SefydlwydYmddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg-Gwent i addysgu'r cyhoedd am archaeoleg. Dau o'n pum amcan strategol yw 'Gwella mynediad ac ymgysylltiad' a 'Meithrin dealltwriaeth gyhoeddus'.
Rydym yn cyflawni hyn mewn sawl ffordd. Rydym ni'n galluogi pobl i weld ein gwybodaeth am yr Amgylchedd Hanesyddol drwy Archwilio, ac mae gennym gyhoeddiadau am ein cloddiadau a'n hymchwiliadau. Rydym ni'n cynnig darlithoedd, areithiau a theithiau tywys, a gallwn gynnal arddangosfeydd. Rydym ni'n cefnogi prosiectau archaeolegol cymunedol ac yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a dysgu yn y gweithle.
Mae ein staff gwybodus a phrofiadol yn gallu ateb ymholiadau yn ystod yr wythnos. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod.