Dyffryn Gwy Isaf
005 Parc Piercefield
HLCA 005 Parc Piercefield
Craidd ystad fonedd ôl-ganoloesol yn gysylltiedig â'r Mudiad Pictiwrésg: Plasdy neoglasurol (adfeilion) ac adeiladau allan cysylltiedig; hamdden addurniadol: parcdir a gardd wedi'u tirlunio o'r 18fed ganrif sy'n gofrestredig; cysylltiadau hanesyddol (Mudiad Pictiwrésg); Nodweddion cysylltiadau. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Parc Piercefield yn cynrychioli ardal o barcdir sy'n goroesi heddiw er yn llawer llai o faint o'r hyn a oedd yn ystad fawr yn gysylltiedig â'r ty yn Piercefield. Yn hanesyddol mae'r ardal wedi'i lleoli ym mhlwyf Arfan Sant fel yr oedd adeg map degwm 1847.
Mae'r gweithgarwch cynharaf yn yr ardal yn ymwneud â'r adeiladau yn Nhy Piercefield ei hun. Credir bod y ty cyntaf a adeiladwyd ar y safle yn dyddio o'r bymthegfed ganrif, gan gael ei adeiladu ar ryw bwynt yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Roedd yr ystad yn eiddo i'r teulu Walter o'r adeg hon ymlaen, ac ni newidiodd ddwylo tan 1736 pan y'i trosglwyddwyd i Valentine Morris yr Hynaf. Cynyddodd ei fab, Valentine Morris yr Ieuaf, faint yr ystad yn sylweddol a'i gread ef yn bennaf yw'r parc presennol. O tua 1752 ychwanegodd Valentine Morris yr Ieuaf at dir Piercefield, gan blannu cellïoedd a chlympiau o goed, yn ogystal â choed unigol, a chyda Richard Owen Cambridge, bu'n gyd-gyfrifol am greu Llwybrau Cerdded enwog Piercefield.
Cafodd craidd y ty adfeiliedig sy'n goroesi heddiw yn Piercefield ei adeiladu gan George Smith a brynodd yr ystad yn 1784; cafodd y ty presennol ei ailadeiladu yn 1785 yn yr arddull Neo-glasurol a oedd yn ffasiynol ar y pryd. Roedd yr adeilad yn debyg i'r hyn a gynlluniwyd gan John Soane, er na chafodd ei gynlluniau eu dilyn yn gaeth ac yn wir nis gweithredwyd yn llawn byth am i Smith fynd yn fethdalwr ac fe'i gorfodwyd i werthu'r eiddo cyn ei gwblhau. Prynodd y Cyrnol Mark Wood yr ystad a chwblhaodd ac ehangodd yr adeilad newydd, gyda chymorth y pensaer Joseph Bonomi. Roedd Bonomi yn gyfrifol am ychwanegu'r ddau adeilad pafiliwn naill ochr a phortico Dorig yn crymu (a ddinistriwyd bellach), ac roedd hefyd yn gyfrifol am addurniad mewnol yr adeilad.
Newidiodd ystad Piercefield ddwylo sawl gwaith drwy'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a'i pherchennog mwyaf nodedig yn ystod y cyfnod hwn oedd Nathaniel Wells. Prynodd Wells yr ystad yn 1802 ac ychwanegodd dir i'w daliadau gan gynyddu maint yr ystad i 3,000 erw, a daeth yn Siryf Trefynwy yn 1818 ac yna'n ddiweddarach yn Ddirprwy Is-Gapten. Roedd teulu Wells ei hun yn gymysg: bu ei dad yn fasnachwr siwgr ac yn berchen ar blanhigfa yn St Kitts yn y Caribî ac roedd ei fam yn un o gaethweision y blanhigfa honno.
