The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

015 Landimôr a Thir Adferedig Llanrhidian


Ffoto o Landimôr a Thir Adferedig Llanrhidian

HLCA015 Landimôr a Thir Adferedig Llanrhidian

Tirwedd gwlyptir adferedig: caeau rheolaidd a nodweddion amaethyddol; sianeli draenio a nodweddion dwr. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Tir Adferedig Landimôr a Llanrhidian gan y morfa heli adferedig ar hyd ymyl morfa Llanrhidian rhwng Landimôr a Llanrhidian.

Mae'n debyg i'r llain gul hon o dir a arferai fod yn rhan o Forfa Llanrhidian (HLCA 004) gael ei hadfer hyd at ei therfynau presennol yn y ddeunawfed ganrif. Mae'n debyg i hyn ddigwydd fesul tipyn dros nifer o flynyddoedd. Nodwyd dau brif gyfnod o weithgarwch adfer tir; y cyntaf gan ffin sy'n cynrychioli terfyn deheuol yr ardal o amgylch y caeau a elwir yn 'salt meadow', gelwir y llain o gaeau i'r gogledd (h.y. y rhai a gynhwysir yn yr HLCA hwn) yn 'rushy marsh' ym 1786 ac ymddengys eu bod yn cynrychioli'r system yn fuan ar ôl iddi gael ei chynllunio (Locock 1996). Cynhwysodd yr ail gyfnod ddraenio'r caeau hyn trwy adeiladu ffosydd mawr a redai at ei gilydd o'r de i'r gogledd ym morfa Llanrhidian. Cwblhawyd y gwaith hwn erbyn 1844; mae gan y clawdd allanol mawr ffos i'r gogledd ac mae'n droellog. Defnyddiwyd cilfachau a fodolai eisoes megis Leason, Great Pill a Llanrhidian Pill, y mae'r ffosydd draenio yn cysylltu â hwy.

Sianelwyd rhan o Llanrhidian Pill ac fe'i cyfeiriwyd er mwyn ei defnyddio at ddibenion melino ac mae'n debyg bod iddi ddau ddiben, sef cyflenwi dwr a draenio. Roedd hynny hefyd yn wir yn Staffal Haegr lle y sefydlwyd melin wlân tua 1820 gan y teulu Dix. Ar ben hynny cysylltai cafn y felin hon â system ddwr y melinau yn Llanrhidian. Saif y felin ychydig y tu allan i'r ardal hon; fodd bynnag, lleolir rhai adeiladau sydd yn ôl pob tebyg sy'n gysylltiedig â hi o fewn yr HLCA hon ac mae'n bosibl eu bod yn rhan o gyfadail cynnar sy'n dyddio o bosibl o'r cyfnod canoloesol.

Nid yw'r ardal wedi newid fawr ddim ers cyhoeddi argraffiad cyntaf map yr AO, gan gynnwys y patrwm caeau, er bod rhai o'r caeau, yn arbennig yn y pen gorllewinol, wedi dirywio. Lleolir rhai adeiladau eraill ar gwr yr ardal hon gerllaw Staffal Haegr, yr ymddengys eu bod yno ers trydydd argraffiad map yr AO.