Nod Cofnodion Amgylcheddol Hanesyddol a gedwir gan y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru yw darparu catalog cynhwysfawr o safleoedd archaeolegol a hanesyddol a darganfyddiadau o bob cyfnod ar hyd a lled Cymru. Cânt eu diweddaru'n barhaus wrth i wybodaeth newydd ddod i'r amlwg
Rhoes Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gasglu a diweddaru cofnod amgylchedd hanesyddol (CAH) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru i gynnal, rheoli, gwella a chadw’r adnodd hwn a mynd ati’n weithgar i hyrwyddo gwaith ymgynghori â phawb ynghylch y cofnod a mynediad i bawb ato. Caiff yr adnodd hwn ei ddiogelu ymhellach trwy ymddiriedolaeth Elusennol CAH Morgannwg - Gwent sy’n cadw’r cofnodion hyn
Addysgu'r cyhoedd ynghylch archaeoleg yw prif nod yr Ymddiriedolaeth ac felly mae'r Rhoes Deddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i gasglu a diweddaru cofnod amgylchedd hanesyddol (CAH) ar gyfer pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru i gynnal, rheoli, gwella a chadw’r adnodd hwn a mynd ati’n weithgar i hyrwyddo gwaith ymgynghori â phawb ynghylch y cofnod a mynediad i bawb ato. Caiff yr adnodd hwn ei ddiogelu ymhellach trwy ymddiriedolaeth Elusennol CAH Morgannwg - Gwent sy’n cadw’r cofnodion hynCofnod Amgylcheddol Hanesyddol yn adnodd hanfodol. Mae'r CAH yn fan cyswllt canolog i unigolion neu grwpiau sy'n ymchwilio i archaeoleg eu hardal leol oddi fewn de ddwyrain Cymru. Yn aml byddwn yn mynd â'r cofnod digidol 'ar y ffordd' i sioeau cyhoeddus a digwyddiadau er mwyn codi ymwybyddiaeth o archaeoleg a hysbysu'r cyhoedd ymhellach ynglyn â'u treftadaeth. Darperir man gweithio swyddogol gan yr Ymddiriedolaeth er defnydd ymwelwyr â'r CAH. Prif amcan y CAH ar hyn o bryd yw cynyddu'r niferoedd sy'n defnyddio'r cofnod digidol a hynny trwy gyhoeddi gwybodaeth ar lein.
Mae'r Cofnod Amgylcheddol Hanesyddol hefyd yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o reoli treftadaeth, yn hwyluso'r rheolaeth o safleoedd unigol yn ogystal â'r dirwedd yn ei chyfanrwydd. Nod rheoli treftadaeth yw rheoli a diogelu'r adnodd archaeolegol trwy nifer o gynlluniau megis Tir Gofal a Gwell Coetiroedd i Gymru.
Yn ogystal â hyn defnyddir y cofnod er mwyn cynorthwyo penderfyniadau cynllunio a datblygu, a gall y swyddogion rheoli datblygu ddarparu cyngor yn seiliedig ar y cofnod i awdurdodau cynllunio lleol a chontractwyr. Mae hyn yn caniatáu asesu digonol o ddylanwad datblygiad ar yr adnodd archaeolegol. Os yr ymgymerir â gwaith archaeolegol o ganlyniad i'r datblygu, mae'r wybodaeth a geir o'r gwaith yn cael ei bwydo yn ôl i mewn i'r CAH, gan wella'r cofnod i ddefnyddwyr y dyfodol.