Gwyr
070 Cillibion
HLCA070 Cillibion
Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol sy'n cynnwys coetir a chyn-faenor ganoloesol: caelun canoloesol gweddilliol; ffermydd; nodweddion diwydiannol ôl-ganoloesol; rheoli coetir; anheddiad canoloesol anghyfannedd; archeoleg gladdedig; a llwybrau cysylltu. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Cilibion yn cynnwys maenor Cilibion, fwy neu lai, gan gynnwys plasty (03215w) o'r un enw i'r de o Welsh Moor a Thir Comin Forest.
Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw dystiolaeth archeolegol gofnodedig ar gyfer yr ardal cyn y cyfnod canoloesol. Fodd bynnag, mae gan ardal gyfagos Cefn Bryn (HLCA 038) gyfoeth o dystiolaeth yn dyddio o'r cyfnod Mesolithig hyd yr Oes Haearn.
Perthynai'r faenor hon, a oedd yn anheddiad Cymreig cynnar a sefydlwyd cyn i'r Normaniaid gyrraedd, yn ddiweddarach i Urdd Sistersaidd Abaty Castell-nedd ac roedd cysylltiad agos rhyngddi a Maenor gyfagos Walterston (HLCA 063), a ddelid yn ei chyfanrwydd gan Abaty Castell-nedd fel un ffi marchog. Mae Rice Merrick yn cofnodi pentrefan yng Nghilibion yn yr unfed ganrif ar bymtheg; nid yw union leoliad y pentref a'r plasty yn hysbys er y gellir dyfalu bod y prif anheddiad wedi'i leoli yn ardal Little Cilibion.
Yn dilyn diddymu Abaty Castell-nedd ym 1539 gosodwyd y tir ar brydles i Syr Richard Cromwell; yn ddiweddarach prynwyd maenorau Cilibion a Walterston gan David Jenkins a John a William Price (Rees 1984). Cofnododd arolwg o'r faenor a awdurdodwyd gan John Price ym 1689 fod y rhan fwyaf o'r tir demên wedi'i gosod ar brydles i denantiaid yr oedd ganddynt yr hawl i dorri eithin a rhedyn ac i bori gwartheg ar dir comin y faenor. Gwahanwyd maenor Cilibion oddi wrth Walterston rywbryd yn yr ail ganrif ar bymtheg pan werthwyd yr olaf i Thomas Mansel (Rees 1984). Mae rhywfaint o wrthddweud o ran a oedd Cilibion yn eiddo i'r teulu Mansel hefyd ac o ran pryd caffaelwyd Walterston am fod Draisey (2002) yn nodi bod y ddwy faenor yn perthyn i Syr Edward Mansel adeg yr Arolwg Cromwellaidd (1650). Rywbryd yn yr ail ganrif ar bymtheg roedd gweithgarwch amgáu tir yn yr ardal wedi cyrraedd Welsh Moor fel y tystia Queen's Meadows (Cooper 1998). Cyfunwyd y daliadau amaethyddol o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen ac mae olion system o lain-gaeau i'w gweld hefyd yn rhannau deheuol a gorllewinol yr ardal.
Erbyn Arolwg Powell dyddiedig 1764 roedd Cilibion yn dal i fod ym meddiant y teulu Price, fodd bynnag, yn y diwedd daeth y faenor i feddiant y teulu Cameron a adeiladodd y ffermdy yng Nghilibion yn y 1830au. Gwerthwyd y faenor wedyn i Hussey Vivian (a ddaeth yn Arglwydd cyntaf Abertawe yn ddiweddarach) yn y 1850au a brynodd Ystâd Gellihir gan y teulu Cameron hefyd. Gosodwyd Cilibion ar brydles i George Gower o Norfolk ac wedyn i'r teulu Harry o 1870. Roedd y teulu Vivian yn gyfrifol am osod y blanhigfa yng ngogledd yr ardal yn y 1860au ynghyd â choedwig fach ar gyfer golosg (02163w) gerllaw'r fynedfa i'r blanhigfa yn Llethrid; cludid golosg i'r gwaith copr a berthynai i'r Arglwydd Vivian yn Hafod (Rees 1981) ac fe'i defnyddid hefyd yng Ngwaith Asid Llethrid a adeiladwyd gan Vivian ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y mae olion ohono wedi goroesi.
Roedd anheddu yn yr ardal erbyn dyddiad argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO wedi'i gyfyngu i raddau helaeth i ffermydd Cilibion a Little Cilibion ar gwr Cefn Bryn fwy neu lai fel y mae heddiw ar wahân i fferm Penrose a ychwanegwyd. Ni wyddom a yw'r naill fferm neu'r llall wedi'i lleoli ar safle pentrefan canoloesol Cilibion neu'r faenor Sistersaidd, fodd bynnag, gallai gweddill o'r aneddiadau canoloesol anghyfannedd fod wedi'u lleoli yn yr ardal hon o amgylch Cefn Bryn. Yn ddiau mae'r system gaeau bresennol yn dirwedd greiriol yn dyddio o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol ac mae'n debyg iawn i argraffiad cyntaf map yr AO. Isrannwyd rhai caeau ymhellach, sy'n anarferol, a cheir caeau newydd yn arbennig o amgylch ardal fferm ddiweddar Penrose. Mae'n debyg i ffiniau caeau a welir heddiw yn rhan ddeheuol a gorllewinol yr ardal hon gael eu sefydlu yn y cyfnod canoloesol, tra bod y patrwm caeau a'r coetir i'r gogledd yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Cliriwyd y rhan fwyaf o'r coetir o'r blanhigfa a osodwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i helpu i sicrhau llwyddiant yn y rhyfel ym 1914 (Rees 1981); erbyn hyn mae'r ardal yn cynnwys planhigfa gymysg fodern ynghyd â choetir hynafol i'r dwyrain.