Archaeological Education

Archaeology for All

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd

Two of GGAT's workplacement students washing and sorting small finds

Dysgu yn y Gweithle

Ydych chi'n ystyried gyrfa mewn archaeoleg? Mae'n bosibl y gallwn gynnig profiad gwaith i chi.

Mae gennym ni brofiad o gynnig lleoliadau ar gyfer myfyrwyr ysgol, prifysgol neu goleg a graddedigion diweddar, myfyrwyr o dramor a phobl sydd newydd ymuno â'r proffesiwn.

Myfyrwyr Ysgol

Bob blwyddyn, mae GGAT yn cynnig lleoliadau profiad gwaith i fyfyrwyr ysgol. Rydym yn cynnig gwaith cyfrifiadurol yn ein pencadlys yn Abertawe, yn adran y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol yn bennaf, er y bydd hyn yn dibynnu ar y prosiectau rydym ni'n gweithio arnyn nhw yn ystod eich lleoliad. Wrth weithio ar y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol, byddwn yn defnyddio deunyddiau hanesyddol a modern i ehangu'n gwybodaeth am bobl a digwyddiadau yn ne-ddwyrain Cymru.

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am drefnu profiad gwaith gyda ni, gallwch wneud cais drwy Gyrfa Cymru, eich ysgol, neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol.

Myfyrwyr prifysgol/coleg a graddedigion diweddar

Gallwn hefyd gynnig lleoedd i fyfyrwyr prifysgol a choleg sy'n astudio archaeoleg neu bynciau cysylltiedig. Os ydych chi'n astudio'n lleol, gallech drefnu dod yn rheolaidd. Yn ogystal, gallech drefnu lleoliad bloc yn ystod eich gwyliau; byddai hyn yn addas hefyd i fyfyrwyr sy'n byw yn ne Cymru ond sy'n astudio i ffwrdd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn agwedd benodol ar waith yr Ymddiriedolaeth, mae'n bosibl y gallwn ni deilwra'ch lleoliad i roi profiad i chi yn y maes hwnnw.

Myfyrwyr o Dramor

Mae un neu ddau le'r flwyddyn ar gael drwy Raglen Interniaeth Abertawe'r Swyddfa Gyfnewid Astudiaethau Americanaidd a drefnir gan Brifysgol Abertawe (ewch i wefan Prifysgol Abertawe). Hefyd, gallwn ni gynnig lleoliadau (interniaethau) i fyfyrwyr neu raddedigion diweddar mewn archaeoleg a ddaw o'r Undeb Ewropeaidd ac sy'n cael eu hariannu drwy raglen Leonardo da Vinci. Mae Saesneg ysgrifenedig a llafar da yn hanfodol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn agwedd benodol ar waith yr Ymddiriedolaeth, mae'n bosibl y gallwn ni deilwra'ch lleoliad i roi profiad i chi yn y maes hwnnw.

Os hoffech drafod eich gofynion, cysylltwch â:

outreach@ggat.org.uk