Dyffryn Gwy Isaf
003 Cas-gwent
HLCA 003 Cas-gwent
Craidd anheddiad hanesyddol: Tref gaerog ganoloesol ac anheddiad allanol ôl-ganoloesol cynnar: rheolaidd ac organig cnewyllol (hy clwstwr hirfain ac afreolaidd); Adeiladau trefol domestig, masnachol a dinesig ôl-ganoloesol (strwythurau canoloesol?); nodweddion amddiffynnol Eingl-Normanaidd a chanoloesol creiriol; adeiladau eglwysig Canoloesol ac Ôl-ganoloesol (amrywiol); cysylltiadau hanesyddol; nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Lleolir ardal tirwedd hanesyddol Cas-gwent wrth dro yn Afon Gwy yn agos at gyflifiad Afon Gwy ag Afon Hafren. Yma mae Afon Gwy yn llifo ar hyd llwybr hanner crwn o amgylch tref a chastell Cas-gwent. Mae'r dref a'r castell mewn lleoliad strategol bwysig, o ran eu hamlygrwydd gweledol yn y dirwedd ac o ran amddiffyn; mae'r castell yn dominyddu ffryntiad yr afon i'r gogledd ac i'r dwyrain o Gas-gwent.
Prin yw'r arwyddion o anheddiad cynhanesyddol yng nghyffiniau'r dref bresennol. Fodd bynnag, daethpwyd o hyd i stater aur Dobwniaidd yn agos at y castell yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; lleolir nifer o fryngaerau (Bulwarks, Piercefield a Llancaut) yn agos at y dref. Mae'n debyg i'r brif ffordd Rufeinig o Gaer-went i Gaerloyw groesi Afon Gwy ar hyd pont goed tua 1km i'r gogledd o'r castell (daethpwyd o hyd i ddarn bach o sarn ger yr afon yn Piercefield) a daethpwyd o hyd i nifer o arteffactau Rhufeinig drwy hap a damwain yn y dref, er eu bod y tu allan i'r ardal â nodweddion, ac mae gwaith cloddio hefyd wedi dod o hyd i rai ffosydd, tri amlosgiad wedi'u claddu a sylfeini cysegr o bren o bosibl (Shoesmith 1991, 28) tra daethpwyd o hyd i deil Rhufeinig a ailddefnyddiwyd yn Nhwr Mawr castell Cas-gwent (Perks 1967).
Cofnodir ystadau yn yr ardal o amgylch Cas-gwent yn Siarteri Llandaf, ond nid ymddengys fod unrhyw un yn cyfeirio at y dref bresennol. Awgrymwyd y gall ardal y Stryd Fawr gynnwys elfennau o gynllun cyn-Normanaidd (Courtney 1995) er na ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth uniongyrchol i ategu'r ddamcaniaeth hon eto.M
Datblygodd tref ganoloesol Cas-gwent o amgylch y castell, a adeiladwyd rhwng 1067 a 1071 i ddechrau gan William fitz Osbern, a wnaeth yn ystod y cyfnod hefyd sefydlu'r priordy Benedictaidd (sef Eglwys y Santes Fair erbyn hyn), fel cell o Abaty Cormeilles yn Normandi (sef chwaerdref Cas-gwent bellach). I ddechrau, byddai'r priordy wedi cynnwys dau neu dri mynach, gan gael statws cwfeiniol yn ddiweddarach yn unig gyda 12 o fynachod a phrior preswyl (Cathcart-King 1986). Roedd eglwys y priordy yn cynnwys yr eglwys blwyfol fel rhan o'i chorff. Tybir i anheddiad (os nad oedd un yn bodoli eisoes) gael ei sefydlu ger y priordy, er bod anghytuno ynghylch ei union leoliad a chynllun. Mae'n bosibl y gallai fod wedi'i leoli ar hyd ffordd a ddilynai Upper Church Street yn rhannol. Byddai'r ffordd hon wedi cysylltu'r priordy â mynedfa wreiddiol y castell. Os mai dyma oedd yr achos, byddai Hocker Hill Street, Stryd Santes Fair, Nelson Street a Stryd yr Eglwys (y mae pob un ar ongl dde i Upper Church Street) wedi ffurfio system grid fach o strydoedd (Shoesmith 1991, 161). Pa ffurf bynnag oedd ar y dref newydd, tyfodd yn gyflym, oherwydd cofnodir ei bod yn werth £16 yn Llyfr Dydd y Farn (1075). Efallai fod cloddiau a ffosydd wedi amddiffyn yr anheddiad bach hwn, ond ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth ffisegol o'r nodweddion hyn eto. Ar ôl i'r priordy gael ei gau yn 1536, dinistriwyd yr eglwys gryn dipyn, ond gellir gweld natur ysblennydd yr eglwys fawr o'r cyfnod Normanaidd cynnar hyd heddiw yn y corff gwreiddiol eang tri llawr.
