Caring For Heritage

Heritage Management

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust

Remains of an Early Medieval stone cross head from Ewenny, Vale of Glamorgan

Gofalu am Dreftadaeth

Mae ein ffyrdd o ddeall a rheoli 'treftadaeth' yn newid yn gyflym. Ein tîm Rheoli Treftadaeth yw'r pwynt cyswllt cyntaf i sefydliadau neu unigolion sydd angen cyngor neu wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol yn ne Cymru.

Yn yr adran Gofalu am Dreftadaeth, dyma rai o'n hamcanion allweddol:

  • Sicrhau bod safleoedd a gwybodaeth archaeolegol bregus, meidrol a digymar yn cael eu diogelu drwy reolaeth ragweithiol.
  • Darparu gwybodaeth archaeolegol.
  • Cyfrannu at ymgynghoriadau'r llywodraeth ar ddeddfwriaeth a gweithdrefnau arfaethedig, a monitro effeithiolrwydd ddeddfwriaeth, cyngor a chylchlythyron y llywodraeth a'r arferion proffesiynol gorau.
  • Cynnig gwasanaethau rheoli/cyswllt ar gyfer mentrau cefn gwlad a gweithgareddau'n ymwneud â'r amgylchedd morol.

Rydym yn gweithio'n agos â swyddogion yn awdurdodau unedig De Cymru a staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Gwy a Gŵyr, a Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar y ffordd orau o reoli a hyrwyddo henebion yn eu hardaloedd.

Os hoffech wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â:

hm@ggat.org.uk