Yn y pen draw cafodd yr ystad ei phrynu gan Gwmni Cwrs Rasio Ceffylau Cas-gwent yn 1923, yn dilyn marwolaeth yr aelod olaf o deulu'r Clay a oedd yn dal i fod yn fyw, sef y perchenogion ar y pryd, a chafodd y ras gyntaf ei rhedeg ar y cwrs ym mis Awst 1926. Gadawyd y ty yn wag ac yn ddiweddarach fe'i defnyddiwyd ar gyfer ymarfer targed yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan filwyr Americanaidd a oedd yn aros yno.
Heddiw mae'r ystad yn llawer llai ac mae ei pharcdir wedi'i dirweddu wedi'i golli'n rhannol i gwrs rasio ceffylau Cas-gwent; mae'r hyn sy'n weddill yn dir pori ar gyfer defaid, ac yn cael ei ddefnyddio i farchogaeth ceffylau ar hyn o bryd. Gellir gweld y ty ar hyd Llwybr Cerdded Dyffryn Gwy.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Parc Piercefield fel olion ystad dirfeddiannol â pharcdir a thy gwledig ac adeiladau ystad cysylltiedig. Mae'r parcdir a'r gerddi wedi'u cofrestru fel Parc a Gardd Hanesyddol Gofrestredig Gradd I: Piercefield a Wyndcliff PGW (Gt) 40. Mae'r ty, mewn arddull neo-glasurol, a'r adeiladau cysylltiedig yn Piercefield (PRN 00777g, LBs 2013, 24754, 24755, a LBs 24759, 24760, 24776) yn nodwedd amlwg yn yr ardal ac maent o ganlyniad i sawl cam adeiladu. Mae'r prif dy a'r pafiliynau clasurol naill ochr yn adeiladau rhestredig Gradd II*, a elwir yn Adfeilion Ty Piercefield: Bloc Canolog LB 2013; Pafiliwn Chwith/Gorllewinol LB 24754; a Phafiliwn De/Dwyreiniol LB 24755). Ymhlith yr adeiladau nodweddiadol a'r nodweddion parcdir eraill a warchodir yn yr ardal mae ysgubor a beudy (LB 24759), a ddisgrifir isod, yr ardd furiog (llysiau), gyda'i bythynnod cysylltiedig (LB 24760), a muriau'n amgylchynu argae a phwll (LB 247760), y maent oll yn nodweddion rhestredig Gradd II. Cafodd yr ardd lysiau furiog ei hadeiladu yn ail hanner y ddeunawfed ganrif ac fe'i disgrifir ym manylion gwerthiant yn 1793. Gyda siâp hirsgwar, ceir wal gerrig i'r gorllewin iddi a wal frics ar sylfeini cerrig ar bob ochr arall; yn gysylltiedig â hi mae ffynnon siâp cylch o frics, a bwthyn bach o frics a llechi ar ddau lawr, amrywiaeth o dai gwydr adfeiliedig, ac amrywiaeth o fythynnod un llawr o gerrig a llechi. Ymhlith y nodweddion eraill mae ty iâ tanddaearol sydd mewn cyflwr da.