Yn 1074, cafodd y castell a'r dref eu fforffedu i'r Goron ar ôl i Roger, mab William fitz Osbern, gymryd rhan mewn ymgais aflwyddiannus i oresgyn William y Concwerwr, ac arhosodd ym meddiant y Goron tan 1115 OC, pan roddwyd Arglwyddiaeth Striguil (hy Cas-gwent) i Gilbert de Clare. Trosglwyddwyd yr arglwyddiaeth i William Marshall yn 1175 OC, a gyflawnodd waith adeiladu helaeth yng Nghastell Cas-gwent, gan ychwanegu'r porthdy mawr â dau dwr, ac amddiffynfeydd maen newydd i'r beili (Turner 2006). O dan reolaeth Marshall, ehangodd y dref a daeth yn gyfoethog drwy fentrau masnachol a'i gweithgareddau fel porthladd prysur. Yn dilyn marwolaeth Walter Marshall, yn 1248 OC, trosglwyddwyd yr arglwyddiaeth drwy briodas i deulu'r Bigod, a ychwanegodd y beili isaf i'r castell ac a oedd fwy na thebyg yn gyfrifol am adeiladu mur y dref, sef Mur y Porthladd fel y'i hadwaenir yn lleol (PRN 01186g, NPRN 302128, LB 2477, SAM MM002) (Perks 1967) a wnaeth ddarparu amddiffynfeydd tua'r tir ar gyfer y dref a oedd yn ehangu, gan amgáu tua 53 hectar. Roedd y dref yn ffyniannus iawn fel marchnad ranbarthol ac fel porthladd masnachol ar gyfer y cyfandir drwy gydol y cyfnod canoloesol. Adlewyrchir hyn yn y nifer fawr o fwrdeisi yn y dref; cofnodwyd tua 308 o fwrdeisi erbyn 1306 (Soulsby 1983, 107).
Nid ymddengys fod gwrthryfel Glyndwr wedi cael effaith uniongyrchol ar y dref, yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r aneddiadau eraill yn Sir Fynwy; yn yr un modd, nid ymddengys fod y Pla Du wedi cael llawer o effaith uniongyrchol, er y byddai'r chwyddiant dilynol a'r dadboblogeiddio yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r pymthegfed ganrif wedi cael effaith anuniongyrchol ar ffyniant y dref.
Ymddengys i'r dref ôl-ganoloesol fod yn debyg ei maint i'r dref ganoloesol, er bod rhai cyfeiriadau cyfoes sy'n dangos rhywfaint o leihad ym mhoblogaeth y dref, gyda siarter yn 1524 yn rhoi'r disgrifiad canlynol o'r dref sef 'fallen into great ruin, indignence and decay' (Shoesmith 2006, 209). O'r dref ganoloesol, ystyrir bod y Stryd Fawr, yn arwain o Glwyd y Dref ac yn parhau ar hyd Bridge Street, yn wreiddiol; mae Leland yn disgrifio sut y gwnaeth y lleihad nodedig ym maint y fwrdeistref a nodwyd uchod gan golli capeli Santes Ann ac Ewan Sant a rhan ddeheuol y dref arwain at greu 'little meadows and gardens' (Soulsby 1983). Ers hynny mae gwaith cloddio wedi datgelu tystiolaeth o anheddiad canoloesol yn yr ardal hon.
Yn dilyn y Rhyfel Cartref, bu'r dref ym meddiant y Brenhinwyr tan 1645, pan gafodd ei chipio a daeth yn sedd i Bwyllgor Seneddol Sir Fynwy. Yn ystod yr Ail Ryfel Cartref, ailgipiodd y Brenhinwyr, o dan Syr Nicholas Kemeys, y dref a'r castell. Yna ymosododd lluoedd Seneddol ar y castell, dringo'r muriau ac ailgipio'r castell. Yn dilyn hynny ailadeiladwyd muriau'r castell a defnyddiwyd y castell fel carchar gwladol tan ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg (Turner 2006).
