Gwyr
019 Bovehill a Landimôr
HLCA019 Bovehill a Landimôr
Tirwedd aneddu a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol a chyn-ganolfan faenoraidd: caelun rheolaidd yn bennaf; patrwm anheddu strimynnog a chlystyrog; nodweddion archeolegol creiriol a chladdedig; ffiniau traddodiadol; adeiladau brodorol rhanbarthol ôl-ganoloesol; cysylltiadau hanesyddol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Bovehill a Landimôr yn cyfateb fwy neu lai i ran ogleddol Maenor ganoloesol ddiweddarach Landimôr, ac eithrio'r anheddiad yn Cheriton a dyffryn Burry Pill i'r de a'r morfa i'r gogledd. Lleolid ardal Bovehill a Landimôr yn wreiddiol o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng nghantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, yn Sir Morgannwg.
Tybiwyd bod yr ardal hon, ar ddechrau'r cyfnod canoloesol, yn rhan o 'faenor' lawer helaethach, goroesodd olion yr ystad fawr hon ar raddfa lawer llai ar ôl iddi gael ei rhannu o dan reolaeth Eingl-Normanaidd. Credir mai Payn de Turbeville a etifeddodd yr uned Gymreig helaethach hon, ac i'r daliad helaethach hwn gael ei rannu o ganlyniad i roddion tir i urddau crefyddol, fel na chynhwysai'r faenor ond is-faenorau gwasgaredig Rhosili, Landimôr a Llanrhidian erbyn y ddeuddegfed ganrif (Draisey 2002). Mae'n bosibl bod ardal Landimôr ei hun a oroesodd yn cynrychioli'r diriogaeth a oedd yn gysylltiedig gynt ag un o drefgorddau'r gyn-faenor. Ar ben hynny, mae'n bosibl bod ffiniau maenor ganoloesol ddiweddarach Landimôr yn cynrychioli parhad rhaniad tir eithaf hynafol, yn arbennig o gofio i'r ardal syrthio i ddwylo Eingl-Normanaidd trwy iddynt ymbriodi â deiliaid Cymreig lleol yr ardal, yn hytrach na thrwy oresgyniad. Efallai yr ategir hyn gan y ffaith bod ffiniau'r faenor ddiweddarach a phlwyf Cheriton yn ymestyn yn fwriadol i gynnwys bryngaer y Bulwarks ym mhen dwyreiniol Bryn Llanmadog, rhoddodd yr olaf yr enw Landimôr i'r ardal.
Cyfeirir at eglwys yn Landimôr mewn dogfen a elwir yn 'Confirmation of Bishop Anselm' ddyddiedig 1230 OC, ond nid yn y Valor Ecclesiaticus; mae'n bosibl ei bod wedi'i dinistrio erbyn hynny, a thybiwyd bod yr arferiad o ddathlu gwyl y mabsant ym mhentref Landimôr ar 4ydd Chwefror yn profi ei bod yn bodoli (Davies 1879, 130-3). Yn draddodiadol tybir ei bod wedi'i lleoli ger y môr, ond nid oes unrhyw dystiolaeth ategol (Cerdyn AO SS 49 SE 7). Mae'n bosibl bod yr un peth yn wir am Landimôr a Cheriton. Mae'r eglwys yn Cheriton, gyda'i chysegriad canoloesol cynnar i sant Cadog, yn awgrymu i safle Cheriton gael ei sefydlu yn gynnar cyn y Goresgyniad Normanaidd a byddai'r enw lle Landimôr yn cyfateb i leoliad gerllaw prif gaer yr ardal, sef y Bulwarks.
Gwyddom i William de Turberville roi eglwys Landimôr, yn ogystal â'r rhai yn Llanrhidian a Rhosili i Farchogion Sant Ioan yn Slebets yn Sir Benfro rywbryd rhwng 1135 a 1230. Efallai mai yn ystod y cyfnod hwn yr ailenwyd anheddiad Landimôr yn Cheriton ('church town'), er anrhydedd, ymddengys, i'r eglwys odidog iawn yn yr arddull Seisnig Gynnar, sy'n dal i sefyll (Edith Evans 2003a, 2004), a oedd wedi'i hailadeiladu gan Farchogion Sant Ioan.
Credir bod Landimôr yn cynnwys ffi marchog o ddechrau'r 12fed ganrif, a weinyddid yn ôl pob tebyg o gastell cynnar. Ym 1353 ceir sôn am gastell yn nhreflan Landimôr, fodd bynnag mae'r safle a elwir yn Gastell Landimôr yn cynnwys adfeilion ty cadarn yn dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif efallai y gellir ei briodoli i Syr Hugh Johnys ac nid oes unrhyw arwydd o wrthgloddiau cynharach ar y safle.
