Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dyffryn Gwy Isaf

Themâu a Phrosesau Hanesyddol

Tirweddau Pictiwrésg

Mae un o'r Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol iseldir prin, sef tirwedd hanesyddol Dyffryn Gwy Isaf, yn bodoli am gryn dipyn o'i hyd ar ffurf ceunant cul a hir, sydd wedi'i hendorri i mewn i'r man gwastad o galchfaen. Mewn mannau, wedi'i ddiffinio gan glogwyni a llethrau coediog serth gyda rhannau lletach a basach o nodweddion mwy bryniog, mae Dyffryn Gwy Isaf wedi cael ei werthfawrogi ers tipyn am harddwch ei dirwedd. Mae nodweddion pictiwrésg Dyffryn Gwy Isaf yn deillio o gyfuniad o ffactorau o'r dirwedd naturiol a'r dirwedd hanesyddol. Daeareg yr ardal yw Hen Dywodfaen Coch mor belled â Thyndyrn ac islaw'r man hwn i Gas-gwent ceir calchfaen Carbonifferaidd; adlewyrchir hyn yn neunyddiau adeiladu dominyddol y dirwedd.

Caiff ei phwysigrwydd fel tirwedd, sydd wedi cael dylanwad mawr ar ganfyddiadau modern o harddwch golygfaol a'r pictiwrésg, ei adlewyrchu drwy ddynodiadau eraill, gan gynnwys Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNCau), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig posibl (ACAp), Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau), Safleoedd Arbennig o Ddiddordeb Gwyddonol (SAoDdGau), ac Ardaloedd Cadwraeth yn ogystal â'i statws fel AOHN, yn dilyn ei dynodi yn 1971. Dechreuodd y canfyddiad hwn o Ddyffryn Gwy Isaf fel ardal i'w gwerthfawrogi'n arbennig am ei harddwch golygfaol ddiwedd y ddeunawfed ganrif ac mae wedi cael effaith fawr ar ei ddatblygiad dilynol.

Gwelwyd gwaith Gilpin yn 1782, Observations on the River Wye Wye yn hyrwyddo rhinweddau esthetig yr ardal, ar adeg pan rwystrwyd teithio dramor gan y Chwyldro Ffrengig a'r Rhyfeloedd Napoleanaidd, a pharhaodd i ddenu nifer gynyddol o ymwelwyr drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Dyffryn Gwy yn dal i fod yn boblogaidd heddiw fel 'cyrchfan i dwristiaid', ac yn ogystal â'r safle hanesyddol amlycaf yn Nyffryn Gwy, Abaty Tyndyrn, a llwybrau cerdded coetiroedd yr ardal, mae diddordeb yn y 'mudiad Pictiwrésg' ei hun bellach yn chwarae rhan i hyrwyddo twristiaeth.

Yr abaty yn Nhyndyrn oedd un o'r atyniadau cyntaf yn yr ardal i dwristiaid yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Gilpin (1782) yn trafod yr abaty o ran ei rinweddau pictiwrésg; dywed fod yr abaty yn llawer rhy reolaidd ei olwg o bellter, ond ei fod yn well yn agos. Roedd y cyfuniad o bensaernïaeth eglwysig adfeiliedig wedi'i gorchuddio ag iorwg yn lleoliad agored a dramatig dyffryn yr afon yn Nhyndyrn a thirwedd gyferbyniol nodweddion diwydiannol, fel y melinau a'r gweithfeydd haearn, yn nyffryn cul Angidy gyda'i awyrgylch rhamantus gwyllt o fryniau, coedwigoedd a dwr gwyllt, yn atyniad i deithwyr a thwristiaid cynnar â diddordeb yn y mudiad pictiwrésg a rhamantus, a chyfrannodd at boblogrwydd yr ardal o ran olaf y ddeunawfed ganrif. Yn y ffordd hon roedd yr ardal yn ysbrydoliaeth i artistiaid gan gynnwys J M W Turner ac efallai yn fwyaf enwog y bardd William Wordsworth, a ymwelodd â Dyffryn Gwy gyntaf yn 1793 fel dyn ifanc 23 oed, a dychwelodd yn ystod haf 1798, pan ysgrifennodd ‘Lines Composed a Few Miles above Tintern Abbey’. Mae William Coxe yn disgrifio'r Abaty yn 1800 yn nhermau atyniad prysur i dwristiaid, gyda thwristiaid yn ymweld ag ef min nos gyda golau ffagl yn llosgi. Cyfeiria Robinson at gyhoeddi yn 1828 yr 11eg argraffiad o lyfr Charles Heath ‘Descriptive Account of Tintern Abbey, Monmouthshire’ (Trefynwy 1793), fel arwydd o ba mor boblogaidd oedd ymweliad â Thyndyrn erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (Robinson 1986).

Elfen bwysig arall o ran y cysyniad o dirwedd bictiwrésg oedd y llwybrau cerdded hamdden a gynlluniwyd; daeth y rhain yn boblogaidd o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen yn Piercefield a ledled Dyffryn Gwy Isaf. Gwnaeth Valentine Morris yr Ieuaf gynllunio a gosod cyfres helaeth o lwybrau drwy'r ardal a mannau gwylio ar hyd copa'r clogwyn er budd ffrindiau ac ymwelwyr â'r goedwig rhwng 1752 a 1772, gyda chymorth Richard Owen Cambridge. Un o'r ymwelwyr enwog â'r ardal oedd Samuel Coleridge a ddywedodd fod y golygfeydd yn Piercefield yn 'a godly scene' (dyddiad yn anhysbys); mae'r llwybrau hyn ar hyd glannau gorllewinol Afon Gwy sy'n cysylltu Piercefield â Chas-gwent a man sydd tua thair milltir i'r de o Dyndyrn ac a gynlluniwyd gan Morris i'w dilyn o'r gogledd i'r de. Mae'r gerddi a'r llwybrau cerdded yn Piercefield ymhlith rhai o'r enghreifftiau cynharaf o'r math hwn o dirweddu pictiwrésg, neu ym marn Gilpin (1782) Rhamantaidd.

Mae datblygiad copa bryn Cymin, gyda'i olygfeydd ysblennydd, hefyd yn adlewyrchu dylanwad y mudiad pictiwrésg, a phoblogrwydd lleol yr ardal. Clwb Picnic Trefynwy, a arweiniwyd gan Philip Meakins Hardwick, a adeiladodd y Ty Cwn yn 1794 fel ty picnic i'w aelodau, gyda chegin ar y llawr daear ac ystafell fwyta uwchben, gyda phum ffenestr i fwynhau'r golygfeydd ysblennydd i'r gorllewin i mewn i Gymru tuag at y mynyddoedd o amgylch y Fenni. Yn dilyn hynny, i goffau buddugoliaethau morol Rhyfeloedd y Chwyldro Ffrengig, adeiladwyd y Deml Forol yn 1800. Fe'i cysegrwyd i ddathlu dwy flynedd ers buddugoliaeth Nelson ym Mrwydr y Nîl, gan Dduges Beaufort, merch y Llyngesydd Boscawen, a oedd yn un o'r Llyngeswyr a goffawyd gan y deml. Yn ystod ymweliad â Threfynwy yn 1802, ymwelodd yr Arglwydd Nelson a theulu Hamilton â'r Deml Forol a'r Ty Crwn, a chawsant frecwast yno. Parhawyd i ddefnyddio'r ardal fel cyfleuster hamdden drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Defnyddiwyd y lawnt fowlio, a osodwyd tua'r adeg pan adeiladwyd y Ty Crwn, ar gyfer chwaraeon eraill, gan gynnwys hoci. Fe'i defnyddiwyd fel arddangosle, ac ar gyfer unrhyw ddathliadau mawr yn Nhrefynwy, yn enwedig yn 1905, gan mlynedd ar ôl Brwydr Trafalgar (Cofrestr Parciau a Gerddi Gwent, t63). Mae'r defnydd hwn o'r ardal yn parhau hyd heddiw, gyda'r Kymin Dash, ras flynyddol, sy'n dilyn llwybr i fyny bryn Cymin a thrwy'r parc.

Mae poblogrwydd parhaol tirwedd bictiwrésg Dyffryn Gwy a'r gwerthfawrogiad ohoni yn amlwg yn nifer y llwybrau cerdded ac yn benodol Lwybr Cerdded Dyffryn Gwy, sy'n cynnwys nifer o leoliadau a mannau gwylio pictiwrésg pwysig ar hyd y llwybr.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Amaethyddol

Mae'r dirwedd amaethyddol yn Nyffryn Gwy Isaf yn ymylol yn bennaf a dim ond mewn ardaloedd bach lle cliriwyd coedwigaeth y'i cheir. Fel arfer mae'n cynnwys un fferm, ar y llethrau isaf lle mae ceunant yr afon yn lledaenu, ac i ardaloedd mwy sydd ar y mannau gwastad uchel uwchben. Ardal goediog iawn ydyw yn bennaf, gyda llethrau serth ar ochrau'r dyffryn ac ardaloedd anghysbell o dir amaethyddol, sy'n dir pori yn bennaf, a amgylchynir bob ochr gan y coetir y'i henillwyd ohono'n wreiddiol. Nid yw amaethyddiaeth wedi bod yn ganolog i economi'r ardal yn hanesyddol; prin yw'r dystiolaeth uniongyrchol o'r defnydd a wnaed o'r dirwedd amaethyddol bresennol yn y cyfnod cynhanesyddol. Fodd bynnag, mae bodolaeth y fynwent beddrod crwn a bryngaerau a llociau amddiffynedig posibl, fel Bryn Cymin, Gwersylloedd Pierce Wood, Gwersyll Piercefield a Gwersyll Coedwig Blackfield, yn dynodi anheddiad a rhyw lefel o weithgarwch amaethyddol erbyn diwedd y cyfnod cynhanesyddol a'r cyfnod Rhufeinig-Prydeinig o leiaf.

