Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol (CAH) Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent yw'r gofrestr swyddogol o safleoedd archaeolegol yn Ne Ddwyrain Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn cadw tua 25,000 cofnod sydd o ddiddordeb archaeolegol a hanesyddol a hynny yn y deuddeg awdurdod unedol a fanylir amdanynt
Mae CAH yn ymestyn dros holl agweddau gweithgarwch dynol yn y tirlun o gynhanes cynnar i’r amser diweddar. Mae’r wybodaeth a gedwir ar hyn o bryd yn y CAH Rhanbarthol wedi datblygu dros 40+ o flynyddoedd yn sgil y sawl prosiect thematig ac sy’n seiliedig ar leoliad y mae amryfal gyrff gwahanol yn eu cynnal yn yr ardal. Fel y cyfryw, mae’n adnodd deinamig cyson sy’n datblygu ac yn ymestyn gyda phob darn newydd o wybodaeth.
Mae’n cynnwys gwybodaeth am safleoedd archaeolegol, gweddillion wedi’u claddu, canfyddiadau hap, gwaith cloddio, ardaloedd o dirlun sylweddol, adeiladau a henebion safadwy. Rhoes Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gasglu a diweddaru cofnod amgylchedd hanesyddol (CAH) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Cyflawnir y ddyletswydd hon trwy wasanaethau CAH ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru, er bod memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a sefydliadau sy’n bartneriaid - pedair Ymddiriedolaeth Archaeoleg Cymru, Cadw ac Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru- yn cyfnewid data’n rheolaidd i gynyddu mynediad cyhoeddus at wybodaeth archaeolegol ar draws Cymru. Fe’i gwneir yn bosib cael at ddata a nodir yn Adran 35 Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016, sy’n cynnwys:
Gellir gwneud ymholiadau i'r cofnodion hyn trwy system wybodaeth ddaearyddol a gefnogir gan gasgliad o fwy na 7,000 o ffeiliau papur lle cedwir mwy o wybodaeth fanwl ar safleoedd penodol gan gynnwys adroddiadau cloddio ac asesu, dogfennau, cynlluniau, mapiau a ffotograffau.
Hefyd, mae gennym lyfrgell gyfeirio fechan o ddeunyddiau perthnasol i archaeoleg Morgannwg a Gwent, sydd ar gael i ddefnyddwyr CAH.
e'r wybodaeth a gedwir yn y CAH ar gael i bawb sydd â diddordeb, megis ymchwilwyr personol ac academaidd, datblygwyr, grwpiau hanes lleol, myfyrwyr a phlant ysgol. Gellir gweld mwy o fanylion ar ein tudalennau Defnyddio Gwybodaeth.
Nod ein gwybodaeth ar waelod y dudalen yw egluro mwy am gynnwys y cofnod, y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn ogystal â thelerau ac amodau mynediad a chyfarwyddyd ar gyfer cyflwyno data i ni.