Gwyr
027 Fairyhill
HLCA027 Fairyhill
Ystâd fonedd a thirwedd parcdir ôl-ganoloesol: ty a pharc yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif; nodweddion amaethyddol a nodweddion yn ymwneud â dwr; a chysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Fairyhill yn cyfateb i ardal parc cofrestredig a gardd Fairyhill (PGW (Gm) 49) a'u lleoliad hanfodol ac mae hefyd yn cynnwys y tir i'r dwyrain sy'n gysylltiedig â'r fferm ystad a ddangosir ar fap dyddiedig 1843.
Saif ty Fairyhill (02894w; 18637; LB 22849 II) gerllaw Burry Pill, ychydig i'r gogledd o Frog Moor, yng nghyn-blwyf Reynoldston ac fe'i lleolid mewn rhan ar wahân o faenor Reynoldston. Mae llawer o hanes cynnar Fairyhill yn anhysbys nes iddo ddod i feddiant y teulu Lucas ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Roedd Richard Lucas a'i wraig newydd Barbara Bowen yn byw yn Fairyhill, a elwid gynt yn Peartree, erbyn 1720. Ym 1795 cymerodd John Lucas feddiant o'r eiddo ac fe'i henwodd yn Fairyhill. Yn ddiweddarach gosodwyd yr eiddo ar brydles i'r Arglwyddes Diana Barham ym 1813 a helpodd i sefydlu Methodistiaeth Galfinaidd yn Burry Green gerllaw. Pan fu farw ym 1823, symudodd Henry Lucas i mewn i'r ty, fodd bynnag oherwydd dyledion cynyddol gwerthodd yr eiddo i'r Parchedig Samuel Phillips. Rhwng 1858 a 1921 roedd Fairyhill yn perthyn i'r teulu Benson. Starling Benson, a fu'n faer Abertawe, oedd y penteulu; daeth â llawer o arian i'r eiddo ac fe'i cadwodd mewn cyflwr da. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd fe'i prynwyd gan Mr E.H. Phillpotts a ganiataodd iddo ddadfeilio. Nid tan 1982 y dechreuodd gwaith adfer ar yr eiddo, a wnaed gan Mr a Mrs Frayne, ac fe'i trowyd yn westy ym 1984 (Cadw 2000).
Credir i'r parc (265673) gael ei ddatblygu gan Richard Lucas neu ei fab John yn ail hanner y ddeunawfed ganrif, am yr ymddengys fod ei arddull yn adlewyrchu'r cyfnod hwnnw. Mae cae sydd yn ei hanfod yn addurniadol a leolir i'r de o'r ty a'r brif ardd yn darlunio golygfa bictiwrésg a heddychlon. Mae'r parc yn cynnwys glaswelltir agored yn bennaf y ceir coed collddail yn ffinio â hi i'r de, i'r dwyrain ac i'r gorllewin; gan gynnwys derw, ffawydd, ynn a chyll. Mae rhododendronau a choed coniffer yn cynrychioli gwaith plannu a wnaed ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. O bob tu i'r parc ceir ffos glawdd a ffos wedi'u hadeiladu o gerrig.
I'r dwyrain o dy Fairyhill ceir fferm yr ystad a'i adeiladau cysylltiedig, delid y tri chae mawr i'r gogledd o'r fan hon gan y fferm ar fap degwm 1843, felly fe'u cynhwysir fel rhan o'r ystad weithredol. Nid oedd tir yn gysylltiedig â'r lleoliad hanfodol fel y'i dangosir yn y Gofrestr o Erddi a Pharcdiroedd o fewn terfynau ystad Fairyhill, ac fe'i dangosir fel rhan o ystad Thomas Mansel Talbot a rhan o'r daliad a elwir yn Fferm Burry Green (Tile House) ar fap dyddiedig 1786.
Hefyd o fewn yr ardal gymeriad hon ceir Melin Stackpool (02894w; 24972), melin faenoraidd hirsefydlog yn perthyn i faenor Reynoldston a ddisgrifir yn Arolwg 1665 o Faenor Reynoldston fel 'There is one mill within the Lordship upon the River Burry called Stapeeles Mill, being a custome mill that all the tenants are bound to doe their suite there.' Dengys rholiau rhenti sy'n perthyn i'r ystad fod y felin ym meddiant y teulu Lucas tan 1731. Henry Beynon oedd y melinydd olaf, aelod o deulu adnabyddus arall ym Mro Gwyr a barhaodd i weithio'r felin tan 1915. Ailadeiladwyd y strwythur ar ôl 1965, darganfuwyd dau faen melin, y naill yn faen blawd o ysgubor Ffrengig a'r llall yn dywodfaen ar gyfer haidd.