Er y nodwyd gweithgarwch diwydiannol gydag anheddiad Rhufeinig-Brydeinig yn Nyffryn Gwy Isaf, mae'r dystiolaeth gynharaf o waith amaethu helaeth ar y tir yn ganoloesol. Roedd y dylanwad eglwysig yn ganolig i hyn; roedd Tyndyrn, ac abatai eraill yn ffermio sawl maenor, sydd fwy na thebyg yn cynrychioli'r broses fawr gyfundrefnol gynharaf o glirio coetir a gwastraff at ddibenion amaethyddol.

Roedd nifer y daliadau tir Sistersaidd yn yr ardal yn helaeth, ac roedd darnau mawr o dir yn Nyffryn Gwy a'r ardal gyfagos, gan gynnwys plwyf cyfan Chapel Hill, yn eiddo i Abaty Tyndyrn. Erbyn 1291, roedd abaty Tyndyrn a'i faenorau yn ffermio mwy na 3000 erw (1215 hectar) a gallai Tyndyrn hawlio mai ef oedd y pumed ty cyfoethocaf yng Nghymru. Sefydlwyd nifer o faenorau, yn nodedig y Faenor Leyg, a Maenor Ruding/Rudding (Reddings Farm yn ddiweddarach). Gallai'r faenor leyg, ysbyty lleyg, (PRN 08343g) fod wedi deillio o ysbyty mynachaidd cynharach, a adeiladwyd i wasanaethu pobl leyg (Williams 1976). Mae'r enw 'Ruding Grange' yn dynodi i'r ardal gael ei hennill o'r coetir cyfagos, drwy broses asartio. Cafodd y maenorau eu ffermio'n bennaf gan y brodyr lleyg (fratres conversi) a llafurwyr wedi'u hurio (mercenarii) ac roeddent yn ganolfannau annibynnol â llety i'r brodyr lleyg, a chapel, yn ogystal â'r adeiladau amaethyddol. Ar ochrau'r bryn, defnyddiwyd y tir a enillwyd drwy'r broses asartio i ffermio defaid ac mae'n dal i fod yn dir pori yn bennaf hyd heddiw.

Dangosir pwysigrwydd sefydliadau crefyddol i'r broses o ffurfio'r anheddiad a datblygiad amaethyddiaeth yn yr ardal ymhellach gan Faenor Beaulieu yn y gogledd, un o faenorau abaty Grace Dieu y cyfeiriwyd ati yn 1291 fel 'Wyesham Grange' (Williams 1976), y mae'r anheddiad yn Bealieu Farm yn deillio ohoni fwy na thebyg.

Dynodir natur ymylol amaethyddiaeth yn ardal Dyffryn Gwy Isaf gan y broses ddiweddar o amgáu llawer o'r plwyfi; mae Deddf Clostiroedd 1810 yn nodi, cyn y dyddiad hwn, i'r rhan fwyaf o'r tir ym mhlwyfi Trelech, Penallt, Mitchell Troy, Llaneuddogwy a Thyndyrn (ymhlith eraill) fod yn agored o hyd. Yn hanesyddol, roedd cryn dipyn o'r tir yn y plwyfi hyn yn goetir. Yn wir, ymddengys i economi ardal Dyffryn Gwy Isaf fod yn ddiwydiannol yn y bôn yn hytrach nag yn amaethyddol, a phrin oedd y tir amaethu a'r tir pori o ansawdd da a oedd ar gael. Ar wahân i hen ffermydd maenorau a rhai eithriadau eraill, fel ffermydd mwy Pilstone, Abergwenffrwd, a Church Farm, Penallt, y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u lleoli ym mhrif ran Dyffryn Gwy, ymddengys i'r rhan fwyaf o'r daliadau fod yn ddaliadau cymharol fach a oedd yn diwallu anghenion y rhai hynny a gyflogwyd mewn diwydiant yn bennaf (melino, cynhyrchu haearn, gweithfeydd gwifren, cynhyrchu papur ac ati), neu goedwigaeth. Dyma'r achos yn nyffrynnoedd ochr cul Angidy a White Brook.

O edrych ar fapiau'r degwm, dynodir ardaloedd o dir a oedd yn agored erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn enwedig yn The Narth (HLCA 028) a Phenallt (HLCA 034). Mae'r ardaloedd hyn yn cynnwys olion tir comin a choetir agored, o fewn matrics caelun o glostiroedd afreolaidd bach, a oedd yn gromliniol yn aml, sy'n edrych fel achosion o dresmasu a ddatblygodd mewn ffordd organig o ganolbwynt. Erbyn arolwg Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO mae'r broses o greu clostiroedd wedi'i chwblhau ar y cyfan ac ehangodd achosion unigol o dresmasu i ffurfio'r patrwm caeau datblygedig rhyng-gysylltiedig presennol. Mae llawer o'r ardaloedd amaethyddol, er enghraifft Caelun Troy Farm, (HLCA 037) y tir y naill ochr i Dir Comin Church Hill sy'n bodoli heddiw (HLCA 032), rhan ogleddol Caelun Redbrook (HLCA 015), a Chaelun Fairoak (HLCA 012) yn bodoli ar ffurf caeluniau rheolaidd â ffiniau syth, sy'n awgrymu eu bod yn ardaloedd o glostir cymharol ddiweddar.

Cafodd y broses o greu clostiroedd ei chwblhau i raddau helaeth yn Nyffryn Gwy Isaf erbyn arolwg map y degwm a phrin yw'r newidiadau eraill a nodir ar Argraffiad Cyntaf mapiau'r AO, ar wahân i ychydig o waith cyfuno. Yn ystod diwedd yr ugeinfed ganrif mae arferion ffermio newidiol sy'n adlewyrchu proses gynhyrchu amaethyddol ar raddfa fawr a mwy o fecaneiddio wedi arwain at gynnydd cyflym yn y gwaith o gyfuno caeau mewn sawl ardal; yn fwyaf amlwg yn ardal Fferm Pen-y-garn (HLCA 032) yn ogystal ag yn rhan ogleddol Pilstone Farm (HLCA 025), lle cafwyd gwared ar ffiniau i greu peithgaeau mawr. Yn yr un modd, mae datblygiadau o ddiwedd yr ugeinfed ganrif wedi newid ardaloedd amaethyddol eraill, yn fwyaf nodedig The Narth (HLCA 028), lle mai defnydd preswyl a geir yn bennaf erbyn hyn ac yn yr un modd, er i raddau llai, Pen-y-van (HLCA 026).

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Amddiffynedig

Yn hanesyddol, Sir Fynwy fu'r ardal fwyaf cyfnewidiol yn Ne Cymru gyda newidiadau arloesol ym meysydd cymdeithasol a gweinyddol ac o ran aneddiadau yn cael eu gwneud, o ganlyniad i oresgyniad yn aml ac weithiau mewn ffordd dreisgar. Yn rhanbarth ffiniol cythryblus o bwysigrwydd strategol hanesyddol, arferai Dyffryn Gwy Isaf, ffin fodern Cymru a Lloegr, ffurfio ffin ddwyreiniol arglwyddiaeth y gororau; adlewyrchir yr hanes hwn gan drefi caerog, cestyll ac aneddiadau amddiffynedig hanesyddol yr ardal. Mae Dyffryn Gwy Isaf wedi meddu ar nodweddion amddiffynedig cryf o'r cyfnod cynhanesyddol. Dangosir hyn yn arbennig gan dair bryngaer neu wersyll yng Nghoetir Hynafol Parc Piercefield (SAM MM020, and SAM MM027; PRNs 00773g, 00748g, a 00772g), y mae pob un wedi'i betrus ddyddio i'r Oes Haearn. Mae Clawdd Offa yn rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol yr afon, ond ni cheir unrhyw olion yn yr ardal a nodweddwyd.

