Gwyr
062 Southgate
HLCA062 Southgate
Anheddiad amaethyddol ôl-ganoloesol, a thirwedd anheddu ddiweddarach yn dyddio o'r ugeinfed ganrif: ffermydd/bythynnod gwasgaredig sydd wedi'u bwrw i'r cysgod bellach gan ddatblygiadau strimynnog a gwaith mewnlenwi ystadau yn dyddio o'r 20fed ganrif, pensaenïaeth frodorol ôl-ganoloesol; a thai o fath arfordirol yn dyddio o'r ugeinfed ganrig gan gynnwys filâu. Nandocirc;l i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Southgate yn ardal anheddu a ddiffinnir gan y pentref modern presennol, sy'n cynnwys elfennau o anheddiad ôl-ganoloesol cynharach. Lleolir y dirwedd ganoloesol/ôl-ganoloesol gysylltiedig sydd mewn cyflwr da o fewn HLCA 061 gerllaw ac ymdriniwyd â hi ar wahân.
Cafwyd darganfyddiadau Rhufeinig o Sandy Lane gerllaw ac mae gan yr ardal gyffredinol gysylltiadau canoloesol cynnar â'r safle a elwir yn Llan Arthbodu (00328w a 05260w); cysylltwyd rhodd o bedwar darn o dir: 'cellam quidem Cyngualan cum sua tota tellure and Cella Arthuodu, Congurique and Penncreic' gan Athrwys ap Meurig i Esgob Euddogwy (Davies 1979, 97), cell fynachaidd bosibl y cyfeirir ati yn Llyfr Llandaf [LL 144; tua 650] yn betrus â chae a elwir yn Bodies Acre ar y map degwm, er bod y cae hwn yn gyfan gwbl y tu hwnt i derfynau'r ardal (Evans 2003a, 2004).
Roedd yr ardal yn rhan o faenor ddemên Pennard o'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf. Ceir sôn am Bennard ym 1353, mewn rhestr yn cynnwys 25 o ffioedd, a gasglwyd gan Mowbray, Arglwydd Gwyr bryd hynny (Nicholl 1936,168). Gwyddom fod y twyni tywod cyfagos ym Mhennard eisoes yn bodoli erbyn 1316 pan roddodd William de Breos ei 'dir diffaith tywodlyd' i'w heliwr William (Lees a Sell 1983). Gorchuddiwyd yr ardal yn raddol â thywod, ond ymddengys iddo orfodi'r trigolion i adael anheddiad cynharach Pennard yn y diwedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg (gweler HLCA 058). Daeth yr hen anheddiad a'i eglwys (Eglwys y Santes Fair) a'i Gastell, yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, yn gwningar yn ddiweddarach, ac yn fwy diweddar sefydlwyd cwrs golff yn yr ardal. Saif eglwys bresennol yr anheddiad, sef Eglwys y Santes Fair Pennard, er iddi gael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol (00327w; 400053; LB 11537 II), gryn bellter o anheddiad modern Southgate o fewn HLCA061 (Davies a Toft, 1993; Newman 1995, 505-6).
Mae 'History of the Parish of Gower' a ysgrifennwyd gan Harding yn rhoi disgrifiad o'r faenor o arolwg dyddiedig 1745, tra bod Arolwg Gabriel Powell dyddiedig 1764 yn rhoi'r un manylion, gan gyfeirio at ddibyniaeth ar amaethyddiaeth a physgota'r glannau (Harding 2000,11-12; Morris gol 2000, 139-142). Yn ystod y ddeunawfed ganrif roedd yr ardal gyffredinol yn gysylltiedig â smyglo, a rhyw William Arthur, tenant Fferm Great Highway (o fewn HLCA 051) rhwng 1783 a 1794, oedd arweinydd drwg-enwog gang o smyglwyr.
