Gwyr
016 Kennexstone a Tankeylake
HLCA016 Kennexstone a Tankeylake
Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol/afreolaidd; llain-gaeau a ffiniau traddodiadol canoloesol creiriol; anheddu amaethyddol canoloesol/ôl-ganoloesol; ffermydd ôl-ganoloesol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Kennexstone a Tankeylake yn ardal o dir amgaeëdig i'r gogledd o Ffordd Llangynydd. Yn ffinio â hi ceir Tir Comin, sef Ryer's Down i'r dwyrain a Thwyn Llanmadog i'r gorllewin, tra ceir Coedwig Cheriton i'r gogledd. Roedd yr ardal yn rhan o Faenor Priors Town, ym mhlwyf Llangynydd (Llangenydd), a oedd yn ei dro wedi'i leoli yng Nghwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, yng Nghantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, o fewn Sir Morgannwg.
Ychydig a wyddom am hanes cynnar yr ardal; roedd yn rhan anghysbell o Langynydd. Mae'r nodweddion cynharaf y gwyddom amdanynt yn cynnwys clawdd (02573w), yr ymddengys ei fod yn gysylltiedig â'r fryngaer gynhanesyddol ddiweddar, y Bulwark, yn ardal HLCA 012 gerllaw, Capel Anwes canoloesol (00062w), yn 'Church yard' Penmynydd, yr oedd ei sylfeini wedi'u symud erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Evans 2003) ac yn ôl pob sôn Stormy Castle yw safle Castell Llangynydd, a gipiwyd gan y Cymry ym 1252. Hyd y gwyddom ar hyn o bryd nid oes unrhyw beth sy'n nodi safle'r castell canoloesol, er gwaethaf ei olion, a gynhwysai adeilad sgwâr â thyrau crwn ar yr ochr ogleddol a dau golomendy ar leiniau cyfagos o dir, yr ymddengys eu bod yn dal i sefyll hyd at uchder o 20 troedfedd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Davies 1894, 160). Gall hwn fod yn gyfeiriad cyfeiliornus sy'n ymwneud mewn gwirionedd â'r Castell yn Llangynwyd, a fyddai'n ateb y disgrifiad yn well.
Y brif elfen sydd wedi goroesi o'r cyfnod canoloesol o leiaf ar ffurf adnabyddadwy yw system caeau'r ardal, sy'n cynnwys nifer o ddrylliau neu lain-gaeau canoloesol ffosiledig, elfennau creiriol yn ymwneud â'r gyn-system caeau agored ganoloesol. Dengys argraffiad cyntaf map yr AO na fu fawr ddim newid yn y patrwm caeau ers y deunawfed ganrif, ac ymddengys ei fod wedi aros yn ddigyfnewid ers hynny, ar wahân i rai caeau a gyfunwyd bob yn dipyn.
Mae'r ardal yn cynnwys safle Ffermdy Kennexstone, ty uned sengl a chanddo aelwyd-gyntedd a drws yn y talcen yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol (yn dyddio o ganol yr 17eg ganrif a thua 1700). Mae gan y ffermdy hwn do gwellt, cwpl to siswrn, blwch angladdol a chwpwrdd gwely mewn ystafell allanol; fe'i datgymalwyd ym 1951 a'i ailgodi wedyn yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan (RCAHMW 1988, 534; Williams 2005).