Archaeological Education

Heritage Management

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd

View from Sker Point looking west along Kenfig Sands

Morol

Un o ardaloedd mwyaf dynamig yr amgylchedd hanesyddol yw'r ardal lle mae'r tir yn cwrdd â'r môr. Mae'r tonnau'n dod a mynd â dyddodion yn gyson, gan amlygu wyneb tir hynafol yn yr ardal rhynglanwol ac ardaloedd newydd drwy henebion ar y clogwyni. Mae Cadw wedi ariannu Ymddiriedolaethau Archaeolegol Cymru i recriwtio gwirfoddolwyr drwy Brosiect yr Arfordir i'n helpu i fonitro a chofnodi'r arfordir sy'n newid yn dragywydd ac i sicrhau bod gwybodaeth newydd yn cyrraedd y Cofnod Amgylchedd Hanesyddol.

Mae awdurdodau lleol a chyrff amgylcheddol fel Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am lunio cynlluniau rheoli ar gyfer yr arfordir ar lefel strategol. Mae'r Ymddiriedolaeth yn rhoi argymhellion iddynt i sicrhau bod yr amgylchedd hanesyddol yn cael ei warchod yn gywir a'i ystyried pan gaiff amddiffynfeydd môr newydd eu cynllunio. Rydym yn rhoi cyngor hefyd i sicrhau nad yw pobl sy'n defnyddio'r arfordir ar gyfer hamdden a dibenion eraill yn difrodi'r archaeoleg yn anfwriadol.

Os hoffech wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â:

Ar gyfer cyfleoedd a digwyddiadau'n ymwneud ag Arfordir – Treftadaeth Arfordirol, cysylltwch â: arfordir@ggat.org.uk

hm@ggat.org.uk