Gwyr
028 Hillend
HLCA028 Hillend
Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol wedi'i arosod ar batrwm caeau cynharach; ffiniau traddodiadol; aneddiadau ôl-ganoloesol gwasgaredig a nodweddion cysylltiedig. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Hillend yn cynnwys darn o dir amgaeëdig tua phen gorllewinol Tir Comin Cefn Bryn. Cyfatebai'r ardal hon, ynghyd â'r ardal sy'n cynnwys craidd Ystad Fairy Hill (ac eithrio'r lleoliad hanfodol i'r gorllewin o Nant Burry), i'r rhan ar wahân o faenor ganoloesol ddiweddarach Reynoldston. Lleolid yr ardal yn wreiddiol o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, israniad o Gantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, yn Sir Morgannwg.
Nodir bod Reynoldston yn 'hen ffiff marchog' mewn siarter ddyddiedig 1306, fodd bynnag ystyrir bod y siarter hon yn adlewyrchu uchelgeisiau tiriogaethol y sawl a oedd yn gyfrifol amdani, sef William de Breos VII, ac felly mae'n amheus. Awgrymwyd bod maenor Reynoldston ynghyd â'r rhan ohoni sydd ar wahân yn rhan o is-faenor Weble, ac yn rhan o Arglwyddiaeth Landimôr (Nicholl 1936, 40). Credir bod yr ardal hon, ar ddechrau'r cyfnod canoloesol cyn y Goresgyniad Normanaidd, wedi'i lleoli o fewn terfynau maenor Gymreig helaeth, a gynhwysai derfynau gorllewinol a gogleddol Bro Gwyr.
Gwyddom fod maenor Reynoldston yn eiddo i'r teulu Vernon o Haddon Hall yn Swydd Derby o'r 14eg ganrif tan farwolaeth Syr George Vernon ym 1567. Fe'i trosglwyddwyd trwy briodas i Syr Thomas Stanley o Tong, Sir Amwythig ac fe'i gwerthwyd wedyn ym 1574 i Syr Edward Herbert, mab ieuengaf Iarll 1af Penfro (James 1983, 184).
Mae arolwg Gabriel Powell o arglwyddiaeth Gwyr ym 1764, yn seiliedig ar arolwg diweddaredig dyddiedig 1630 a 1665, yn ein hysbysu bod maenor Reynoldston ym meddiant y plentyn ifanc Thomas Mansel Thomas. Mae'r arolwg hwn ac arolygon cynharach yn manylu ar ffiniau'r rhan o'r faenor a oedd ar wahân, sy'n dilyn y ffin y gymuned bresennol.
Ni wyddom eto faint o ddefnydd amaethyddol a wnaed o'r ardal hon yn y cyfnod canoloesol, er bod y patrwm caeau yn Fferm Hillend ychydig yn fwy rheolaidd nag mewn mannau eraill ac ymddengys ei fod yn cuddio system gaeau gynharach yn dyddio o'r cyfnod canoloesol (00099w; 24319), sydd i'w gweld heddiw fel cloddiau sydd wedi'u haredig a marciau sychu. Byddai'r patrwm caeau datblygedig afreolaidd cyffredinol yn awgrymu cyfnodau tresmasu olynol ar hyd cwr y tir comin, tua'r dwyrain o Hillend i ffin y faenor a'r plwyf. Ymddengys fod y patrwm caeau presennol yn ei le erbyn ail hanner y ddeunawfed ganrif fan bellaf. Nid oes fawr ddim gwahaniaeth i'w weld o ran y patrwm caeau (lle y'i nodir) rhwng yr un a ddangosir ar gynllun ystad dyddiedig 1785, y map degwm dyddiedig tua 1840, argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1878. Ni fu fawr ddim newid yn y patrwm caeau yn ystod yr ugeinfed ganrif ychwaith ar wahân i rywfaint o waith a wnaed i gyfuno'r caeau llai o faint. Ymddengys i ddosbarthiad yr aneddiadau yn yr ardal, a leolir yn y fan lle y mae'r tir amgaeëdig a thir comin agored Cefn Bryn yn cyfarfod, barhau'n weddol ddigyfnewid. Dim ond un annedd a gollwyd, sef annedd amaethyddol Little Hillend a fodolai ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ond sy'n adfail bellach.
Dangosir y fferm yn Hillend ar fap 1878 fel rhes hir a bracty ar wahân (y cyn-ffermdy efallai fel y'i dangosir ar y map degwm, sy'n dangos clwstwr o strwythurau llai o faint ar y safle) ac adeiladau allan llai pwysig i'r de o fewn matrics o gaeau bach. I'r dwyrain, cynhwysai, Little Hillend, sydd bellach yn adfail, brif res i'r de ac adeilad allan llai o faint i'r gogledd wedi'i leoli gyferbyn â hi ar draws iard hirsgwar ganolog (ni fu fawr ddim newid ers map y degwm). Dangosir bythynnod unigol â chaeau cysylltiedig, neu dyddynnod, ar y map degwm a map yr AO dyddiedig 1878 wedi'u gwasgaru ar hyd cwr de-ddwyreiniol Cefn Bryn, gan gynnwys Bythynnod Henry's Well, Brook Cottage (18105), Frog Moor Cottage a'r hyn a elwir bellach yn Fairy Lodge. Mae'r map degwm a map 1878 yn dangos dau adeilad ar ochr ogleddol y llwybr o Burry Alley i Gefn Bryn; mae'r un mwyaf dwyreiniol o'r ddau adeilad hyn a leolir wrth groesffordd yn efail; sef Gefail Coughlon sydd bron â bod yn gyfan (02121w; 41181), y credir ei bod yn dyddio o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.