Dyffryn Gwy Isaf
010 Coridor Trafnidiaeth Llandidiwg
HLCA 010 Coridor Trafnidiaeth Llandidiwg
Coridor trafnidiaeth a chysylltiadau: ffyrdd (Rhufeinig ac ôl-ganoloesol) a nodweddion cysylltiedig; rheilffordd gyhoeddus; Anheddiad a chaeau o'r cyfnod ôl-ganoloesol: patrwm anheddu bythynnod a ffermdai gwasgaredig, ac eglwys; patrwm caeau: rheolaidd; ffiniau traddodiadol; nodweddion eglwysig: eglwys ganoloesol a mynwent gysylltiedig (ar safle mynachaidd canoloesol cynnar); archeoleg greiriol/claddedig (Cynhanesyddol/Rhufeinig a Chanoloesol); addysg; archeoleg ddiwydiannol: prosesu metel, melin a thy seidr. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae tirwedd hanesyddol Coridor Trafnidiaeth Llandidiwg yn ardal gul hir ar lan orllewinol Afon Gwy sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de ac yn mynd o amgylch dwyrain Trefynwy. Mae'r ardal yn cwmpasu sawl llwybr trafnidiaeth a chysylltiadau ac yn hanesyddol fe'i lleolir ym mhlwyf Trefynwy. Mae nifer o nodweddion morol sy'n dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol yn bodoli ar gyrion yr ardal hon â nodweddion i'r dwyrain o brif dref Trefynwy.
Mae cyllell fflint (PRN 04511g) a bwyell efydd (PRN 03773g) yn dyddio'n ôl i'r Cyfnod Neolithig ac Efydd yn darparu'r dystiolaeth gynharaf o weithgarwch yn yr ardal, er bod hyn o natur gysylltol. Mae ffordd o'r cyfnod Rhufeinig, ffordd Trefynwy–Weston o dan Penyard (Trefynwy–Ariconium), cangen o Antonine Itinerary XIII, (PRN 02954g, RR612a-03) yn rhedeg drwy'r ardal (Margary 1957; CBHC 1994; Sherman ac Evans 2004). Credir bod y ffordd hon yn barhad o'r ffordd o Gaerllion yn rhedeg i'r gogledd o Drefynwy tuag at Henffordd.
Caiff y broses o sefydlu eglwys (Sant Pedr erbyn hyn PRN 01233g), yn Llandidiwg yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar ei dynodi gan ddogfennau oddeutu 735 OC, yn Siarteri Llandaf. Mae sefydliad Capel ac Ysbyty Mihangel Sant gan y Normaniaid (PRNs 02267g a 02266g; Evans 2004) yn enghraifft o ddatblygiad eglwysig pellach yn yr ardal. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol adeiladwyd rheithordy i wasanaethu Eglwys Sant Pedr; dangosir yr adeilad ychydig i'r gogledd o'r eglwys ar fap degwm Llandidiwg o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg (1849) ac fe'i nodir yn dy, gardd a swyddfeydd sy'n perthyn i Mary Griffith, mae Argraffiad Cyntaf ac Ail Argraffiad mapiau'r AO yn ei enwi'n 'The Rectory' ac erbyn y Trydydd Argraffiad fe'i gelwir yn 'Dixton Cottage'.
Yn gysylltiedig â'r Ffordd Dyrpeg i Drefynwy yn 1829 mae Tyrpeg Clwyd Llandidiwg (LB 2315; Gradd II), porthdy sydd wedi goroesi. Lleolir yr olaf ychydig i'r gogledd o'r Ffordd Dyrpeg, 'The Old Dixton Road', y mae ei llwybr yn gadael y dref i'r dwyrain, sydd yr un peth â'r llwybr canoloesol a ddangosir ar fap John Speed yn 1610, ac mae'n debygol ei bod yr un peth â'r ffordd Rufeinig flaenorol.
Cynhwysir 'The New Dixton Road' (a oedd yn rhan o'r A40, sef yr A466 gyfredol), a welir ar fapiau hanesyddol o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg o leiaf (map degwm Llandidiwg 1849), yn Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881 a mapiau diweddarach, a rhydd ffin ogleddol yr ardal. Yn 1965-6, ar ôl cau Rheilffordd Dyffryn Gwy, adeiladwyd ffordd osgoi gyfredol yr A40, gan wyro'r A40 i'r de o'r dref o gyffordd cylchfan yn Llandidiwg.