Gwyddom o'r Liber Niger a'r Liber Rubeus i William Turbeville ddal ffi marchog anhysbys, y nodir ei lleoliad mewn dogfennaeth yn ymwneud â'i rodd o eglwysi yn Landimôr, Llanrhidian a Rhosili i Farchogion Sant Ioan tua 1165. Nododd y grant hwn ddaliad mawr a ymestynnai ar hyd arfordir gogleddol Bro Gwyr ac a gyfatebai fwy neu lai i blwyfau Cheriton (Landimôr gynt) a phlwyf cyfagos Llanrhidian, ac eiddo ar wahân i'r de yn Rhosili. Mae'r Comisiwn Brenhinol yn awgrymu y gall castell amddiffynfa gylch, sef North Hill Tor (00093w; 305558), a safai ar benrhyn arfordirol i'r gogledd-ddwyrain o Cheriton, fod wedi gwasanaethau fel caput y teulu Turbeville (RCAHMW 2000, 444-448), fodd bynnag, mae'n bosibl hefyd mai'r amddiffynfa gylch a leolir yng Nghil Ifor, i'r dwyrain gerllaw Llanrhidian yw safle'r caput (RCAHMW 1991, 117-9).
Torrwyd ar draws rheolaeth y teulu Turbeville ar yr ardal pan ailsefydlodd Rhys Gryg reolaeth Gymreig ym Mro Gwyr (1217-1220); nes i Landimôr gael ei dychwelyd i'r teulu Turbeville, daliwyd yr ardal gan Morgan Gam, arglwydd Afan. Ym 1353, nodir bod gan dreflan Landimôr gastell ac un ffi marchog, fodd bynnag ni nodir union leoliad y rhain. Ym 1366 roedd arglwydd y Gororau wedi cymryd meddiant o faenor Landimôr.
Mae'r Comisiwn Brenhinol yn tybio y gall anheddiad presennol Landimôr, sydd wedi'i glystyru o amgylch y ty cadarn diweddarach, gynrychioli safle treflan yn dyddio o'r 14eg ganrif ac y gall bodolaeth y cyfryw dreflan fod wedi pennu lleoliad y ty cadarn (RCAHMW 2000, 444-448). Mae'r ffaith nad oes unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod cadarnle cynharach ar y safle yn codi'r posibilrwydd y gall anheddiad presennol Landimôr a'r caelun cyfagos gynrychioli gwaith a wnaed i ad-drefnu'r dirwedd. Mae'r ffaith i'r anheddiad presennol gael ei afleoli yn ôl pob golwg o safle'r eglwys gynharach, yr ystyrir ei fod yn Cheriton, yn arwydd pellach, ymddengys, o'r ad-drefnu hwn. Mae angen gwneud mwy o ymchwil fanwl i anheddiad Landimôr cyn y gellir deall ei ddatblygiad hanesyddol yn llawn.
Yn 1451 rhoddwyd y faenor i Syr Hugh Johnys, milwr enwog a fu'n swyddog i ddug Norfolk yn ddiweddarach. Deil traddodiad i Landimôr, neu Gastell Bovehill (00097w; SAM GM149), gael ei adeiladu gan Syr Hugh Johnys, yr honnir iddo osod pibellau plwm hefyd, a gyflenwai ddwr o ffynnon ar ochr ogleddol Ryer's Down. Ystyrir bod yr olion sydd wedi goroesi yn Bovehill yn cyd-fynd â'r broses ddyddio. Gellir esbonio pam y gadawyd Castell Landimôr yn gynnar ar ôl i Syr Hugh Johnys farw gan y ffaith i'r ystad ddod i feddiant Syr Rhys ap Thomas, cefnogwr pennaf Harri VII. Ymddengys i Syr Rhys ganolbwyntio ar ad-drefnu Castell Weble, yr oedd wedi'i brynu ar yr un bryd, a hynny er anfantais i Landimôr. Trosglwyddwyd ffi Landimôr i'r Arglwyddes Katherine St. John, gweddw mab Syr Rhys ap Thomas, Gruffydd, a phan fu farw ym 1553 dychwelodd Landimôr i'r goron. Prynodd Anthony Mansel Landimôr bedair blynedd yn ddiweddarach, ac erbyn 1570 roedd y tiroedd ym meddiant Harri, Arglwydd Herbert, iarll cyntaf Penfro o'r ail greadigaeth. Ym 1666 gwerthodd Phillip, iarll Penfro bryd hynny, Landimôr a'r maenorau cysylltiedig ym Mro Gwyr i Edward Mansel o Fargam; dengys gweithred fod adeiladau Castell Landimôr, erbyn y dyddiad hwnnw, wedi bod yn wag ers amser maith. Mae cyfeiriadau diweddarach at y Castell, megis Lewis (1833) a Cliffe (1848) yn dilyn dirywiad cynyddol y safle (RCAHMW 2000, 444-448).