Cafodd y castell cychwynnol yng Nghas-gwent ei adeiladu tua 1070, ar ôl i William fitz Osbern gael iarllaeth Henffordd. Gwyddys i dref Cas-gwent gael ei sefydlu erbyn 1075, pan mai £16 oedd ei gwerth. Fodd bynnag, awgryma canfyddiadau o'r cyfnod Rhufeinig ei bod yn bosibl i anheddiad cynharach fodoli yn yr ardal os nad ar yr un safle. Mae Cas-gwent yn amddiffynnol iawn o ran ei natur, sydd i'w briodoli i fur y dref sy'n ei hamgylchynu, a elwir yn lleol yn Fur y Porthladd, a adeiladwyd gan deulu'r Bigod yn y drydedd ganrif ar ddeg, yn ogystal â'r castell dominyddol. Y brif elfen amddiffynnol sydd wedi goroesi yng Nghas-gwent yw'r castell Eingl-Normanaidd canoloesol (PRN 01173g, NPRN 95237, LB 2475, MM003); strwythur mawr wedi'i adeiladu o gerrig, a oedd yn ganolfan ffiwdal i arglwyddiaeth y Gororau yng Nghas-gwent.

Ystyrir bod Tr Mawr Castell Cas-gwent wedi'i adeiladu ar ôl fforffedu'r castell i'r Goron ar ôl 1075. Cynhaliwyd rhaglen adeiladu fawr o dan William Marshal (rhwng 1189 a 1219) ac mae amddiffynfeydd yr uwch feili a'r beili canol yn dyddio'n ôl i'r cyfnod, adeiladwyd yr is feili hefyd, er iddo gael ei ailadeiladu'n sylweddol. Yn ystod chwarter olaf y drydedd ganrif ar ddeg, daeth Roger Bigod, 5ed Iarll Norfolk yn berchennog y castell, ac adeiladodd y brif gyfres o ystafelloedd yn yr is feili, yn ogystal â thr anferthol y De-ddwyrain (Tyr Martens). Ymestynnwyd llawr uchaf y Tr Mawr, ac adeiladwyd yr uwch dr barbican. Yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ychwanegwyd gratiau domestig o bren (sydd wedi'u colli bellach) at ddwy ochr llenhoffwr y beili canol. Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg ailatgyfnerthwyd y castell i wrthsefyll ymosodiad magnelau a chwaraeodd Cas-gwent ran bwysig yn ystod y Rhyfeloedd Cartref; bu'r dref ym meddiant y Brenhinwyr i gychwyn tan 1645, pan gafodd ei chipio a daeth yn sedd i Bwyllgor Seneddol Sir Fynwy. Yn ystod yr Ail Ryfel Cartref, ailfeddiannodd y Brenhinwyr o dan Syr Nicholas Kemeys Gas-gwent, er i luoedd Seneddol ei chipio unwaith eto yn ddiweddarach. Yn fwy diweddar, cafodd y castell, a ddefnyddiwyd fel carchar gwladol tan ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg (Turner 2006), ei ddefnyddio fel storfa a safle hyfforddi ar gyfer y Cartreflu yn ystod yr Ail Ryfel Byd (Prosiect Amddiffyn Prydain CBA 2002, rhif cyfeirnod 13580).

Mae gan yr anheddiad yn Nhrefynwy gyda'i gastell gororau Normanaidd, a adeiladwyd cyn 1071 gan William fitz Osbern, nodweddion milwrol ac amddiffynnol cryf hefyd. Roedd y castell, a oedd yn wreiddiol yn cynnwys gorthwr crwn, llenfur, a phorthdy wedi'i leoli mewn man strategol wrth bentir yn edrych dros gyflifiad Afon Gwy ac Afon Mynwy, yn gadarnle milwrol pwysig; yn ogystal â rheoli mannau croesi afon pwysig, ac adnoddau naturiol, fel coetir, roedd hefyd yn gweithredu fel canolfan arglwyddiaeth annibynnol, ac roedd hefyd yn amddiffyn canolbwynt masnachol a gweinyddol yr ardal. Yn 1267, rhoddwyd Trefynwy i Edmund Crouchbank, mab Henri'r III, pan ddaeth yn Iarll Caerhirfryn, ac yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg a'r bedwaredd ganrif ar ddeg adnewyddwyd y castell gan aelodau gwahanol o deulu'r Lancaster. Yn ystod y Rhyfel Cartref chwaraeodd Castell Trefynwy ran filwrol bwysig; wedi'i feddiannu gan y ddwy ochr fe'i cipiwyd gan y Seneddwyr yn 1645 yn y pen draw. Yn ddiweddarach, yn 1673, cafodd y castell ei newid yn sylweddol pan gomisiynodd Ardalydd Caerwrangon (Dug Beaufort yn ddiweddarach) y gwaith o adeiladu Ty'r Castell Mawr. Yn 1875, daeth Ty'r Castell Mawr yn bencadlys i Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy, ac ar hyn o bryd mae'n amgueddfa ar gyfer hanes milwrol Trefynwy, yn enwedig y Peirianwyr Brenhinol, sef yr unig gatrawd o'r oes fodern i oroesi ers y Rhyfel Cartref, gyda'i wreiddiau'n dyddio'n ôl i 1539. Mae olion y castell gwreiddiol, sydd dipyn yn llai yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg, yn llai amlwg na'r olion yng Nghas-gwent, ac maent yn cynnwys y tr mawr, sy'n dyddio'n ôl i hanner cyntaf y ddeuddegfed ganrif, a'r neuadd fawr wrth ei ymyl, a adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg.

Mae'r thema filwrol yn nhirwedd Dyffryn Gwy Isaf yn parhau i mewn i'r cyfnod modern, a gynrychiolir gan sawl blocdy o'r Ail Ryfel Byd, a oedd yn amddiffyn Dyffryn Gwy (PRN 04304g, NPRN 270428 and NPRN 270429) a Threfynwy (PRN 04303g).

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Anheddiad (yn cynnwys cyfraniad gan Judith Alfrey)

Trosolwg

Mae dwy dref ganoloesol Cas-gwent a Threfynwy wrth ben uchaf a phen isaf Dyffryn Gwy Isaf; mae'r ddwy dref yn cynnwys cyfresi hir o adeiladau sydd wedi goroesi sy'n olrhain cyfnodau dilynol o ffyniant. Mae'r ddwy anheddiad yn dal i gynnwys elfennau pwysig o'u cynllun a'u tirwedd gynnar, yn ogystal â niferoedd mawr o adeiladau cynnar, ond mae stoc adeiladu canol y dref yn y ddau achos yn cynnwys adeiladau llawer diweddarach (y ddeunawfed i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg), ac mae'r ddwy dref hefyd wedi profi cryn dipyn o waith ehangu trefol - yn achos Trefynwy, mae rhywfaint ohono'n eithaf cynnar. Mae angen astudio'r ddwy ymhellach.

Mae'r anheddiad yn nyffryn Gwy ei hun yn amlwg wedi'i chyfyngu gan natur serth y llethr ac mae ei thirwedd yn cael dylanwad cryf arni: felly, mae Tyndyrn yn hirfain iawn, tra bod Llaneuddogwy wedi'i leoli ar y llethrau serth yn ogystal â'r teras ehangach yn y tro hwn yn yr afon. Mewn mannau eraill, mae anheddiad y dyffryn yn wasgaredig (ceir clwstwr arall ger Love Land a Black Brook, Penallt). Nodwedd nodedig arall yw'r dyffrynnoedd llednant, a oedd yn safleoedd diwydiannol cynnar. Mae Angidy, Catsbrook ac Abergwenffrwd yn cynnwys patrymau anheddiad anffurfiol sy'n bennaf gysylltiedig â diwydiant. Ar y tir mwy gwastad tua chopa'r llethr, ceir cyfres arall o aneddiadau, sydd oll yn edrych fel safleoedd lle cliriwyd coedwigaeth. Yn nodweddiadol, bythynnod bach a daliadau bach sy'n dominyddu yma yn hanesyddol, ond mae eu cymeriad i'w briodoli cryn dipyn i waith ehangu nas cynlluniwyd i raddau helaeth yn yr ugeinfed ganrif, er iddo yn ôl pob tebyg gael ei gymhwyso i'r patrwm caeau cynharach. Mae'r Narth a Phentwyn yn enghreifftiau da o hyn.

Mae Bryn Barbadoes yn enghraifft o gynllun creiriol nad yw wedi newid ers y degwm yn y bôn, hyd at argraffiad 1af map yr AO a mapiau cyfredol. Mae'n debygol mai enghraifft o dresmasu ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw ar glostiroedd hirsgwar bach yn bennaf, gyda bythynnod wedi'u trefnu yn gyfochrog ag ochrau'r llethr. Ceir enghraifft arall o anheddiad dresmasu sy'n cynnwys 'The Birches' i'r de o Benallt.

