Gall GGAT gynnig llu o wasanaethau i gymunedau a grwpiau i'w helpu i ddatblygu a chyflwyno prosiectau archaeolegol cymunedol.
Gwneir y gwaith hwn fel rhan o waith cyflawni'n strategaeth allymestyn ac mae'n cyfrannu at fframwaith archaeoleg cymunedol a ddatblygwyd ar y cyd â Cadw.
Fel rhan o fenter dan arweiniad Cyngor Archaeoleg Prydain, sy'n rhan o raglen 'Sgiliau ar gyfer y Dyfodol' Cronfa Dreftadaeth y Loteri, rydym wedi helpu i wella'r sgiliau archaeoleg yn y gymuned trwy gynnig dysgu ffurfiol yn y gweithle i Archaeolegwyr Cymunedol.
Hoffech chi wybod mwy am y pethau sydd gennym i'w cynnig neu'r prosiectau a wnaed gennym eisoes? Ewch i'r Astudiaethau Achos neu lawrlwytho'n taflen ar weithdai archaeoleg.