Prin yw'r dystiolaeth ddogfennol am yr anheddiad o amgylch Castell Landimôr. Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO gynllun anheddiad go debyg i'r un a welir heddiw. Mae dwy ran i'r anheddiad: yr isaf, datblygiad strimynnog o fythynnod, gan gynnwys Tafarn y 'Three Brothers', ar hyd y lôn ddolennog sy'n rhedeg o'r gorllewin i'r dwyrain, sy'n troi yn Townsend, i redeg i'r gogledd i'r morfa. Mae'r anheddiad uchaf sy'n seiliedig ar fferm Bovehill, yn drefniant strimynnog llinellol o adeiladau fferm a bythynnod ar hyd y llwybr uchaf sy'n arwain i ardal y clogwyni arfordirol a safle Castell Landimôr ei hun. Gwahenir y ddwy ardal anheddu i bob pwrpas gan lain gul o dir garw serth, sy'n cynrychioli parhad ardal y clogwyni arfordirol (HLCA 014) ac a nodweddir gan frigiadau calchfaen a gweithgarwch cloddio. Nodir cyn-ffald y pentref o fewn yr ardal hon hefyd.
Dangosir y fferm yn Townsend fel cyfres o dair rhes ar wahân y mae pob un wedi'i halinio ar aliniad tebyg, tra bod fferm Landimôr, a leolir heb fod ymhell o'r prif anheddiad yn cynnwys trefniant siâp U o resi o adeiladau wedi'u gosod o amgylch iard ganolog. Ymddengys fod enw a lleoliad fferm Townsend a fferm Landimôr ychydig i'r de yn nodi hyd a lled craidd yr anheddiad. Mae'r mwyafrif o'r adeiladau, sy'n ffurfio'r anheddiad adeg arolwg argraffiad 1af map yr AO yn fythynnod neu ar y gorau maent yn ffermydd llai o faint, fel arfer mae'r rhain wedi'u trefnu mewn strimynnau a cheir enghreifftiau o adeiladau sydd wedi'u trefnu fel eu bod yn gyfochrog â'r ffordd neu ar dangiad iddi; maent i gyd wedi'u lleoli o fewn caeau, y mae rhai ohonynt yn ffriddodd cromliniol a amgaewyd o'r llain gul o dir garw serth y cyfeiriwyd ato uchod. Lleolir o leiaf ddau o'r bythynnod ym mhen pellaf eu caeau, gerllaw'r tir garw, yn hytrach na'r lôn, fel arfer mae'r rhain wedi'u trefnu â'u hechel hir i lawr y llethr. Dengys tystiolaeth ffotograffau a dynnwyd o'r awyr yr arferai'r anheddiad fod yn fwy helaeth a bod ganddo gaeau bach ychwanegol, ceuffyrdd a strwythurau hirsgwar posibl (02210w) a leolid yn yr ardal i'r dwyrain o ffermydd Landimôr a Townsend ac yn agos atynt.
Mae argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO hefyd yn dangos lleiniau neu gaeau hirgul bach o fewn ffiniau'r anheddiad ac yn yr ardal i'r de olion rhandiroedd canoloesol dolennog sydd wedi goroesi, llain-gaeau ffosiledig, sy'n nodi yn ôl pob tebyg lleoliad y cyn-gae agored canoloesol. I'r gorllewin o'r anheddiad mae patrwm o gaeau hirsgwar mwy rheolaidd, y cyfunwyd rhai ohonynt, yn ymestyn i ffermydd gwasgaredig anghysbell Broadway, dwy res a saif gyferbyn â'i gilydd ar draws iard ar ongl sgwâr i'r briffordd sy'n croesi'r ardal o'r dwyrain i'r gorllewin, a Fferm Northhills, a leolir o fewn ei daliad ac wedyn rhes linellol afreolaidd hir ag adeilad bach ar wahân i'r gogledd.