Gwyr
086 Llandeilo Ferwallt
HLCA086 Llandeilo Ferwallt
Tirwedd anheddu a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad cnewyllol; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; caelun amrywiol a arferai fod yn gaelun amgaeëdig mwy rheolaidd a rhwydwaith ffyrdd; cysylltiad eglwysig yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol neu'r cyfnod canoloesol; diwydiant gwledig - echdynnu/prosesu; ac archeoleg gladdedig. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Llandeilo Ferwallt yn cynrychioli, fwy neu lai, y cnewyllyn canoloesol, cynharach o dir amgaeëdig sy'n gysylltiedig â daliad eglwysig Llandeilo Ferwallt ac sy'n cwmpasu prif anheddiad Llandeilo Ferwallt, a leolir tua'r gogledd-orllewin o'r ardal, ac anheddiad Gwern y Llaeth gerllaw i'r dwyrain sydd bellach wedi'i gyfuno â Llandeilo Ferwallt, a'r system gaeau gysylltiedig. Mae'r ardal yn ffinio â Dyffryn Llandeilo Ferwallt i'r gorllewin, Tir Comin Barland a thirwedd Wernllath i'r gogledd sy'n dyddio yn bennaf o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae'r brif ffordd sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin, sef ffordd y B4436, yn torri trwy derfynau gogleddol yr ardal. Mae craidd hen anheddiad Llandeilo Ferwallt, a leolir yn union i'r de ac i'r dwyrain o'i ganolbwynt eglwysig, sef eglwys Teilo Sant, wedi'i ddynodi fel ardal gadwraeth (EV 9) yng Nghynllun Datblygu Unedol Abertawe.
Dengys y map degwm ar gyfer Llandeilo Ferwallt gaelun rheolaidd iawn yn yr ardal i'r de o'r ffordd, sef ffordd bresennol y B4436, a phentref Llandeilo Ferwallt fel datblygiad strimynnog yn bennaf sy'n ymestyn tua'r de o'r eglwys, ac anheddiad cnewyllol bach yng Ngwern y Llaeth. Mae'r caelun hwn yn cynrychioli system o gaeau agored nad oedd wedi newid fawr ddim erbyn y cyfnod hwnnw, ac sydd wedi goroesi i raddau helaeth, er bod y lleiniau bellach wedi'u troi'n gaeau trwy blannu gwrychoedd o'u hamgylch, a chyfunwyd llawer o grwpiau bach o leiniau i greu caeau mwy o faint. Mae Kissock (1991) yn dadlau bod y system gaeau yn dyddio o gyfnod y daliad eglwysig cyn-Normanaidd a elwid (ymhlith enwau eraill) yn Lann Cinuur, a gysylltir â'r ystâd esgobol yma (a arferai fod yn ystâd frenhinol), a ddelid gan esgobaeth Llandaf (Davies 1979, 97-8).
Datblygodd Pentref Llandeilo Ferwallt a'i aneddiadau dibynnol yn ystod yr ugeinfed ganrif gan ddefnyddio'r cynllun caeau hwn fel matrics i adeiladu arno. Dengys argraffiad cyntaf map 6 modfedd yr AO a'i fersiwn diwygiedig dyddiedig 1913 na fu fawr ddim newid ers adeg arolygu'r map degwm. Dengys argraffiad cyntaf map 1:25,000 yr AO, a wnaeth ddefnydd helaeth o'r pedwerydd argraffiad gyda rhai diwygiadau, rywfaint o ddatblygiadau strimynnog ar hyd y rhwydwaith o lonydd, a gysylltai bentrefannau Manselfield, Gwern y Llaeth ac Oldways i bentref Llandeilo Ferwallt.
Gwelodd ail hanner yr ugeinfed ganrif gryn gynnydd yn y gwaith datblygu hwn, sy'n dal i adlewyrchu, fodd bynnag, gynllun sylfaenol y llain-gaeau lle yr adeiladwyd tai, ac sy'n gadael cyfran annisgwyl o gaeau i ffwrdd o ffryntiad y ffyrdd nad adeiladwyd arnynt, sy'n cadw natur amaethyddol yr ardal.
Heddiw nodweddir y pentref gan gymysgedd o arddulliau tai. Bythynnod a ffermydd llai o faint yn yr arddull frodorol yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd ddechrau'r ugeinfed ganrif a geir yn bennaf yn y canolau gwreiddiol, a cheir mathau olynol o dai yn dyddio o ddiwedd yr ugeinfed ganrif yn ymestyn ar hyd y ffyrdd rhyngddynt ac mewn ardaloedd prin a fewnlenwyd (Evans 2003a Landmap H16 Bishopston (SWNSHL957)).
Amharwyd gryn dipyn ar dirwedd adeiledig Llandeilo Ferwallt pan gollwyd Ty Backingston a Thy Bishopston. Roedd Backingston (01728w; 17984) yn dy pwysig iawn o ran pensaernïaeth frodorol Bro Gwyr ac ymgorfforai'r holl nodweddion sy'n nodweddiadol o Fro Gwyr. Perthynai yn wreiddiol i'r grwp cefn at y fynedfa, tair uned o dai yn dyddio o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg neu o gyfnod cynharach ac roedd ganddo neuadd rhwng ystafelloedd allanol ac ystafelloedd mewnol wedi'u cynhesu (RCAHMW 1988, 22). Adeiladwyd Ty Bishopstone (02146w; 18033) a gysylltir â'r teulu Hancorne (Lyle 1982, 22-34), ond a ddymchwlwyd yn y 1950au yn anffodus, tua 1600 ac mae'n cynnwys ychwanegiadau yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ganddo ddau lawr ac mae'n arddangos nodweddion sy'n nodweddiadol o Fro Gwyr megis y grisiau sy'n codi dros y fynedfa (RCAHMW 1988, 38).
O'r unfed ganrif ar bymtheg roedd llosgi calch yn ddiwydiant pwysig ym Mro Gwyr, ac roedd yn arbennig o bwysig yn y ddeunawfed ganrif, sef cyfnod y gwelliannau amaethyddol. Cludid llawer o'r calch ar longau i dde-orllewin Lloegr, lle y'i defnyddid i wella priddoedd tra asidig y rhostiroedd. Cynhwysai calchfaen Bro Gwyr lawer o fagnesiwm, ac roedd yn enwog am ei fod yn hawdd ei losgi â naill ai coed neu lo (Morgan (gol) 1980; Toft 1988b, 65-6).