Deunyddiau adeiladu: Cerrig yw prif ddeunydd adeiladu'r dirwedd hanesyddol, ac ymhlith y deunyddiau eraill mae cerrig yn y golwg, llawer o waith rendro, teils clai a llechi; tra bod llawrlechi yn goroesi mewn rhai ardaloedd. Gwelir cryn amrywiaeth o ran y gwaith carreg sydd fwy na thebyg yn adlewyrchu amrywiadau o ran y ddaeareg leol (ee. calch faen, tywodfaen), tra bod amrywiadau o ran gorffeniadau yn arwyddion o statws (ceir enghreifftiau o ffryntiadau patrymog a sgwâr neu o gerrig nadd, er mai wedi'u hadeiladu o rwbel nad yw'n batrymog y mae'r rhan fwyaf o adeiladau traddodiadol). Bu traddodiad o wyngalchu neu rendro, ac mae rhai enghreifftiau o hyn yn parhau. Cyflwynwyd deunyddiau eraill ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg - gan gynnwys gwaith brics, er tybir i argaeledd cerrig lleol olygu mai dim ond ar gyfer rhwymau y'i defnyddiwyd.

Mathau o adeiladau: O ganlyniad i economi amrywiol yr ardal (diwydiant, amaethyddiaeth, coedwigaeth, twristiaeth) mae amrywiaeth da o statws o ran tai gan gynnwys cynrychiolaeth dda iawn o'r ty a'r bwthyn cynhenid llai. Mae'r hanes mynachaidd a diwydiannol hir hefyd wedi sicrhau amrywiaeth cronolegol da o adeiladau, er fel sy'n digwydd mor aml, y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy'n dominyddu ac o'r cyfnod hwn y mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau llai yn dyddio. Mae cryn gydymffurfiad o ran y math o adeiladau, gyda chynllun dwy uned syml, ar ffurf ddeulawr yn dominyddu'r amrywiaeth o ran statws.

Datblygiad Hanesyddol

Mae anheddiad yn yr ardal yn dyddio o'r cyfnod cynhanesyddol, gyda thystiolaeth o weithgarwch Palaeolithig wedi'i chofnodi yn Ogof Pedr Sant, i'r de o Gas-gwent (PRN 02216g, SAM MM160). Cyn yr Oes Haearn, tystiolaeth amgylchiadol o anheddiad cynhanesyddol a geir yn yr ardal yn bennaf ac mae'n cynnwys canfyddiadau o'r cyfnod Mesolithig; daethpwyd o hyd i saeth a bwyell o Gaelun Troy Farm (HLCA 037). Cynrychiolir anheddiad Neolithig gan ganfyddiadau cyllell fflint yn Chippenham (HLCA 018) ac olion yn ardal Troy Farm (HLCA 037) a Thregagle a Phen-twyn (HLCA 030). Hefyd, cofnodwyd canfyddiadau o'r cyfnod cynhanesyddol yn gyffredinol (er nas diffiniwyd ymhellach), gan gynnwys saethben lletraws o Reddings Farm (HLCA 008) a chwe fflint ar wasgar yn Dixton Newton (HLCA 021). Cynrychiolir yr Oes Efydd gan henebion angladdol yn bennaf, hy mynwentydd crug, er bod canfyddiadau hefyd yn dynodi meddiannaeth barhaus; ymhlith y rhain mae dwy gyfres o Fwyelli Efydd o Livox Farm (HLCA 007) a saethben fflint tafod ac adfach o Gaelun Redbrook (HLCA 015). Mae hefyd yn bosibl i rai o'r llociau amddiffynedig a briodolwyd i'r Oes Haearn fod wedi tarddu o ddiwedd yr Oes Efydd mewn gwirionedd.

Cynrychiolir anheddiad yr Oes Haearn gan nifer o lociau amddiffynedig, neu fryngaerau, fel y bryngaerau yng Nghoetir Hynafol Parc Piercefield (HLCA 004), dau Wersyll Piercefield (PRNs 00772g a 00773g; SAM MM020 A and B) ar y clogwyni yn edrych dros Afon Gwy, y mae un ohonynt yn ardal siâp D amddiffynedig iawn ar ymyl y clogwyn, sydd â rhagfuriau cerrig a mynedfa fewndro yn y de gyda physt gwarchod yn cael eu hamddiffyn gan fastiwn. Ymhlith yr enghreifftiau eraill o lociau amddiffynedig mae Gwersyll Coedwig Black Cliff (PRN 00748g: SAM MM027 ar gopa'r gefnen uwchben Reddings Farm, a'r lloc amddiffynedig posibl ar Fryn Cymin (HLCA 031). Ceir rhagor o dystiolaeth o weithgarwch o'r cyfnod hwn yn Nyffryn Gwy Isaf mewn nifer o fannau yng Nghas-gwent ac wrth aber Dyffryn Angidy. Parhaodd yr anheddiad i mewn i'r cyfnod Rhufeinig, a derbynnir yn gyffredinol i Drefynwy a Chas-gwent fod yn safleoedd caerau Rhufeinig. Yn Nhrefynwy, gwelwyd tystiolaeth o'r defnydd Rhufeinig o'r ardal hefyd yn ystod gwaith archeolegol. Mae gwaith cloddio a gwaith ymchwil arall yma wedi datgelu gweithgarwch cynnar (cyn Fflafaidd) ar ffurf ffos ac adeiladau, sy'n ymwneud â gweithgarwch milwrol fwy na thebyg. Yn ddiweddarach yn y cyfnod Rhufeinig, gellir cysylltu, Blestium, a gofnodwyd yn yr Antonine Itinerary, â Threfynwy. Ymddengys i weithgarwch anheddiad yn Nhrefynwy fod yn barhaus, rhwng yr ail ganrif a'r bedwaredd ganrif roedd yn sifilaidd yn bennaf, ac mae gwaith cloddio'r naill ochr i Monnow Street wedi datgelu gweithgarwch amaethyddol, a ddilynwyd gan waith haearn diwydiannol yn yr ardal (Marvell 2001, 118-119).

Yn yr un modd, mae gan Gas-gwent darddiad Rhufeinig tebygol. Mae'r brif ffordd Rufeinig o Gaer-went i Gaerloyw yn tystio i weithgarwch Rhufeinig yma; credir i'r llwybr groesi Afon Gwy dros bont bren tua 1km i'r gogledd o'r castell diweddarach. Mae casgliadau o geiniogau, yn ogystal â thri amlosgiad gyda chrochenwaith cysylltiedig a chysegr o bren, yn ategu hyn ymhellach (Shoesmith 1991 28). Nodwyd yr ailddefnydd o deils Rhufeinig ar y Twr Mawr yng Nghastell Cas-gwent (Perks 1967), tra bod gwaith archeolegol yn y dref wedi nodi gwastadeddau Rhufeinig sy'n cynnwys teils (tegula) a chrochenwaith, gan gynnwys mortariwm Fflafaidd o ogledd Gaul, gyda LITUGEN IUGIFIL arno. Ar sail y canfyddiad olaf hwn awgrymwyd presenoldeb milwrol. Gwelir anheddiad o'r cyfnod Rhufeinig mewn mannau eraill yn nyffryn Gwy Isaf, yn fwyaf nodedig yn fila Little Hadnock (yn HLCA 020), lle nodwyd cyfres o adeiladau ynghyd â chrochenwaith a deunydd ffwrnais bwrw haearn o'r ail/trydedd ganrif (Mein 1977).

Mae'n debygol i anheddiad o ryw fath barhau yn yr ardal yn ystod y cyfnod ôl-Rufeinig/Canoloesol -, gyda safleoedd statws uchel yn cael eu nodi yng Nghas-gwent, Trefynwy, a hefyd yn Llaneuddogwy. Awgrymwyd y gallai canol Cas-gwent (HLCA 003) o amgylch y Stryd Fawr gynnwys elfennau o gynllun cyn-Normanaidd (Courtney 1995) er na ddaethpwyd o hyd i unrhyw dystiolaeth uniongyrchol i ategu'r ddamcaniaeth hon. Gwyddys i Drefynwy, a elwir yn aper mynuy neu Aper Menei yn siarteri Llandaf o'r wythfed ganrif, gynnwys capel cynnar wedi'i gysegru i Gadog Sant (Knight 2004, 276). Yng Nghas-gwent, credir i Briordy Sant Cynemarc, neu vill lann Cinmarch (deuddegfed ganrif), Ecclesia Cynmarchi (siarteri Llandaf) gael ei ddadleoli'n gyntaf gan sylfeini Priordy Cas-gwent yn 1067-71 ac yn y ddeuddegfed ganrif daeth yn rhan o eglwys Eingl-Normanaidd drwy ad-drefnu i dy canoniaid Awstinaidd. Caiff yr eglwys yn Llaneuddogwy (Lanneniaun), a gysegrwyd i Euddogwy Sant ei chrybwyll hefyd yn siarteri Llandaf, ac yn ddiweddarach daeth yn un o faenorau esgobaeth Llandaf (Knight 2004, 274). Mae Siarteri Llandaf yn crybwyll Llaneuddogwy mor gynnar â thua 625, tra bod un hanesyn yn sôn am Euddogwy Sant yn adeiladu ty ac oratori yno, ar ôl i'r Brenin roi'r ardal yn rhodd i Esgobaeth Llandaf. Petrus nodwyd safle clas mynachaidd cynnar posibl arall yn Dixton (HLCA 010).