Ar gynllun Millerd o'r dref yn dyddio'n ôl i 1685 gwelir patrwm stryd a fyddai'n ddigon adnabyddus heddiw, gyda maesdref i'r gorllewin o glwyd y dref, ond gyda rhan ddeheuol yr ardal amddiffynedig wedi'i hamgáu gan Fur y Porthladd yn cael ei defnyddio fel caeau a pherllannau. Ni welir fawr o newid ar fap Morrice dyddiedig 1800 yn ystod y cyfnod yn y canol o ran cynllun y dref. Defnyddiwyd yr ardal gyfan i'r dwyrain o'r eglwys ac i'r de o Back Lane at ddibenion amaethyddol. Dim ond yn sgîl adeiladu'r rheilffordd a'r twf mewn gweithgarwch diwydiannol a morol a welwyd o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg y dechreuwyd ailddefnyddio rhan ddeheuol y dref at ddefnydd trefol (Soulsby 1983).
Yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain ehangodd y dref yn sgîl adeiladu ystadau tai amrywiol, i fynd y tu hwnt i Fur y Porthladd a therfynau'r ardal bresennol â nodweddion i'r de, i'r gogledd ac i'r gorllewin; caiff hynt y gwaith datblygu hwn ei gofnodi gan waith mapio hanesyddol diweddar a ffotograffau o'r awyr.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Cas-gwent gan dref gaerog ganoloesol a chastell canoloesol cysylltiedig. Mae'r prif anheddiad â nodweddion yn cynnwys cymysgedd o ddatblygiadau hirfain ar hyd y Stryd Fawr, Stryd y Bont ac Upper Street gyda phlotiau bwrdeisi hirfain i'w gweld a chlwstwr mwy afreolaidd yn yr ardal o amgylch Eglwys y Santes Fair, eglwys Fenedictaidd y priordy; dynodir craidd hanesyddol y dref gan Fur y Porthladd i'r gorllewin (PRN 01186g, NPRN 302128, LB 2477, SAM MM002). Mae cryn dipyn o'r anheddiad trefol sy'n bodoli heddiw yn cynnwys adeiladau ôl-ganoloesol ac adeiladau canoloesol cynharach o bosibl a orchuddir gan ffasadau arosodedig o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae ffryntiadau stryd gul yr adeiladau yn adlewyrchu lled y plotiau bwrdeisi hirfain. Roedd y prif ddeunyddiau adeiladu a ddefnyddiwyd yma yn y strwythurau cynharach yn gerrig cymysg a haenog, tra brics a choncrid a nodweddai'r strwythurau mwy modern yn bennaf. Llechi a phanteils yw'r prif ddeunyddiau toi drwy'r anheddiad yng Nghas-gwent (HLCA 003).
Ar hyd Stryd y Bont gellir gweld amrywiaeth o adeiladau sy'n nodweddiadol o Gas-gwent, y mae eu golwg yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif yn gyffredinol; mae llawer o'r adeiladau hyn wedi'u chwipio â gro ac mae ganddynt rendr gorffenedig o gerrig nadd, a oedd yn nodweddiadol o benaernïaeth leyg yn y dref (Newman 2000). Un o nodweddion eraill yr adeiladau ar hyd ochr orllewinol y stryd hon yw'r ffenestr fwaog.
Gwelir enghraifft dda o bensaernïaeth drefol y ddeunawfed ganrif yn amgueddfa'r dref a adeiladwyd yn 1796 (Ty Gwy yn wreiddiol), sydd unwaith eto wedi'i chwipio â gro er y tro hwn mae wedi'i lliwio'n goch tywyll. Mae'r portsh hanner crwn â cholofnau Dorig o garreg Bath bron yn bendant yn dynwared cynllun Bonomi ym Mharc Piercefield (Newman 2000).
