Gwyr
066 Cil Ifor
HLCA066 Cil Ifor
Tirwedd o aneddiadau amddiffynedig cynhanesyddol a chanoloesol (bryngaer ac amddiffynfa gylch Cil Ifor): caeau amaethyddol ôl-ganoloesol; prysgwydd a choetir; archeoleg greiriol a chladdedig; nodweddion dwr. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Yn ffinio ag ardal tirwedd hanesyddol Cil Ifor i'r gogledd, i'r de ac i'r gorllewin ceir ffyrdd modern ac i'r dwyrain ceir tir coediog. Mae'r ardal yn cynnwys y darn rhagdybiedig o gyn-dir comin gerllaw bryngaer Cil Ifor a'r ardal o'i hamgylch.
Lleolir Cil Ifor ar dir uchel tua 120m uwchlaw lefel y môr ar esgair sy'n ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain rhwng Welshmoor a Llanrhidian ac mae ganddo olygfeydd eang dros y morfeydd heli, tir isel, Aber Afon Llwchwr a Chefn Bryn.
Bu bryngaer amlgloddiog Cil Ifor (00233w, 301311, SAM GM124) yn ganolbwynt i weithgarwch o'r Oes Haearn. Er na ddarganfuwyd unrhyw dystiolaeth ddyddio uniongyrchol yn y gaer, mae ei ffurf fel Oes Haearn (IA) dosbarth 'B', gwersyll teras fel y'i gelwir, yn golygu ei fod yn dyddio o rywbryd cyn y ganrif gyntaf OC, ac mae'n unigryw ym Mro Gwyr. Yn ddiau byddai anheddiad amddiffynnol mor fawr (sy'n cwmpasu tua 3ha) wedi cael cryn ddylanwad ar yr ardaloedd o'i amgylch yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n debyg i bobl barhau i fyw yn y gaer neu yn wir yr ardal o'i hamgylch i mewn i'r cyfnod Rhufeinig, er nas oes unrhyw dystiolaeth i ategu hynny. Dengys ffotograffau a dynnwyd o'r awyr glostir mawr posibl neu glostiroedd i'r de-orllewin o'r gaer, yr ymddengys fod ganddynt nifer o nodweddion yn y canol. Ni chofnodwyd y safle hwn o'r blaen a gall fod yn arwydd o weithgarwch anheddu pellach yn yr ardal.
Ailddefnyddiwyd y safle yn ystod y cyfnod Canoloesol fel y tystia amddiffynfa gylch (00236w, SAM GM124) ym mhen de-ddwyreiniol y gaer y tu mewn i'r clostir. Nid oes unrhyw gofnod o gastell yma, fodd bynnag, awgrymwyd efallai mai dyma leoliad castell 'coll' y teulu Tuberville. Roedd ardal Cil Ifor yn gysylltiedig â maenor Landimôr yn ystod y ddeuddegfed ganrif pan oedd y teulu Tuberville yn meddu ar ddaliad tir helaeth ym Mro Gwyr. Awgrymir Cil Ifor a'r amddiffynfa gylch ar North Hill Tor fel lleoliadau posibl eu plasty ym Mro Gwyr. Mae ceuffordd dybiedig (00937.0w) yn dyddio o'r cyfnod Canoloesol yn ymddolennu i fyny llethr y gaer sy'n wynebu'r gorllewin, gan derfynu wrth y cloddwaith yn y pen gorllewinol.
Mae'r ardal o amgylch Cil Ifor Top yn yr HLCA hon yn cynnwys cymysgedd o dir amaethyddol a phrysgwydd a choetir (cyn-dir comin). Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO gaeau mawr, amrywiol ynghyd â thir comin i'r gogledd o'r ardal sy'n cynnwys hen chwarel a phwll graean. Mae'n debyg bod y tir ffermio yn perthyn i Fferm Cil Ifor ychydig i'r gorllewin o'r ardal. Ni fu fawr ddim newid yn yr ardal ers cyhoeddi argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO ar wahân i'r ffaith bod caeau wedi'u cyfuno. Ceir rhai ysguboriau ôl-ganoloesol yn yr ardal hefyd (02695w).