Gwyr
081 Bae Langland
HLCA081 Bae Langland
Tirwedd rynglanwol: traeth a graean bras; ymelwa ar y môr; masnach a thrafnidiaeth; a llongddrylliadau (ar y môr). Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Bae Langland gan derfynau tir amgaeëdig, ymyl clogwyn ac fe'i lleolir rhwng y marc penllanw cymedrig a'r marc distyll cymedrig a ddangosir ar fap 1:10000 yr AO a rhwng clogwyni creigiog Rotherslade a Newton.
Ni chofnodwyd unrhyw dystiolaeth archeolegol yn yr ardal eto. Mae'n debyg i'r ardal gael ei defnyddio ar gyfer masnach arfordirol, a physgota ers y cyfnod cynhanesyddol, ond nid oes unrhyw dystiolaeth uniongyrchol ar gael ar hyn o bryd. Unwaith eto efallai i'r ardal gael ei defnyddio ar gyfer allforio calchfaen a chynhyrchion calch yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a nodwyd odynau calch a chwareli heb fod ymhell o'r arfordir.
Ceir nifer o longddrylliadau yn y dyfroedd oddi amgylch, yn arbennig y SS Tyne, a suddodd ym 1919. Roedd y llong hon a oedd yn pwyso 2,909 o dunelli, a adeiladwyd gan R Napier a'i feibion ar gyfer Cwmni Pacedlongau'r Post Brenhinol ym 1900, ar ei ffordd i o Lundain i Santos, pan wrthdarodd â'r Sgwner Ffrengig Fleur de Mer, ar ei ffordd allan o Gaerdydd, torrwyd yr olaf yn ddau. Aeth y Tyne ar lawr yn Langland ar ôl codi goroeswyr, ond fe'i hail-nofiwyd yn ddiweddarach ac fe'i haliwyd i Abertawe er mwyn iddi gael ei hatgyweirio. Un arall oedd y badlong Leonora; daethpwyd ag ef i'r lan yn Langland ym 1913 ar ôl iddo fod mewn gwrthdrawiad hefyd, y tro hwn â thynfad, yr Atlas (Edmunds 1979).
Yng nghanol y 19eg ganrif datblygodd teuluoedd dosbarth canol cyfoethog, megis y teulu Crawshay, y teulu blaenllaw o ddiwydianwyr yr ymyl arfordirol yn yr ardal hon ar gyfer eu filâu. Heddiw mae'r ardal yn chwarae rôl gynyddol ym maes twristiaeth ac yn ffinio â'r ardal ceir datblygiadau glan môr ar ffurf cabanau gwyliau, gwestai, cyrtiau tennis a meysydd parcio. Mae'r bae hwn yn fan poblogaidd lle y gall pobl leol a thwristiaid fwynhau gweithgareddau hamdden.