Mae Cas-gwent wedi cadw cryn dipyn o gymeriad ei chynllun stryd canoloesol ac ôl-ganoloesol er gwaethaf datblygiadau modern, gan ychwanegu at gynllun rheolaidd yn ôl pob tebyg ac i raddau ei arosod ar batrwm heol a stryd llai rheolaidd cynharach, o amgylch Eglwys y Santes Fair. Mae cynllun y stryd yn cynnwys sawl ffordd sydd bron yn gyfochrog wedi'u halunio i'r de-orllewin-gogledd-ddwyrain o fewn ffiniau Mur y Porthladd. Mae'r Stryd Fawr, y brif dramwyfa yn dechrau wrth brif glwyd (PRN 02728g, NPRN 302128, LB 2476, SAM MM002) y dref yn y de-orllewin; ceir ffordd gyfochrog gulach, a wahenir oddi wrth yr olaf gan eiddo masnachol a Bank Square, ychydig i'r gogledd: Bank Street yw hwn (Back Street ar Argraffiad Cyntaf yr AO), sy'n arwain at Hocker Hill (Hawkers Hill ar Argraffiad Cyntaf yr AO), y tu hwnt i Beaufort Square, ble mae'r Stryd Fawr yn uno â Stryd Eglwys Fair a Middle Street i'r gogledd, ar ongl i fyny at ben gogledd-ddwyreiniol Hocker Street ar ben uchaf Stryd yr Eglwys (Eglwys y Santes Fair i'r de-ddwyrain) wrth iddi ymuno â Stryd y Bont, yn elusendy Thomas Powis a safle Capel a ficerdy Ewan Sant (Argraffiad Cyntaf yr AO). Y Stryd Fawr yw calon fasnachol Cas-gwent gyda siopau a banciau i'w gweld ar Argraffiad Cyntaf map yr AO, yn ogystal â gwestai, ee Gwesty'r Beaufort Arms, tafarndai ac addoldai, ee Capel Ebeneser (Brodyr Plymouth) a'r Capel Apostolig Catholig. Mae Stryd Eglwys Fair hefyd yn ymuno â Stryd yr Eglwys gyferbyn ag Elusendai Walter Montague (Hen Elusendai ar Argraffiad Cyntaf yr AO). Ymhellach i'r de mae Upper Nelson Street, sydd bellach yn dilyn ffordd osgoi'r A48 yn rhannol, a thu hwnt i Stryd yr Orsaf, Lower Nelson Street, y mae'r olaf yn ymuno â Stryd yr Eglwys yn Eglwys y Santes Fair. Mae'r llwybr hwn yn dynodi ffin ddeheuol draddodiadol y plotiau bwrdeisi hirfain canoloesol sy'n wynebu'r Stryd Fawr; tra i'r de cafwyd ardal agored o glostiroedd (a ddatblygwyd bellach ar gyfer tai), sef perllannau a phlanhigfeydd yn bennaf. Ar ochr ddeheuol cyffordd Upper a Lower Nelson a Stryd yr Orsaf dangosir Marchnad ar Argraffiad Cyntaf map yr AO gyferbyn â gwesty, ac ymhellach i'r de tuag at yr orsaf ceir ysgol arall.
I'r dwyrain o Stryd yr Eglwys ac i'r de-ddwyrain o Stryd y Bont, sy'n arwain i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i Bridge Inn a Phont Cas-gwent, ceir ardal yr ymddengys ei bod wedi'i gosod allan mewn ffordd ychydig yn llai rheolaidd. Mae'r ardal hon yn cynnwys Church Lane, Lower Church Street a St Anne's Street neu Lane, ynghyd â'r ddau lwybr byr sef 'the Back' sy'n arwain at yr hen ddoc wrth ymyl yr afon ac ardal y llithrfa, sef y 'Promenade' (a ddangosir fel 'the Back' ar Argraffiad Cyntaf yr AO); ar y ffryntiad hwn o'r afon safai Custom House, Packet Slip a Lower Slip (Argraffiad Cyntaf yr AO). Ymddengys mai yn yr ardal hon y cyflawnwyd cryn dipyn o weithgareddau diwydiannol y dref; ar Argraffiad Cyntaf map yr AO gwelir melin lif, efail, pyllau llif amrywiol, y gweithfeydd nwy a'r tanc nwy, Gweithfeydd Bridge (Ffowndri a Pheirianneg Haearn) a ffatri fobin sydd oll yn yr ardal gyffredinol hon ynghyd â'r sefydliad llafur, capel y Bedyddwyr, ysgol fabanod, swyddfa bost a sawl tafarndy. Er bod eiddo mwy o faint a mwy cyfoethog yn wynebu Stryd y Bont, fel Ty Guy (sydd bellach yn amgueddfa) a Gwesty'r Castle View erbyn hyn, ymddengys fod cryn dipyn o'r stoc adeiladau yma yn rhesi byr o fythynnod bach/tai yn debyg i dai gweithwyr diwydiannol o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys Howells Row a Church Row, yn ogystal â sawl teras ar hyd Lower Church Street ac ar ochr ddeheuol St Anne's Street.
