The Portable Antiquities Scheme

Heritage Management

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust

Late Bronze Age Spearhead discovered by metal detectors on Swansea Bay

Henebion Cludadwy

Bob blwyddyn, mae aelodau'r cyhoedd yn dod o hyd i wrthrychau pwysig yn archaeolegol. Mae llawer o'r darganfyddiadau hyn yn cael eu datguddio gan bobl sy'n defnyddio datgelyddion metel, ond ceir hapddarganfyddiadau hefyd gan bobl sydd wrth eu gwaith, yn cloddio yn yr ardd neu allan yn cerdded. Yn y gorffennol, ychydig iawn o'r deunydd hwn a gofnodwyd gan amgueddfeydd neu archaeolegwyr, a chollwyd llawer iawn o wybodaeth bosibl am ein gorffennol.

Mae'r Cynllun Henebion Cludadwy yn brosiect sy'n annog cofnodi gwrthrychau archaeolegol sy'n cael eu darganfod gan aelodau'r cyhoedd yng Nghymru a Lloegr yn wirfoddol. Mae darganfyddiadau o'r fath yn cynnig ffynhonnell bwysig ar gyfer deall ein gorffennol.

Os daethoch chi o hyd i unrhyw ddarganfyddiadau a allai fod o ddiddordeb archaeolegol yn eich barn chi, cysylltwch â'ch canolfan adrodd leol (gweler isod), p'un ai gwnaed y darganfyddiad yma neu rywle arall ym Mhrydain. Bydd staff yn y ganolfan yn falch o esbonio beth yw eich darganfyddiadau a dweud beth oedd eu defnydd yn y gorffennol. Byddant yn gallu cynnig cyngor i chi hefyd ar sut i ofalu amdanynt.

I gael manylion pellach am y Cynllun Cofnodi Darganfyddiadau Archaeolegol yng Nghymru, cysylltwch â:

Mark Lodwick Adran Archaeoleg a Nwmismateg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd. CFIO 3NP Ffôn: 02920 573226. Neu ewch i wefan y Cynllun: www.finds.org.uk

Ydych chi wedi darganfod rhywbeth?

Cyfeiriadau a Rhifau Ffôn y Canolfannau Adrodd Lleol

Gweld rhai o'n darganfyddiadau diweddar

Gweld tudalen y darganfyddiadau newydd