Ymddengys na fu fawr ddim datblygiadau diwydiannol yn Southgate a Phennard, ar wahân i odynau calch a chwareli calch. Cofnodir bod calchfaen yn cael ei gloddio yn y Faenor yn yr arolwg Cromwellaidd dyddiedig 1650. Buwyd yn cloddio calchfaen at ddibenion cynhyrchu calch amaethyddol ar raddfa fawr yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol i ateb y galw cynyddol am yd a'r angen cyfatebol i wella tir yn ystod yr 17eg ganrif a'r 18fed ganrif. Yn ogystal â nifer fawr o odynau calch a chwareli, mae'r argraffiad cyntaf yn nodi mân nodweddion yn gysylltiedig ag amaethyddiaeth gan gynnwys pyllau llifiau (fel y nodwyd yn James Grove).
Ymddengys fod patrwm anheddu/dosbarthiad aneddiadau'r ardal yn ei le erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, ac ni nodir fawr ddim newid ar y map degwm, nac yn wir ar argraffiad 1af map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1879, ar wahân i rai ychwanegiadau bach at yr aneddiadau a fodolai eisoes, yr ymddengys eu bod yn cynnnwys Southgate. Yng ngogledd yr ardal ceir Ty Sandy Lane a bwthyn a dwy res Norton a saif gyferbyn â'i gilydd. Cynhwysai prif anheddiad Southgate dair rhes Fferm Southgate (ty a gardd, ysgubor a stablau ar fap degwm 1848, a ddymchwelwyd bellach ac a arferai sefyll o fewn HLCA 058, Fferm Little Southgate (02706w; 19140) a tua 10 crofft a bwthyn a sefydlwyd mewn strimyn ar hyd y lôn a arweiniai i'r gogledd i'r twyni tywod, yn ogystal â ffermdy Great Southgate (01758w; 18862), a ddangosir wedi'i leoli ychydig ar wahân i'r gorllewin â rhes siâp L gyferbyn ag ef, ac a ymestynnwyd ymhellach erbyn cyhoeddi 2il a 3ydd argraffiad map 25 modfedd yr AO. Ymddengys mai dyma'r unig ddatblygiad o bwys yn yr anheddiad cyn y 1930au. Ychydig ymhellach i'r de o Southgate wedi'i leoli gerllaw'r ffordd ond ar ongl sgwâr iddi ceir nifer fach o fythynnod gwasgaredig, a all fod yn ffermydd bach 'a fethodd' yn dyddio o tua'r 18fed ganrif a sefydlwyd ar randiroedd llain-gaeau, yn ystod y cyfnod a welodd y daliadau amaethyddol yn cael eu had-drefnu yn ddaliadau cyfunedig mwy o faint; pennwyd eu cynllun gan faint a chyfeiriad y llain-gaeau. Mae'r rhain yn cynnwys Broadway, Brinselway (18088), a Bwthyn Broad Pool Cottage.
Erbyn canol y 19eg ganrif erys yr anheddiad wedi'i leoli o fewn matrics o lain-gaeau hirgul, sydd wedi goroesi i raddau helaeth fel daliadau heb eu cyfuno. Ni nodwyd fawr ddim newid yn y patrwm erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif, ar ôl hynny defnyddiwyd mwy a mwy o'r system gaeau o fewn yr HLCA ar gyfer datblygiadau adeiladu, megis 'the Drive' a 'Bendrick Drive'. Yn ystod y 1930au adeiladwyd byngalos gwyliau pren dros dro yma; erbyn 1937 mae arolwg yn cofnodi bod 104 o fyngalos wedi'u hadeiladu yn Sandy Lane ac 20 yn Southgate, ymhlith eraill yn ardal Pennard. Yn dilyn y cyrchoedd awyr ar Abertawe ym 1941 a barodd dair noson, bu trigolion digartref y ddinas yn byw yn y byngalos gwyliau. Yn ystod y 1950au a'r 60au adeiladwyd tai sefydlog yn Southgate a Sandy Lane trwy bryniant gorfodol i adeiladu tai cyngor, yr ychwanegwyd atynt gan ddabtlygiadau preifat (Harding 2000, 114-125).