Y tu hwnt i Fur y Porthladd a chlwyd y dref, mae Moor Street yn ymestyn yn syth i'r gorllewin, yn gyfochrog â Thomas Street, tra bod patrwm y stryd yn ymledu allan i'r gorllewin: Mounton Street i gyfeiriad y gogledd-orllewin a Steep Street i'r de-orllewin. Mae Welsh Street (y B1493) yn arwain i'r gogledd ychydig y tu hwnt i glwyd y dref drwy Cross Way Green (ger safle hen briordy St Kingsmark sydd wedi'i ddatblygu bellach) a Piercefield y tu hwnt i St Arvan. Mae'r anheddiad murol ychwanegol, o'r cyfnod canoloesol o bosibl, yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar yn bendant, ac fe'i nodweddir yn bennaf gan ddatblygiad hirgul. Mae'r ardal hon yn cynnwys capeli (Capel Annibynnol, Capel Methodistaidd, Capel Catholig y Santes Fair, Capel Cristnogol Beibl, a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf Map yr AO), safle hen Weithdy Cas-gwent (Argraffiad Cyntaf yr AO), ysgol (bechgyn a merched), sawl ty trefol/fila fawr o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (ee Ty Huntfield a'i fythynnod cysylltiedig), a gwestai (Gwesty'r George a Gwesty'r Horn a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf yr AO). Mae'r eiddo mawr yn wynebu'r prif strydoedd gyda phlotiau hirfain y tu ôl iddynt, fel y disgwyliwyd, yn ogystal gwelir rhesi byr o fythynnod/tai gweithwyr o fewn nifer o'r plotiau i'r cefn ar Argraffiad Cyntaf yr AO, fel Cwrt Mitre; lleolir y rhain yn groes i'r prif strydoedd gan ymestyn tuag at gefn y plot. Dim ond iardiau bach oedd gan rai o'r anheddau hyn i'r cefn, ac nid oedd gan eraill unrhyw le yn yr awyr agored o gwbl. Mae'r rhan fwyaf, os nad pob un, wedi'u clirio erbyn hyn.
Mae gan Gas-gwent elfennau milwrol cryf; y brif elfen sydd wedi goroesi ar ffurf adnabyddadwy o'r cyfnod canoloesol yw'r castell Eingl-Normanaidd (PRN 01173g, NPRN 95237, LB 2475, MM003). Ymddengys fod y castell presennol wedi'i adeiladu'n wreiddiol fel canolfan arglwyddiaeth y gororau yng Nghas-gwent (Striguil); mae strwythur mawr wedi'i adeiladu o gerrig, sef Castell Cas-gwent, yn dominyddu'r dirwedd oddi amgylch. Mae'n bosibl, o ystyried y lleoliad amddiffynnol dominyddol, y gallai strwythur cynhanesyddol neu strwythur o'r cyfnod canoloesol cynnar fod wedi bodoli ar y safle cyn hynny. Mae Castell Cas-gwent wedi'i leoli ar ymyl clogwyn sy'n edrych dros yr afon, gan ddominyddu'r dref, ei phont bwysig, a rheoli mynediad i rannau isaf Afon Gwy. Parhaodd yr agwedd amddiffynnol ar y castell y tu hwnt i'r cyfnod canoloesol i gyfnod cythryblus y Rhyfel Cartref pan chwaraeodd ran allweddol fel cadarnle, a ddaliwyd gan luoedd y Brenhinwyr a'r Senedd (Turner 2006), ac yn ddiweddarach dyma oedd lleoliad storfa ac ardal hyfforddi'r Cartreflu yn ystod yr Ail Ryfel Byd (Prosiect Amddiffyn Prydain Cyngor Archeoleg Prydain 2002, rhif cyfeirnod 13580).
