Archaeological Education

Heritage Management

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd

Serious damage to a scheduled Bronze Age burial mound carried out by illegal off-roading at Wentwood, Gwent

Trosedd Treftadaeth yng Nghymru - Adnabod ac Adrodd

Mae gan Gymru gymaint o safleoedd archeolegol, sy'n gymysgedd o weddillion gweladwy fel siambrau claddu ac olion adeiladau, waliau, gwrthgloddiau, olion sy'n dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol i'r 20fed ganrif. Mae rhai wedi'u claddu, fel ffosydd, neu gaeau, olion cynhanesyddol bregus, tystiolaeth amgylcheddol mewn mawn er enghraifft, ac nid yw'n weladwy uwchben y ddaear.

Mae rhai o'r rhain yn henebion rhestredig oherwydd eu pwysigrwydd cenedlaethol, mae'r rhain yn ffurfio tua 10% o'r safleoedd a'r nodweddion amgylchedd archeolegol a hanesyddol hysbys yn y Cofnod.

Sut i nodi troseddau treftadaeth

Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • Dwyn
  • Tynnu neu aildrefnu deunydd archeolegol
  • Dinistrio deunydd archeolegol
  • Llosgi bwriadol a chynnau tanau
  • Canfod metel yn anghyfreithlon
  • Gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon
  • Fandaliaeth a graffiti
  • Gwaith anawdurdodedig ar safleoedd hanesyddol dynodedig
  • Aflonyddu ar safleoedd claddu
  • Difrod troseddol

Rhoi gwybod am droseddau treftadaeth

Os gwyddoch am drosedd sy'n digwydd ar hyn o bryd, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999. Os ydych yn pryderu bod digwyddiad diweddar wedi difrodi ased hanesyddol, ffoniwch 101 i roi gwybod i'r heddlu am y digwyddiad.

Os credwch fod eiddo yn adeilad rhestredig, cysylltwch ag adran Gadwraeth eich Awdurdod Lleol er mwyn sicrhau ei bod yn ymwybodol o unrhyw ddifrod a achoswyd i'r ased.

Os credwch fod yr eiddo yn heneb gofrestredig, cysylltwch â Cadw er mwyn sicrhau ei bod yn ymwybodol o unrhyw ddifrod a achoswyd i'r ased.

Byddwch yn barod i roi datganiad tyst i'r heddlu fel rhan o unrhyw gamau ffurfiol gan yr heddlu o ganlyniad i'r digwyddiad.

Sut i riportio troseddau treftadaeth

Fel y nodwyd yng ngwybodaeth Cadw, os oes trosedd yn digwydd deialwch 999, os digwyddiad diweddar 101.

Heddlu De Cymru: gellir riportio troseddau treftadaeth trwy publicservicecentre@south-wales.pnn.police.uk

Heddlu Gwent: gellir riportio troseddau treftadaeth trwy contact@gwent.pnn.police.uk

ac mae gwybodaeth am droseddau gwledig a threftadaeth ar Twitter a gellir adrodd yn @GwentPolice

Heddlu Dyfed Powys Ar-lein a gan ebost: contactcentre@dyfed-powys.pnn.police.uk

annog riportio a nodi troseddau treftadaeth yn yr alwad yma.

Ar hyn o bryd, mae gan Barc Cenedlaethol Arfordir PenfroGynllun Gwarchod Treftadaeth gyda Heddlu Dyfed Powys

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn datblygu cynllun gwylio treftadaeth ac ar hyn o bryd mae tudalen Facebook

Mae mwy o wybodaeth ar gael gan Cadw

Heddlu De Cymru: gellir riportio troseddau treftadaeth trwy: publicservicecentre@south-wales.pnn.police.uk