Cafodd y dylanwad eglwysig ar yr ardal, a ddatblygodd yn arbennig yn ystod y cyfnod canoloesol, effaith fawr ar yr anheddiad yn Nyffryn Gwy Isaf. Datblygodd abaty Tyndyrn, a sefydlwyd yn 1131 gan Walter de Clare, yn gyflym drwy roddion ystadau yn yr ardal, ac erbyn 1291 roedd yn ffermio mwy na 3000 erw (1215 hectar) a hwn oedd y pumed ty cyfoethocaf yng Nghymru. Roedd yr ystadau mawr a oedd yn eiddo i Abaty Tyndyrn yn cynnwys sawl maenor a leolir yn Nhirwedd Hanesyddol Dyffryn Gwy Isaf. Daeth rhai o'r maenorau hyn yn ganolfannau cymharol fawr, gyda chapel, adeiladau amaethyddol a llety i'r brodyr lleyg. Credir i anheddiad lleyg bach ddatblygu i'r gogledd o'r abaty o ddyddiad eithaf cynnar. Yn rhan ogleddol y dirwedd hanesyddol roedd gan abaty Grace Dieu faenor ar Beaulieu Farm (yng Nghaelun Redbrook HLCA 015).

Er yr ystyrir ei bod yn debygol i anheddiad fodoli yng Nghas-gwent yn y cyfnod Rhufeinig ni wyddys pa fath o anheddiad ydoedd yn ystod y cyfnod hwn na'r cyfnod Canoloesol cynnar dilynol. Cafwyd datblygiadau canoloesol yn ystod yr unfed ganrif ar ddeg yn yr ardal gyferbyn â'r castell a adeiladwyd gan William fitz Osbern, a'r priordy Benedictaidd gerllaw (Eglwys y Santes Fair), un o gelloedd abaty Cormeilles yn Normandi, a gafodd ei sefydlu gan fitz Osbern hefyd. Gellir gweld natur ysblennydd yr eglwys Normanaidd gynnar fawr yng ngorff gwreiddiol tri llawr eang y Santes Fair. Er bod union leoliad yr anheddiad cynharach yn ansicr, mae'n debygol y byddai wedi canolbwyntio ar yr ardal o amgylch Upper Church Street, a fyddai wedi cysylltu'r priordy â'r fynedfa wreiddiol i'r castell, o bosibl gyda system grid fach o strydoedd (Hocker Hill Street, Stryd Santes Fair, Nelson Street a Stryd yr Eglwys), y mae pob un ohonynt ar ongl dde i Upper Church Street (Shoesmith 1991 161). Ehangodd yr anheddiad hwn yn gyflym, ac erbyn arolwg Llyfr Dydd y Farn, yn 1075, roedd gwerth £16. Er nad oes unrhyw dystiolaeth o amddiffynfeydd yn y cyfnod hwn, gallai'r dref fod wedi cael ei hamddiffyn gan gloddiau a ffosydd. Yn dilyn ymosodiad aflwyddiannus gan Roger fitz Osbern yn 1074, collodd y teulu'r castell a'r dref, a aeth i ddwylo brenhinol nes i arglwyddiaeth Cas-gwent gael ei rhoi i Gilbert de Clare yn 1115. Yn ddiweddarach yn 1175, fe'i trosglwyddwyd i William Marshall, a oedd yn gyfrifol am ehangu'r castell, gan ychwanegu amddiffynfeydd newydd a'r porthdy mawr (Turner 2006). Roedd y dref yn ffyniannus iawn yn ystod y cyfnod hwn yn bennaf oherwydd ei phorthladd. Yn 1248, yn dilyn marwolaeth yr aelod olaf o deulu'r Marshall, trosglwyddwyd yr arglwyddiaeth i deulu Bigod, a wnaeth ragor o waith ar y castell hefyd, gan ychwanegu'r beili isaf; credir i deulu Bigod fod yn gyfrifol am adeiladu Mur y Porthladd, a amgylchynai'r dref ar yr ochr orllewinol. Yn y cyfnod dilynol, cafwyd ffyniant yng Nghas-gwent ac roedd ganddi 308 o fwrgeisi erbyn 1306; y prif reswm dros hyn oedd ei statws fel porthladd, gyda llongau'n teithio ar hyd y llwybrau masnachu cyfandirol (Soulsby 1983 107). I raddau helaeth, nid effeithiodd y digwyddiadau cythryblus mawr ar y ffyniant hwn yn ystod y cyfnod, fel gwrthryfel Glyndwr neu'r Pla Du.

Datblygodd Trefynwy fel canolfan fasnachol yn y cyfnod canoloesol o dan warchodaeth y castell. Canolbwyntiodd datblygiad bwrgeisi cynnar ar Monnow Street, ac ymddangosai'r dref fel petai'n ffynnu yn 1086 pan y'i cofnodwyd yn Arolwg Dydd y Farn. Ehangodd, ac erbyn y deuddegfed ganrif, roedd yr anheddiad yn Overmonnow wedi datblygu, sydd, er ei bod y tu hwnt i'r ardal gyfredol ar y Gofrestr, yn faestref ganoloesol bwysig o fewn y dref. Yn ystod y drydedd ganrif ar ddeg, atgyfnerthwyd y mannau croesi afon yn Nhrefynwy; gan gynnwys Pont Mynwy a'r Porth, tra adeiladwyd muriau'r dref ar yr adeg hon hefyd, gan alluogi'r dref i godi tollau. Profodd Trefynwy rwystrau mawr yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r bymthegfed ganrif, o ganlyniad i sawl achos o'r pla, a gwrthryfel Glyndwr.

Er bod datblygiadau ôl-ganoloesol wedi newid trefi marchnad Trefynwy a Chas-gwent, mae eu gwreiddiau'n ddwfn yn eu tarddiad canoloesol. Ymddengys i dref ôl-ganoloesol Cas-gwent gynnal maint a phatrwm ei ffurf ganoloesol i raddau helaeth: dengys cynllun Millerd yn 1685 gynllun stryd tebyg i dref fodern Cas-gwent, gyda rhan ddeheuol yr ardal a amgylchynwyd gan Fur y Porthladd yn cael ei defnyddio ar gyfer caeau a pherllannau.

Yn dilyn y dirywiad a welwyd yn ystod y cyfnod canoloesol a Deddfau Uno 1536, daeth Trefynwy yn ffyniannus, pan y'i gwnaed yn dref y sir ar gyfer y sir newydd. Adlewyrchir yr adfywiad yn yr economi, ynghyd â mwy o fuddsoddiad diwydiannol a buddiant gwleidyddol yn yr ardal, yn y stoc adeiladu; roedd adeiladau o gerrig yn cymryd lle rhai pren cynharach, ac roedd llefydd tân a simneiau yn cymryd lle llefydd tân agored (Kissack 1989). Erbyn map Speed yn 1610, roedd y dref wedi ymsefydlu'n dda ac mewn cyflwr da, ac o'r cyfnod hwn daw'n haws dyddio adeiladau am fod cerrig â dyddiadau arnynt yn cael eu rhoi ar adeiladau. Dynododd y broses o sefydlu sawl elusendy, a'r Ysgol Ddillad yn 1616 gan William Jones, oes newydd o ddylanwad yn natblygiad y dref, wrth i gyfoeth a dylanwad yr ymddiriedolwyr gynyddu. Denodd cyfoeth a dylanwad deulu Beaufort, a oedd wedi adeiladu Ty'r Castell Mawr yn 1673, nifer o deuluoedd y sir i Drefynwy a ddechreuodd adeiladu tai trefol, tra denodd twf diwydiant yn Nyffryn Gwy ddiwydianwyr, gan ysgogi'r gwaith o adeiladu tai. Mae'r gwaith o adeiladu Neuadd y Sir yn 1724, a wnaeth gymryd lle ty marchnad bach, yn dynodi ymhellach ffyniant cynyddol y dref, tra bod poblogrwydd Taith Afon Gwy o hanner olaf y ddeunawfed ganrif yn arwain at ragor o ddatblygiadau, gyda thafarndai a gwestai yn cael eu hadeiladu i wasanaethu twristiaid. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, arafodd y twf hwn, o bosibl yn sgîl datblygiad tref farchnad y Fenni, ac ehangu diwydiant mewn mannau eraill.

Yn ogystal â'r prif aneddiadau trefol, nodir hefyd dystiolaeth o anheddiad ganoloesol mewn mannau eraill yn Nyffryn Gwy Isaf, er enghraifft yr anheddiad yn Llaneuddogwy (HLCA 024) a ddatblygwyd o amgylch ei heglwys ganoloesol gynnar, safle clas fwy na thebyg; yn yr un modd, ymddengys i bentrefan bach Penallt (HLCA 034) ganolbwyntio'n wreiddiol ar eglwys ganoloesol, a grybwyllir yn Llyfr Llandaf rhwng 1199 a 1216 (Locock 2002 29). Ceir nifer o aneddiadau canoloesol segur yn Nhirwedd Hanesyddol Dyffryn Gwy Isaf, fel yr hyn a nodwyd yng nghaelun Tregagle a Phen-twyn. Er ei bod yn debygol mai coetir a gafwyd yn bennaf yn yr ardal hon tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd rhywfaint o anheddiad cyfyngedig yn bodoli yn ystod y cyfnod canoloesol diweddarach.