Mae olion eglwysig Cas-gwent yn nodwedd bwysig, gan amrywio o nodweddion archeolegol creiriol i adeiladau sydd wedi goroesi. Mae i'r ardal â nodweddion nifer o eglwysi a chapeli fel y priordy ac yn ddiweddarach eglwys blwyfol y Santes Fair (PRNs 01184g, 01183g; a NPRN 221448) gyda'i mynwent gysylltiedig (PRN 08154g). Mae priordy'r Santes Fair, y tybir ei fod o'r cyfnod ôl-Normanaidd er o bosibl ar safle clas Cymreig o'r cyfnod canoloesol cynnar, yn cael ei grybwyll gyntaf yng nghofnod 1071 fel cangen o abaty Benedictaidd Cormeilles (Evans 2004). Mae adeilad gwreiddiol y priordy, a adeiladwyd yn bennaf o dywodfaen Triasig melyn, wedi newid cryn dipyn o'i gynllun canoloesol croesffurf; gwnaethpwyd llawer o waith dymchwel ac ailadeiladu ar ôl y Diddymiad yn 1536, yn enwedig yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymhlith yr olion sy'n weddill o'r priordy Normanaidd mae porth bwaog a rhannau o'r corff. Mae'r strwythur cyffredinol sydd wedi goroesi yn gymysgedd rhyfedd o elfennau Romanésg a Gothig ac mae'n adlewyrchu addasiadau diweddarach o'r ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r fynwent sy'n gysylltiedig ag eglwys y Santes Fair yn afreolaidd ei chynllun, ac mae wedi ymddangos felly ers llunio map degwm 1846 o leiaf. Er i rai henebion gael eu clirio'n ddiweddar ac er i fynedfa letach gael ei hychwanegu ar gyfer ceir i'r de, mae'r fynwent wedi cadw ei chymeriad eglwysig, sy'n cynnwys ei ffin amgaeol.
Ymhlith y nodweddion eglwysig eraill yn yr ardal o'r cyfnod canoloesol mae safle Capel Santes Ann sydd wedi'i ddinistrio bellach (PRN 01174g), ynghyd â Chapel Sant Ewin neu Owen (PRN 01176g), Capel Tomos Sant (PRN 01189g), a'r ffynhonnau sanctaidd ger Stryd y Bont (PRN 01175g). Gallai cyfeiriad at groes nad yw ei dyddiad yn hysbys, sef 'Croes Robin Hood' (PRN 01188g), ymwneud â chysylltiadau mewn gwirionedd yn hytrach na nodwedd eglwysig. Mae safleoedd eglwysig diweddarach yn gapeli Anghydffurfiol a chapeli ôl-ganoloesol eraill yn bennaf, gan gynnwys: Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Cas-gwent (NPRN 105516, LB20751 Gradd II), a adeiladwyd yn 1855 mewn arddull Gothig yn unol â chynlluniau James Wilson o Gaerfaddon; Eglwys y Bedyddwyr Lower Church Street (NPRN 10513), ac eglwys Romanésg a Lombardaidd/Eidalaidd a adeiladwyd yn 1816; a Chapel Cristnogol Beibl y Stryd Fawr (NPRN 307556) gyda'i gynllun to hanner slip, gyda'r olaf bellach wedi'i ymgorffori mewn amrywiaeth o adeiladau bob ochr.
Llwybrau cysylltu nodweddiadol yw'r patrwm stryd canoloesol a ddisgrifiwyd uchod, a ddangosir ar fapiau hanesyddol fel map degwm 1846 a mapiau dilynol yr AO. Mae sawl llwybr troed yn croesi'r ardal hefyd, a dau o'r rhain yw Llwybr Dyffryn Gwy, a reolir gan AOHN Dyffryn Gwy a'r Comisiwn Coedwigaeth, a Llwybr Clawdd Offa, sef Llwybr Cenedlaethol, sy'n mynd drwy'r ardal gan dywys y cerddwr heibio i Gastell Cas-gwent.
Mae llithrfa gysylltiedig Tref Cas-gwent (PRN 05478g, NPRN 401823, SAM MM301) yn pontio ffin yr ardal â nodweddion gyda HLCA 001 i'r dwyrain.