Gwyr
082 Maenor Cil-frwch
HLCA082 Maenor Cil-frwch
Ystâd fonedd ôl-ganoloesol, tirwedd parcdir a gynlluniwyd: ty a gerddi mewn cyflwr da sy'n dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif/dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; gerddi ffurfiol ac anffurfiol; ffugadeilad; adeiladau cysylltiedig; a chysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Maenor Cil-frwch yn cyfateb i barc a gardd restredig Maenor Cil-frwch (PGW (Gm) 51) a'u lleoliad hanfodol.
Lleolir Maenor Cil-frwch (19106; 01501w; 02895w; LB 11538 II*) i'r gogledd-ddwyrain o Dwyni Tywod Pennard ac i'r gogledd-orllewin o eglwys Pennard ychydig oddi ar ffordd yr A4118. Arferai Cil-frwch berthyn i ffi Kittle ac felly maenor Pennard erbyn y drydedd ganrif ar bymtheg. Fodd bynnag, cofnodir ei fod yn ffi ynddi ei hun gan William de Langton ond ni cheir sôn amdani yn siarter de Breos ddyddiedig 1306 (Draisey 2002). Erbyn 1583 roedd yr ardal ym meddiant Rowland Dawkins a John Bowen ar y cyd ac roedd yn dal i fod ym meddiant y ddau deulu hyn ym 1650 (Cadw 2000). Roedd y teulu Dawkins yn deulu blaenllaw, roedd Rowland Dawkins yn aelod seneddol yn Ne Cymru ac yn y ddeunawfed ganrif bu William Dawkins yn gwasanaethu fel yr Uchel Siryf. Erbyn 1740 ailadeiladwyd y ty a rywbryd yn ystod y 1770au ymestynnwyd y ty tua'r gorllewin. Bu farw William Dawkins ym 1774 gan adael yr ystâd i'w ferch Mary, Ardalyddes de Choiseul. Gosododd y ty ac yn y pen draw fe'i gwerthodd ym 1820 i Thomas Penrice. Arhosodd yr ystâd ym meddiant y teulu Penrice nes iddi gael ei throsglwyddo i'r Arglwyddes Lyons ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd fe'i defnyddiwyd fel gorsaf i filwyr ac erbyn hyn mae'n ganolfan gweithgareddau awyr agored sy'n perthyn i Gyngor Swydd Rydychen (Cadw 2000).
Mae'r parcdir yng Nghil-frwch (265710) yn gymharol fach. Fe'i lleolir i'r de ac i'r de-orllewin o'r plasty ac mae'n debyg ei fod yn perthyn i'r un cyfnod â'r estyniad a adeiladwyd yn y 1770au. Fodd bynnag, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymestynnai'r parcdir i'r de hyd at y ffordd ac i'r gogledd-orllewin i Gwm Ilston (Cadw 2000). Mae'r parc yn cynnwys twr ffug (23081, LB 22839 II), strwythur bach crwn di-do hwn ac arno furfylchau yr oedd ganddo ddwy lefel ar un adeg. Saif y ty ynghanol y gerddi sy'n cynnwys gardd lysiau i'r gogledd a thy gwydr adfeiliedig, a ymgorfforwyd bellach yn yr ardd addurniadol; a gardd Eidalaidd i'r de sy'n cynnwys lawnt suddedig fawr yng nghanol prysgwydd a choed a hen bistyll (Cadw 2000). Ymddengys i'r ddwy ardd hyn gael eu sefydlu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y tystia'r casgliadau o rododendronau a blannwyd ynddynt. I'r gorllewin o'r prif dy ceir Kilvrough Lodge (302183) a adeiladwyd ym 1872. Disgrifir hanes y parc a'r ardd yn fanylach yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi yng Nghymru, Cadw 2000.