Roedd tai gwledig mawr fel y rhai yn Piercefield, Pilstone a Troy yn agweddau pwysig ar anheddiad ôl-ganoloesol yn Nyffryn Gwy Isaf, ac mae sawl enghraifft ddiddorol o ystadau bonedd o'r cyfnod canolesol diweddar/dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol wedi goroesi, fel Piercefield (HLCA 005), Pilstone (HLCA 025), a Troy (HLCA 038). Y cynharaf o'r rhain yw Troy House: yn tarddu o'r bedwaredd ganrif ar ddeg, roedd yn faenor a oedd yn nwylo Ieirll Caerloyw a Hertford. Ar ôl bod yn nwylo sawl teulu lleol nodedig - teulu Catchmay, teulu Scudamore, a theulu Herbert (mab Iarll cyntaf Penfro) - fe'i prynwyd tua 1600 gan deulu Somerset, sef Ieirll Caerwrangon ar y pryd, ac yn ddiweddarach Dugiaid Beaufort. Arhosodd yn y teulu hwn, yn gartref i'r meibion iau tan 1665, pan ddaeth yn gartref i'r brif ran o'r teulu. Mae'r ty ar ei ffurf bresennol yn dyddio'n ôl yn bennaf i'r 1680au pan ymestynnodd Dug Beaufort y ty a adeiladwyd gan Syr Charles Somerset yn sylweddol ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, gan ychwanegu'r rhan drawiadol sy'n wynebu'r gogledd.

Yn yr un modd, er mai o'r cyfnod Tuduraidd mae'r ty yn tarddu'n bennaf, yn eiddo i deulu Walter tan ganol y ddeunawfed ganrif, rhan graidd yr adfail yw'r adeilad Neo-glasurol a adeiladwyd gan George Smith yn 1785. Roedd y Cyrnol Mark Wood yn gyfrifol am newid Piercefield, a wnaed gan ei bensaer, Joseph Bonomi, yn y 1790au; adeiladwyd y pafiliynau Neoglasurol sydd naill ochr i'r brif ran yn ystod y cyfnod. Cofnodir Pilstone yn gyntaf yn yr unfed ganrif ar bymtheg, ac roedd yn eiddo i deulu Perkins tan tua 1830, er iddo fod mewn adfeilion erbyn hyn, pan gafodd ei brynu gan Gapten Rooke, a adeiladodd dy presennol Pilstone o'r deunyddiau y daethpwyd o hyd iddynt o adfeilion y ty gwreiddiol.

Cafodd y gwasgariad o ffermydd sy'n nodweddiadol o ardaloedd gwledig eu datblygu hefyd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, er i rai tarddu o faenorau sylfeini eglwysig mynachaidd fel Tyndyrn a Grace Dieu. Mae'r ardaloedd amaethyddol yn bennaf yn cynnwys ffermydd sy'n debygol o darddu o'r cyfnod canoloesol: er enghraifft Beaulieu Farm yng Nghaelun Upper Redbrook (HLCA 015), y gwyddys ei bod yn safle maenor ganoloesol a oedd yn perthyn i abaty Grace Dieu, Redding Farm (HLCA 008) a ddechreuodd fel un o faenorau Tyndyrn, a rhai o'r ffermydd ym Mhenallt (HLCA 034) sy'n canolbwyntio ar yr eglwys ganoloesol, ac a allai fod â tharddiad cynnar eu hunain. Yn ogystal, ystyrir bod yr ysgubor a'r rhes o fythynnod yn Troy Farm (HLCA 037) yn tarddu o'r cyfnod canoloesol, tra bod y ffermdy yn Pilstone (HLCA 025), sy'n dyddio'n ôl i ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg/dechrau'r ddeunawfed ganrif o leiaf, o bosibl yn cynnwys elfennau strwythurol cynharach ac mae'n debyg mai hon yw'r annedd hynaf â rhywun yn byw ynddi yn yr ardal.

Yn ogystal â chanolfannau trefol, anheddiad a ddatblygwyd o amgylch canolbwyntiau canoloesol, neu anheddiad amaethyddol, caiff anheddiad ôl-ganoloesol yn Nyffryn Gwy Isaf ei chynrychioli hefyd gan yr anheddiad ddiwydiannol a oedd yn dod i'r amlwg, yn enwedig yn Nyffryn Angidy a Dyffryn Abergwenffrwd. Arweiniodd y broses o ddatblygu diwydiant yn Nyffryn Angidy a Dyffryn Abergwenffrwd at weld yr anheddiad yn ehangu ar hyd y dyffrynnoedd llednant hyn. Nodweddir anheddiad yn y ddwy ardal hyn gan batrwm anffurfiol o anheddiad gwasgaredig a chlystyrog gyda chlostir cysylltiedig, a hefyd gan ddatblygiad hirgul sydd yn aml yn gysylltiedig â datblygiad diwydiannol cynnar. Gellir gweld adeiladau o faint a statws amrywiol ochr yn ochr; mae hyn yn debygol o ddeillio o ffactorau daearyddol cyfyngol ynghyd â lleoliad diwydiannau yn hytrach nag unrhyw fath o ddatblygiad a gynlluniwyd. Mae hefyd yn adlewyrchu'r hierarchaeth gymdeithasol lai datblygedig gynharach a oedd yn gysylltiedig â chymdeithas ddiwydiannol a oedd yn datblygu, gyda gweithwyr, rheolwyr a pherchenogion yn byw gyda'i gilydd yn agos: yn ddiweddarach byddai'r dosbarthiadau uwch diwydiannol yn creu pellter rhyngddynt, drwy broses foneddigio.

Dominyddir Dyffryn Angidy a Dyffryn Abergwenffrwd gan adeiladau diwydiannol a thai cysylltiedig ar gyfer gweithwyr a pherchenogion. Y prif fath o adeilad yw bythynnod ar gyfer y gweithwyr; gellir disgrifio bwthyn nodweddiadol Angidy fel bwthyn 'bach iawn' i weithwyr â dylanwad cynhenid cryf, sydd wedi'i ymestyn yn aml yn ddiweddarach. Mae Dyffryn Abergwenffrwd yn arbennig hefyd yn cynnwys nifer o dai eithaf mawr a sylweddol ar gyfer perchenogion y melinau a/neu reolwyr, y mae pob un mewn arddull Sioraidd: arwydd o ffyniant blaenorol y diwydiant papur yn yr ardal.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Defodol ac Eglwysig

Y nodwedd ddefodol hysbys gynharaf yn yr ardal yw'r fynwent crug crwn, PRN 08409g, yn HLCA 009, sy'n cynnwys tair carnedd (PRNs 03940g, 00724g, 00725g); dwy garnedd dinoeth crwn, yr ymddengys i rywrai ddwyn ohonynt, a thrydydd (PRN 00725g) sydd mewn cyflwr gwell ac sy'n hirgrwn ei siâp.

Ymhlith y nodweddion defodol eraill mae amlosgiadau Rhufeinig a nwyddau claddu cysylltiedig yn agos at Gas-gwent; roedd dau o'r rhain yn gysylltiedig â chrochenwaith, tra roedd trydydd mewn cistan bren, ac roedd olion yr hyn yr ymddengys iddo fod yn gysegr o bren o amgylch un o'r amlosgiadau.

Mae ffynonellau eglwysig, fel Siarteri Llandaf, sy'n dyddio'n ôl i'r seithfed i'r ddegfed ganrif, yn ogystal â chysegru'r eglwys yn Llaneuddogwy, yn dynodi tarddiad canoloesol cynnar yr eglwys Gristnogol yn yr ardal, yn benodol cysylltu Llaneuddogwy ag Euddogwy Sant, trydydd Esgob Llandaf, a oedd byw yn y chweched ganrif. Caiff yr eglwys yn Llaneuddogwy ei chrybwyll gyntaf yn Siarteri Llandaf tua 625, yna eto tua 698, gan gofnodi ffiniau maenor Llaneuddogwy a roddwyd i Esgobaeth Llandaf. Mae'r siarteri yn crybwyll Llaneuddogwy unwaith eto tua 942 fel man cyfarfod synod, ac awgrymwyd i esgobaeth symud yno o Langystennin Garth Brenni tua 900. Gwelir olion ffisegol tarddiad cynnar ar ffurf mynwent yn Llaneuddogwy; er ei bod yn amlochrog bellach, roedd yn gromliniol ei siâp yn wreiddiol (map degwm 1844). Caiff eglwys Dixton ei chofnodi hefyd yn Llyfr Llandaf, mewn siarter tua 735; dynodir tarddiad cynnar yr eglwys hon gan oroesiad gwaith maen saethben cynnar yn neunydd yr eglwys.

