The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

069 Welsh Moor a Thir Comin Forest


Ffoto o Welsh Moor a Thir Comin Forest

HLCA069 Welsh Moor a Thir Comin Forest

Tir comin agored: prysgwydd nas rheolir; llwybrau cysylltu; a nodweddion archeolegol claddedig/creiriol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Welsh Moor a Thir Comin Forest yn cyfateb i'r tir comin agored a elwir yn Welsh Moor a Thir Comin Forest, sydd yn ei hanfod yn barhad o dir comin Pengwern a Mynydd Llwynteg tua'r gorllewin.

Ar ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, roedd pobl wedi bod yn tresmasu ar Welsh Moor, Tir Comin Forest a Thir Comin Pengwern gerllaw o gyfeiriad ffermydd Cilibion a Llethrid, i ffurfio'r ffiniau dwyreiniol a deheuol presennol, tra ymddengys fod prosesau tebyg ar waith yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg ar hyd ffiniau gogleddol a gorllewinol y tir comin, ac roedd ffiniau presennol yr ardal wedi'u sefydlu erbyn y ddeunawfed ganrif.

Tra ystyrir mai Welsh Moor a Thir Comin Forest yw'r unig ddarn mawr o dir comin a oedd yn dal i fodoli yng Ngwyr Uwch Coed erbyn 1400, ychydig a wyddom am archeoleg yr ardal. Nodwyd nifer o nodweddion creiriol posibl o ddyddiad anhysbys o ffotograffau a dynnwyd o'r awyr gan gynnwys caeau aneddiadau (SS52471 92701 a SS52433 92749) a chaeau mwy o faint/tir y tresmawyd arno yn (SS52464 92796) a nodwedd gromliniol fawr ar Dir Comin Forest rhwng SS52808 92574 a SS53055 92440. Mewn mannau eraill nododd arolwg a wnaed ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol glawdd (SS5161 9282 - SS5172 9276) o ddyddiad anhysbys (Poucher 2003). Buwyd yn defnyddio'r ardal ar gyfer pori anifeiliaid ers y cyfnod canoloesol.