Mae terfynau de-orllewinol yr ardal yn cynnwys Rheilffordd Dyffryn Gwy o Drefynwy i Rosan ar Wy, safle Gorsaf Troy, a thraphont Troy. Roedd y rheilffordd o Wyesham yn croesi Afon Gwy i Troy (dros bont reilffordd Mayhill sy'n rhestredig bellach) ac yna ail-groesai Afon Gwy (drwy draphont i'r dwyrain o Dy Troy) i barhau â'i llwybr i'r de. Cafodd Rheilffordd Dyffryn Gwy, a agorodd ar 4ydd Awst 1873, ei hadeiladu gan Gwmni Rheilffordd Rhosan a Threfynwy o dan Ddeddf 5ed Gorffennaf 1865 a gorffenai'n wreiddiol yng ngorsaf May Hill. Nid agorodd Rheilffordd Great Western yr estyniad 3/4 milltir i Orsaf Troy (Trefynwy) tan fis Mai 1874. Rheilffordd Great Western a weithredai'r llinell, a oedd o dan reolaeth enwol Cwmni Rheilffordd Dyffryn Gwy, tan 1922.
Heddiw, caiff yr ardal, sy'n cynnwys Ysgol Gyfun Trefynwy, ei defnyddio fel coridor trafnidiaeth ar y cyfan.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Mae Coridor Trafnidiaeth Llandidiwg yn ardal a nodweddir gan lwybrau cysylltiadau a thrafnidiaeth, sydd oll i'w gweld o Argraffiad Cyntaf 1881 map yr AO o leiaf. Ymhlith y llwybrau trafnidiaeth hyn mae Rheilffordd Dyffryn Gwy a'i gorsaf yn Troy (Gorsaf Trefynwy), y bont a'r draphont gysylltiedig, a chyfres o ffyrdd, gan gynnwys llinell debygol y Ffordd Rufeinig, y llwybr canoloesol diweddarach (Old Dixton Road) a'r New Dixton Road (yr A466) o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'r A40 a ffordd osgoi fodern yr A40 drwy Drefynwy.
Ymhlith yr elfennau eraill yn yr ardal sy'n pwysleisio cysylltiadau mae llinell y ffordd dyrpeg, porthdy cysylltiedig, Tyrpeg Clwyd Llandidiwg (LB 2315; Gradd II), enghraifft sydd mewn cyflwr hynod o dda, sy'n cynnwys strwythur tri bae, gyda bae canolog deulawr wedi'i rendro a'i baentio'n arw o dan do llechi.
Nodweddir anheddiad yr ardal hon gan ffermdai a bythynnod ôl-ganoloesol gwasgaredig (Rheithordy a Chapel Farm), ac eglwys ganoloesol Sant Pedr, Llandidiwg, sydd â phatrwm caeau cysylltiedig o glostiroedd a lleiniau hirsgwar rheolaidd ar hyd glannau Afon Gwy.
Darperir cymeriad eglwysig gan Eglwys Sant Pedr, Llandidiwg (PRN 01223g) a Chapel ac Ysbyty Mihangel Sant (PRNs 02267g a 02266g). Lleolir eglwys Sant Pedr yn Llandidiwg, a allai fod wedi'i sefydlu fel rhan o sefydliad mynachaidd canoloesol cynnar ac a grybwyllir gyntaf yn Siarteri Llandaf, i'r gogledd o fynwent is-hirsgwar, ac sy'n cynnwys corff, cangell ar wahân, twr i'r gorllewin, a phortshys i'r gogledd a'r de yn syml; ceir hefyd festri i'r dwyrain o bortsh y gogledd. Mae gwaith rendro a phlastr yn gorchuddio cryn dipyn o'r eglwys heddiw, ac o ganlyniad mae'n anodd dyddio'r strwythur. Fodd bynnag, o fewn y corff, ceir adeiladwaith saethben sydd yn y golwg, sy'n awgrymu dyddiad cynnar o bosibl o ran ei hadeiladu (Evans 2004).