Cafodd statws eglwysig Dyffryn Gwy Isaf ei gynyddu'n amlwg yn ystod y cyfnod canoloesol drwy adeiladu'r abaty Sistersaidd yn Nhyndyrn, a sefydlwyd ar 9fed Mai 1131 gan Walter fitz Richard o Clare, Arglwydd Cas-gwent. Cynyddodd ei gyfoeth a daeth yn bumed ty cyfoethocaf Cymru, ac yn benodol dylanwadodd ar ddatblygiad y dirwedd yn Nyffryn Gwy Isaf drwy ei ddaliadau yno. Ymhlith y rhain roedd llawer o faenorau, a grëwyd drwy waith cerrig nadd, ac a ddefnyddiwyd yn bennaf i ffermio defaid, er y gallai'r Faenor Leyg fod wedi gweithredu fel ysbyty mynachaidd i bobl leyg. Er i'r abaty ddod yn adfail 'rhamantus' yn dilyn y Diddymiad yn 1536, mae'n dal i fod yn nodwedd ddominyddol yn y dirwedd heddiw. Prynodd y Goron yr adfeilion yn 1901 am £15,000. Cynhaliwyd rhaglen helaeth o waith adfer a chofnodi yn yr abaty, gan gynnwys cael gwared ar yr holl iorwg ac ailadeiladu arcêd y corff deheuol.

Mae nifer o eglwysi eraill â tharddiad canoloesol yn yr ardal: caiff yr eglwys ym Mhenallt (HLCA 034) ei chrybwyll gyntaf mewn atodiad i Lyfr Llandaf sy'n dyddio'n ôl i 1199-1216, tra bod tystiolaeth strwythurol ychwanegol ar ffurf elfennau cynharach a ymgorfforwyd yn yr adeilad sy'n goroesi, yn ogystal â wal y fynwent sy'n crymu ychydig, hefyd yn awgrymu dyddiad cynnar o ran ei sefydlu. Eglwys Tomos Sant y Merthyr, a grybwyllwyd gyntaf mewn llythyr pabyddol yn 1186, oedd yr adeilad a elwir yn 'The Cell' yn Wyesham, sydd bellach yn dy preifat. Caiff eglwys Mihangel Sant yn Tintern Parva ei chrybwyll gyntaf yn 1348, ac, ar fap degwm y plwyf, fe'i dangosir â mynwent sy'n crymu ychydig, sydd o bosibl yn dynodi tarddiad cynnar.

Mae hanes eglwysig Cas-gwent yn bwysig o ran datblygiad y dref. Mae'n cynnwys nifer o eglwysi a chapeli, ac yn nodedig mae'r priordy, sef Eglwys y Santes Fair erbyn hyn. Fel y castell, cafodd ei sefydlu ar ôl y concwest, ac fe'i cofnodir gyntaf yn 1071 fel un o ganghennau abaty Benedictaidd Cormeilles. Ar ôl y Diddymiad yn 1536, cafodd cynllun croesffurf gwreiddiol adeilad y priordy ei newid yn helaeth yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan arwain at gyfuno manylion Romanesg ag ychwanegiadau Gothig i roi cymeriad anarferol i adeilad yr eglwys. Mae nifer o nodweddion eglwysig canoloesol yn nodweddu Cas-gwent, fel Capel Tomos Sant (PRN 01189g), Capel Owen Sant (PRN 01176g), a safle capel Santes Ann (PRN 01174g) sydd wedi'i ddymchwel bellach, yn ogystal â ffynhonnau sanctaidd (ee PRN 01175g). Ceir hefyd sawl enghraifft o bensaernïaeth eglwysig ôl-ganoloesol yng Nghas-gwent, o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn bennaf: Eglwys y Bedyddwyr Lower Church Street 1816 (NPRN 10513); Eglwys Fethodistaidd Wesleaidd Cas-gwent 1855 (NPRN 105516, LB20751); a Chapel Cristnogol Beibl High Street (NPRN 307556).

Yn yr un modd, mae hanes eglwysig Trefynwy yn bwysig o ran datblygiad cyffredinol y dref; roedd eglwys gyn-Normanaidd Cadog Sant, a grybwyllir gyntaf yn Llyfr Llandaf yn 733 (Brook 1988, 82) ar y llethrau islaw'r castell, (PRN 01224g). Fe'i crybwyllir hefyd yn y siarter sylfaen ar gyfer y priordy Benedictaidd diweddarach, a gafodd ei sefydlu gan Gwethenog, Llydäwr a ddaeth yn arglwydd Trefynwy ar ôl i Roger fitz Osbern gael ei waradwyddo. Rhoddwyd y Priordy i abaty Sant Fflorent o Sawmur, y gwnaeth Gwethenog ymddeol iddo, gan ddod yn fynach yn 1182, er na chafodd yr eglwys ei chysegru tan 1101-02. Fe'i hymestynnwyd a daeth yn eglwys y plwyf ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, a pharhaodd i weithredu fel y cyfryw pan ddiddymwyd y priordy yn 1534 (Kissack 1974; Evans 2004). Mae'r adeilad wedi cael ei ailadeiladu'n fawr: yn gyntaf yn 1732, pan gafodd ei ailadeiladu yn yr arddull glasurol ac ychwanegwyd meindwr, ac yna yn 1824 pan ychwanegwyd orielau. Yn 1881, cafodd yr adeilad ei ddymchwel gryn dipyn a'i ailadeiladu, er bod rhan fach o'r wal Normanaidd yn dal i sefyll.

Yn ystod oes Fictoria, adnewyddwyd llawer o'r eglwysi hyn yn Nyffryn Gwy Isaf; gwnaed llawer o'r gwaith hwn gan y pensaer J P Seddon, a wnaeth weithio'n eang yn archddiaconiaeth Trefynwy. Yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn gyfrifol am adfer Eglwys y Santes Fair yn Nhyndyrn (ynghyd â'i gydweithiwr Prichard), adnewyddu'r eglwys ym Mhenallt, ailadeiladu eglwys Llaneuddogwy, ac adeiladu'r eglwys newydd yn Wyesham.

Yn ôl i'r brig

Tirweddau Diwydiannol

Mae diwydiant wedi llywio'r economi yn Nhirwedd Hanesyddol Dyffryn Gwy Isaf ac mae archeoleg ddiwydiannol yn elfen bwysig o'r dirwedd. Mae olion y canolfannau prosesu metel amrywiol yn amlwg yn archeoleg ddiwydiannol Dyffryn Gwy Isaf. Mae gwaith metel wedi parhau i fod yn nodwedd bwysig ers y cyfnod Rhufeinig o leiaf, pan roedd sawl ffwrnais bwrw haearn yn yr ardal.

Yn dilyn gwaith cloddio, daethpwyd o hyd i gyfres o adeiladau o'r ail/trydedd ganrif yn Little Hadnock (HLCA 020) a wnaeth ddarparu tystiolaeth o waith haearn (PRN 01294g, SAM MM195), a gwelir tystiolaeth bellach o gynhyrchu haearn Rhufeinig yn sgîl gwaith cloddio ar safle Ysgol Trefynwy (PRN 03265g). Mae canfyddiadau diwydiannol eraill o grochenwaith a sorod haearn (PRN 00734g a 03847g), yn tystio ymhellach i waith prosesu metel o'r cyfnod hwn yn yr ardal. Cofnodwyd dwy ffwrnais bwrw haearn Rufeinig arall (PRNs 02963g, a 02966g) er na chafwyd cadarnhad eto. Mae tystiolaeth o waith haearn sylweddol ddiwedd y drydedd ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif yn Nhrefynwy ar hyd Monnow Street ac fel mannau eraill yn Ne Cymru yn ystod y cyfnod Rhufeinig diweddarach, roedd Trefynwy yn gysylltiedig â gwaith cynhyrchu haearn dwys, yn waith toddi ac yn waith eilaidd. Mae'n rhaid bod lleoliad da Trefynwy o ran safleoedd mwyngloddio haearn, a chryn nifer o goed i doddi wedi ei wneud yn ddiwydiant dominyddol yn yr anheddiad (Marvell 2001).

Parhaodd gweithgarwch diwydiannol i fod yn brif thema yn ystod y cyfnod canoloesol, ac roedd yn aml yn gysylltiedig â buddiannau eglwysig neu fynachaidd. Roedd Dyffryn Angidy, a oedd yn ddiweddarach yn brif ganolfan i ddiwydiant yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, eisoes wedi datblygu'n ganolfan ddiwydiannol yn ystod y cyfnod canoloesol; gwyddys i bandy a dwy felin raean (00721g), a bwerwyd gan gyfres o goredau ar hyd Nant Angidy, fod yn eiddo i abaty Tyndyrn (Williams 2001). Daw'r gweithgarwch prosesu metel y daeth Dyffryn Angidy yn gysylltiedig ag ef yn ddiweddarach i'r amlwg yn ystod y bymthegfed ganrif ar ffurf gwaith plwm a chopr ar safle Abaty Tyndyrn ei hun. Nodir diwydiant a bwerwyd gan ddwr ar raddfa fach hefyd ar gyfer Dyffryn Abergwenffrwd yn ystod y cyfnod canoloesol; cyfeirir at felin yd mâl (PRN 00670g) mewn Inquisition Post Mortem dyddiedig 1314, ac mae'r hyn a ddaeth ar ei hôl yn dal i fodoli, er ei fod wedi'i addasu. Yn ddisgwyliedig, ceir gweithgarwch diwydiannol o'r cyfnod yn Nhrefynwy hefyd, lle nodwyd nifer o felinau a sawl ffwrnais bwrw haearn, gan gynnwys o bosibl deunydd (sorod haearn a chols) o efail, a oedd yn eiddo i William de Marias (PRN 01237g). Ymddengys hefyd i waith haearn canoloesol ddigwydd yn Newton (HLCA 021) lle daethpwyd o hyd i wastraff sorod ac odyn ganoloesol.

