhan fach ar wahân sy'n debyg o ran cymeriad i orllewin Southgate. Lleolir y brif ffin ddwyreiniol rhwng daliadau cyfunedig Widegate a rhai Kittle a Kittle Hill yn yr ardal gyfagos.
Ceir sôn am Bennard ym 1353, mewn rhestr yn cynnwys 25 o ffioedd, a gasglwyd gan Mowbray, Arglwydd Gwyr bryd hynny (Nicholl 1936,168). Mae Rice Merrick, ac yntau'n ysgrifennu ar ddiwedd yr 16eg ganrif yn nodi bod yr eglwys ym Mhennard yn perthyn i Goleg yr Holl Saint, ac mae'n cadarnhau ei bod wedi'i chysegru i'r Santes Fair. Mae hefyd yn nodi ty Widegate, 'ty Rheinallt Jenkin(?)' gynt, y rhannwyd ei fywoliaeth rhwng ei dair merch.'
Cysylltwyd y safle canoloesol cynnar a elwir yn Llan Arthbodu (00328w, 05260w); rhodd o bedwar darn o dir: 'cellam quidem Cyngualan cum sua tota tellure and Cella Arthuodu, Congurique and Penncreic' gan Athrwys ap Meurig i Esgob Euddogwy (Davies 1979, 97), cell fynachaidd bosibl y cyfeirir ati yn Llyfr Llandaf [LL 144; c.650] yn betrus â chae wyth erw o faint hanner ffordd rhwng High Pennard a Hunt's Farm a elwir yn Bodies Acre ar y map degwm. Efallai fod ffynnon, ychydig y tu allan i'r darn o dir âr, yn gysylltiedig ag ef, fodd bynnag gellid yn hawdd gysylltu'r safle hwn â'r clostir allanol a nodwyd yn eglwys y Santes Fair, gweler isod (Morgan yn RRISW 1924-5, 26; Evans 2003).
Lleolir eglwys y Santes Fair ym Mhennard (00327w; 400053; LB 11537 II) o fewn mynwent bedeironglog (05248w) yn ddigyfnewid ers y map degwm, lle y'i lleolir o fewn clostir cromliniol allanol posibl a nodir gliriaf i'r gogledd-orllewin. Ystyriwyd mai'r eglwys blwyf bresennol yw'r ddiweddaraf o ddwy eglwys ganoloesol ym Mhennard, ond ni phrofwyd hyn. Gadawyd yr eglwys arall gerllaw Castell Pennard erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg am iddi gael ei gorchuddio â thywod a dywedir i ddarnau o'r safle hwn gael eu hachub a'u hymgorffori yn yr eglwys sydd wedi goroesi. Mae'r eglwys, a adferwyd ym 1847, a bwa'r gangell a newidiwyd ym 1891 a'r festri a ychwanegwyd ym 1899, yn dal i gynnwys cryn dipyn o adeiladwaith ac addurniadau canoloesol (Davies a Toft 1993; Newman 1995, 505-6).
Mae 'History of the Parish of Gower' a ysgrifennwyd gan Harding yn rhoi disgrifiad o'r faenor o arolwg dyddiedig 1745, tra bod Arolwg Gabriel Powell dyddiedig 1764 yn rhoi'r un manylion, gan gyfeirio at ddibyniaeth ar amaethyddiaeth a physgota'r glannau (Harding 2000,11-12; Morris gol 2000, 139-142). Yn ystod y ddeunawfed ganrif roedd yr ardal gyffredinol yn gysylltiedig â smyglo, a rhyw William Arthur, tenant Fferm Great Highway rhwng 1783 a 1794, oedd arweinydd drwg-enwog gang o smyglwyr.
Ymddengys na fu fawr ddim datblygiadau diwydiannol ym Mhennard, ar wahân i odynau calch a chwareli calch. Cofnodir bod calchfaen yn cael ei gloddio yn y Faenor yn yr arolwg Cromwellaidd dyddiedig 1650. Buwyd yn cloddio calchfaen at ddibenion cynhyrchu calch amaethyddol ar raddfa fawr yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol i ateb y galw cynyddol am yd a'r angen cyfatebol i wella tir yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg a'r ddeunawfed ganrif. Yn ogystal â nifer fawr o odynau calch a chwareli, mae'r argraffiad cyntaf yn nodi mân nodweddion yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth gan gynnwys pyllau llifiau (fel y nodwyd yn James Grove).
Hyd y gellir gweld ni fu fawr ddim newid yn y patrwm caeau na'r ardal a oedd wedi'i hamgáu rhwng map degwm 1848 ac argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1878. Mae'r map degwm yn dangos bod y gwaith o gyfuno daliadau unigol yn perthyn i'r gyn-system caeau agored ganoloesol yn dal i fynd rhagddo; erbyn canol y 19eg ganrif roedd y daliadau tir yn dal i fod yn dameidiog i raddau, ac roedd ffermydd yn dal llain-gaeau unigol neu grwpiau o lain-gaeau amgaeëdig o fewn ardaloedd a fyddai wedi cynnwys caeau agored canoloesol mawr a oedd wedi'u rhannu'n rhandiroedd. Ymddengys fod darnau o dir âr a dolydd wedi'u gwasgaru mewn ffyrdd tebyg. Gwnaed rhywfaint o waith i gyfuno caeau llai o faint yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Ymddengys fod patrwm anheddu/dosbarthiad aneddiadau'r ardal yn ei le erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, fel y nodir ar y cynlluniau ystâd, ac ni nodir fawr ddim newid ar y map degwm, nac yn wir ar argraffiad 1af map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1879, ar wahân i rai ychwanegiadau bach at yr aneddiadau a fodolai eisoes, yr ymddengys eu bod yn cynnnwys clystyrau yn Widegate, High Pennard (a Southgate o fewn HLCA 062 gerllaw). Fodd bynnag mae anheddiad Widegate wedi crebachu rywfaint erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ymddengys fod y fferm wreiddiol ac adeiladau eraill yn Widegate wedi'u gadael, o blaid fferm Widegate Lower (a ailenwyd yn Widegate), proses, yr ymddengys iddi barhau yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Dangosir nifer fawr o odynau calch segur a chwareli cysylltiedig ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO map dyddiedig 1878 ledled yr ardal, ond ceir crynhoad nodedig yn yr ardal o amgylch anheddiad clystyrog Widegate. Ymddengys fod y mwyafrif o'r odynau calch hyn wedi diflannu, megis yr un yn Green Lane (02514w), a gollwyd yn ôl pob tebyg trwy amaethu, neu eu bod yn parhau i fod yn anhysbys o ran eu math neu eu cyflwr, gan gynnwys dwy ym Mhennard (02516w a 02519w) a Pwll Du Head (02520w). Un eithriad yw'r odyn yn Kilsaran (02286w), y nodwyd mewn Arolwg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei bod o ddiddordeb arbennig: mae Toft yn nodi lleoliad yr odyn ond ymddengys na chanfu unrhyw gyfeiriad ati ar fapiau'r AO. Fodd bynnag, dengys ffotograff a argraffwyd yn Holt 1996 (tud34) olion odyn sefydlog fawr a chanddi dau dwll mynediad a thawddlestr. Mae'r ddau dwll mynediad sy'n weladwy yn dra adfeiliedig ac wedi'i gorchuddio â llystyfiant isel. Ymddengys fod to a wal flaen yr odyn wedi dymchwel.