Mae Capel ac Ysbyty Mihangel Sant (PRNs 02267g a 02266g) yn dyddio o'r cyfnod canoloesol ac yn gyffredinol credir mai'r Normaniaid a fu'n gyfrifol am eu sefydlu. Mae'r safle'n cael ei alw'n 'fferm capel' hefyd (Evans 2004).
Mae'r Groes Mynwent ganoloesol (PRNs 08270g; 08273g; 08118g; LB 85192, Gradd II; SAM MM308) yn Sant Pedr, Llandidiwg, yn goroesi ar ffurf gris gyda charreg soced a chroes-siafft wythonglog ar y pen, ac awgrymwyd y gellid bod wedi ei chludo i'r safle o Wyesham (Kissack 1974), gweler Wyesham (HLCA 035). Yn nodedig hefyd mae'r hen reithordy sy'n gysylltiedig ag Eglwys Sant Pedr a gofnodwyd fel Old Dixton Cottage (PRN 04155g).
Mae'r patrwm caeau yn yr ardal hon yn tarddu o'r cyfnod ôl-ganoloesol ac yn cynnwys lleiniau o dir ar y cyfan sy'n rhedeg i lawr i lan yr afon o ben mwyaf gorllewinol yr ardal; mae'r ffiniau sy'n rhannu'r caeau hyn yn cynnwys cymysgedd o goed gwrych nodweddiadol a ffensys post a gwifren.
Hefyd, mae Ysgol Gyfun Trefynwy yn darparu nodwedd addysgol fwy diweddar gyda strwythurau sy'n goroesi o'r tri phrif gam ar ddatblygu'r ysgol. Y rhain yw adeilad gwreiddiol o 1903, hen Ysgol Elfennol William Jones (a gynlluniwyd gan Henry Stock fwy na thebyg), a adeiladwyd ar gyfer y Cwmni Dillad. Fe'i disgrifiwyd fel 'simple, gabled, single-storeyed, in pink rock-faced sandstone’. Yn nesaf, adeiladau a godwyd yn 1964-5 (cam Uwchradd Modern), gan Adran Penseiri Sir Fynwy, Pensaer y Sir Sydney Leyshon, yn nodweddiadol ar ffurf Moderniaeth anarddangosol, ac yn olaf blociau deulawr ac unllawr o ystafelloedd dosbarth yn dyddio i gyfnod ehangu'r ysgol a wnaed yn 1976-7, i newid i statws Cyfun yn 1977 (pensaer y gwaith N Robson-Smith, Adran Penseiri Sir Gwent, Pensaer y Sir K P Jones). Mae'r olaf o frics brown tywyll â thoeon un gogwydd teils du (Newman 2000, 404).
Ymhlith y mân nodweddion eraill, sy'n cyfrannu at gymeriad yr ardal, mae nodweddion pensaernïol diwydiannol creiriol/claddedig, fel y ffwrnais haearn bwrw wrth glwyd ddwyreiniol Trefynwy (PRN 01237g), lle y daethpwyd o hyd i lawer o sorod haearn a chols; o darddiad canoloesol yn ôl pob cred, dyma safle posibl efail a oedd yn eiddo i William de Marias. Mae mapiau ôl-ganoloesol yn dynodi bod iard goed yn bodoli yn yr ardal; safai ym mhen de-ddwyreiniol Trefynwy yn flaenorol. Hefyd, ceir tystiolaeth o weithgarwch amaeth-ddiwydiannol yn Chapel Farm lle y lleolir ty seidr ôl-ganoloesol (PRN 02269g) a melin ddwr (PRN 02268g).
Afon Gwy yw ffin ddeheuol yr ardal â nodweddion, ac yn hanesyddol mae wedi darparu llwybr cysylltiadau pwysig, tra bod Afon Mynwy yn croesi i'r de o'r ardal. Nodir nifer o nodweddion morol (gan gynnwys glanfeydd, postion ger yr iard goed a grybwyllwyd uchod a welir ar ymyl yr ardal hon â nodweddion i dde-ddwyrain Trefynwy) mewn mapiau hanesyddol hefyd o Argraffiad Cyntaf 1881 map yr AO o leiaf.