Ystyrir bod craidd y ty yn Piercefield yn dyddio'n ôl i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, er ei bod yn debygol i waith dymchwel a wnaed gan George Smith a'r Cyrnol Wood yn ystod y ddeunawfed ganrif, a gwaith ailadeiladu dilynol gael gwared ar y rhan fwyaf o'r strwythur cynnar os nad y strwythur cyfan. Cafodd yr adeilad neo-glasurol a welwn heddiw ei adeiladu yn ystod rhan olaf y ddeunawfed ganrif. Gwnaeth George Smith, a oedd wedi prynu'r eiddo oddi wrth Valentine Morris yn 1784 (a oedd yn gyfrifol am osod Llwybrau Cerdded Piercefield, gweler HLCA 004), gomisiynu Syr John Soane flwyddyn yn ddiweddarach i ailadeiladu'r ty yn yr arddull neo-glasurol a oedd yn ffasiynol. Fodd bynnag, bu'n rhaid i Smith werthu yn 1794 am iddo fynd yn fethdalwr a'r perchennog newydd sef y Cyrnol Mark Wood a'i bensaer, Joseph Bonomi, a gwblhaodd y gwaith ailadeiladu; cafodd y ddau bafiliwn naill ochr eu hadeiladu yn ôl cynlluniau Bonomi. Yr hyn sy'n weddill heddiw yw cragen heb do, adeilad tri llawr o frics ag wyneb o garreg. Mae'r holl ffenestri wedi diflannu, er bod rhywfaint o fanylion clasurol gwreiddiol i'w gweld o hyd ar yr adeilad; ar y prif ffryntiad de-orllewinol ceir pilastrau Ionig, cornis, dwy golofn Ddorig a sylfeini gweddill y portico. Mae'r ddau bafiliwn yn goroesi mewn cyflwr gwael iawn gyda rhai o'r basgerfweddau yn eu lle o hyd. Mae'r safle mewn cyflwr gwael ac wedi tyfu'n wyllt.
I'r gorllewin o'r ty ceir iard gaeedig â chyfres hir o stablau ac ysgubor fawr i'r gogledd. Mae'r stablau ar ddau lawr, wedi'u gwneud o gerrig wedi'u rendro â tho llechi, sydd mewn adfeilion unwaith eto. Mae'r ysgubor yn ysgubor garreg draddodiadol gydag agoriadau canolog mawr i'r gogledd a'r de ac mae'n ymddangos yn hyn na gweddill yr adeiladau yn y grwp. Ar y cyfan mae mewn cyflwr da.
Daeth Parc Piercefield a Choetir Hynafol Parc Piercefield sydd gyferbyn (HLCA 004), yn enwog yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg oherwydd y golygfeydd dramatig naturiol, lle mae Afon Gwy yn ymddolennu mewn dau dro anferthol; tra bod prif ran y parc yn cynnwys tirwedd fryniog neu donnog, mae gan y rhan ddwyreiniol (HLCA2004) lethrau coediog a serth iawn, a chlogwyni sydd sawl can troedfedd i fyny. Roedd rhan orllewinol y parc, o fewn yr ardal â nodweddion tirwedd hanesyddol bresennol, yn laswelltir agored yn bennaf, yr 'Uwch Lawnt', a'r 'Is Lawnt', gyda choed a chlympiau gwasgaredig, y mae rhai ohonynt yn goroesi. Yn y pen deheuol ceir coedwig gollddail fach, Park Grove, ac ar hyd y ffin orllewinol ceir llain gul o goed collddail aeddfed, yr ystyrir ei bod yn bosibl bod rhai yn dyddio'n ôl i 1794, pan adeiladwyd y wal gerrig gan Wood, sy'n un o nodweddion amlwg eraill y parcdir, sydd o fewn rhan orllewinol y parc. I'r dwyrain ceir y llethrau serth coediog uwchben Afon Gwy, lle y lleolir y llwybr enwog, golygfannau a nodweddion pictiwrésg, fel Ogof y Cawr, y Llwyfan, y Groto, Teml y Derwyddon, a'r Alcof (sydd oll o fewn yr HLCA004 cyfagos).
Mae'r llwybrau, sy'n cysylltu'r parc â'r dirwedd amgylchynol (hy, Coetir Hynafol Parc Piercefield HLCA 004 ac Afon Gwy HLCA 001) yn bwysig am eu bod yn ffurfio rhan hanfodol o'r rhwydwaith o lwybrau a osodwyd gan Valentine Morris yr Ieuaf a Richard Owen Cambridge yn ystod y ddeunawfed ganrif. Ymhlith yr olion yn yr ardal mae'r lôn newydd, a adeiladwyd ac a gynlluniwyd gan Adam Mickle i Wood; roedd y lôn yn cysylltu'r ty â'r porthordy newydd (Lions Lodge) ym mhen deheuol y parc.