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol datblygwyd diwydiant trwm yn Nyffryn Gwy Isaf, ac mae ei olion ffisegol bellach yn darparu rhai o'r prif nodweddion yn yr ardal. Cafodd Dyffryn Angidy ei ddewis fel y lleoliad gorau yn y wlad i gynhyrchu gwifrau wedi'u pweru gan ddwr yn dilyn arolwg cenedlaethol a gynhaliwyd gan y llywodraeth yn 1565-66 fel rhan o bolisi i wneud Prydain yn hunangynhaliol, ac yn llai dibynnol ar fewnforion. Roedd y Gymdeithas Gwaith Mwynau a Magnelfeydd, un o fonopolïau'r llywodraeth, yn gweithredu yn yr ardal tan 1631, pan roddwyd y gorau i'w phrydles a daeth y gweithredwyr yn brydleswyr. O ganlyniad, agorwyd Gweithfeydd Gwifren/Haearn Lower neu Abbey (PRN 00709g, SAM MM266), y gweithfeydd gwifren a bwerwyd gan ddwr cyntaf yn y wlad, yn Nhyndyrn yn 1566, ac er mwyn cynyddu'r cyflenwad ymhellach ar ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg sefydlodd y Gymdeithas Gwaith Mwynau a Magnelfeydd gangen yn Abergwenffrwd (06255g). Cafodd wyth safle diwydiannol ar wahân eu sefydlu ar hyd Nant Angidy, pob un yn cael ei bweru gan ddwr, a phob un yn ymwneud â phrosesu haearn, drwy gynhyrchu gwifrau yn bennaf. Tyfodd y diwydiant dros gyfnod o dri chan mlynedd, a sefydlwyd y safle diweddaraf, New Tongs Mill, yn 1803. Yn ogystal â'r diwydiant haearn, roedd sawl melin yd a bwerwyd gan ddwr yn Nyffryn Gwy Isaf. Mae'r diwydiannau hyn a bwerwyd gan ddwr wedi gadael eu hôl gryn dipyn ar hyd Nant Angidy, lle ceir nifer fawr o nodweddion rheoli dwr, gan gynnwys ffosydd, cronfeydd dwr a ffrydiau a oedd yn bwydo'r gweithfeydd. Gyda llai o alw am wifren, yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuwyd gweithgynhyrchu tunplat, er mai byrhoedlog ydoedd ac erbyn dechrau'r ganrif, roedd y gwaith o gynhyrchu gwifren a thunplat wedi dirwyn i ben yn yr ardal.

Gwelir pwysigrwydd y diwydiant prosesu metel yn Nyffryn Gwy Isaf hefyd yn Upper Redbrook (HLCA 015). Er nad yw'r pentref hwn yn y Dirwedd Hanesyddol, gan ei fod ychydig dros y ffin yn Lloegr, mae'r diwydiant yma, a oedd yn cynnwys dwy ffwrnais chwyth, dau waith toddi copr, a dau waith tunplat, yn ogystal â melin bapur a sawl melin yd yn adlewyrchu cryfder y diwydiant yn Nyffryn Gwy Isaf yn gyffredinol. Cafodd Tramffordd Trefynwy, a agorwyd yn 1812 i gludo nwyddau ac adnoddau rhwng Trefynwy, Fforest y Ddena a Dyffryn Gwy ei chysylltu â Gweithfeydd Tunplat Lower yn Redbrook drwy inclein hunanweithredol a Throsbont Inclein Redbrook (PRN 02195g, NPRN 85227, SAM MM203). Nid yw'r diwydiant prosesu metel yn gyfyngedig i'r canolfannau mwy, er enghraifft gwyddys i ffwrnais haearn weithredu ar Fferm Coed Ithel (yn HLCA 017) y tu allan i'r dyffrynnoedd llednant diwydiannol iawn, tra daethpwyd o hyd i sorod haearn yng Nghoedwig Hael (HLCA 027) ynghyd ag odyn calch.

Er mai gwaith prosesu haearn oedd y brif nodwedd ddiwydiannol i ddechrau yn Nyffryn Gwy Isaf, roedd tirwedd dyffryn yr ardal ac adnoddau dwr hefyd yn allweddol i ddatblygiad diwydiannau gweithgynhyrchu eraill a oedd yn bwysig yn economaidd. Daeth Dyffryn Abergwenffrwd yn arbennig yn enwog am weithgynhyrchu papur, a ddechreuodd tua 1760, drwy adeiladu Melin Bapur Clearwater a bwerwyd gan ddwr (PRN 00665g, 07971g, LB 24923, 24943, SAM MM194), o bosibl ar safle gweithfeydd gwifren cynharach o'r ail ganrif ar bymtheg (Newman 2000, 277).

Erbyn 1775, datblygodd pris ac ansawdd papur o Brydain i'w gwneud yn ddichonadwy eu hallforio, gan arwain at ehangu'r diwydiant papur yn sylweddol yn Nyffryn Abergwenffrwd nes i chwe melin weithredu ar hyd yr afon. Defnyddiodd rhai o'r rhain, gan gynnwys sefydliad gwreiddiol Clearwater, a Melin Sunnyside (PRN 00667g), bwer ager ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mewn rhai gosodwyd peirianwaith parhaus, tra ymddengys i eraill barhau i gael eu gweithredu â llaw. Yn sgîl mabwysiadu pwer ager ac adeiladu'r rhwydwaith rheilffordd yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dilëwyd cyfyngiadau o ran lleoliad y diwydiant a bu'n bosibl i weithgynhyrchwyr symud i fannau lle'r oedd gweithwyr a deunyddiau crai ar gael yn fwy, ac erbyn tua 1880, roedd y diwydiant papur yn Abergwenffrwd wedi dirwyn i ben (Coates 1992, 26).

Yn ogystal â'r diwydiannau prosesu, mae nodweddion cloddiol ac amaeth-ddiwydiannol hefyd wedi cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu'r dirwedd. Mae cysylltiadau agos rhwng yr agweddau hyn ar weithgarwch diwydiannol; ceir chwareli calch sy'n gysylltiedig ag odynau calch a chynhyrchu calch at ddiben amaethyddiaeth, gwaith adeiladu a diwydiant, yn ogystal â chwareli maen melin (sy'n gysylltiedig â'r diwydiant seidr lleol yn Nyffryn Gwy a thu hwnt) drwy'r ardal. Mae chwareli yn amlwg iawn mewn coetiroedd, fel Chwarel Livox, yng Nghoetir Hynafol Parc Piercefield (HLCA 004), chwarel weithredol a ehangodd ers arolwg Argraffiad Cyntaf map yr AO. Wedi'i nodi hefyd ar Argraffiad Cyntaf map yr AO yng Nghoetir Hynafol Parc Piercefield mae pum chwarel arall (y mae un ohonynt yn bwll cerrig haearn) a dwy odyn calch. Ymhellach i'r gogledd, mae Coetir Hynafol Tyndyrn (HLCA 009) yn cynnwys odynau calch a chwareli bach; mae Coedwig Cuckoo (HLCA 022) a Choedlan Hayes (HLCA 023) hefyd yn cynnwys olion chwareli bach a ddangosir ar fapiau hanesyddol, tra bod Coedwig Highmeadow (HLCA 019) a Choetir Lord’s Grove (HCLA 040) hefyd yn cynnwys chwareli. Roedd yr olaf fwy na thebyg yn gysylltiedig ag adeiladu'r llwybrau trafnidiaeth amrywiol, gan gynnwys Rheilffordd Dyffryn Gwy a Thramffordd Trefynwy gyfagos. Credir bod o leiaf un o'r chwareli yng Nghoedwig Hael (HLCA 027) o'r cyfnod canoloesol, a dywedir iddi ddarparu cerrig adeiladu ar gyfer Castell Rhaglan. Mae rhai o'r chwareli yn gysylltiedig ag odynau calch, y daethpwyd o hyd i un mewn perthynas â sorod haearn.

Yn chwareli Coedwig Hael a Choedwig Troypark (HLCA 036) ceir meini melinau nas gorffennwyd, yr ymddengys iddynt gael eu difrodi neu eu bod yn ddiffygiol cyn cwblhau ac fe'u gadawyd yn y fan a'r lle. Dangosir pwysigrwydd y diwydiant maen melin, a'r diwydiant melino i'r economi leol gan nifer y meini melin a geir wrth ymyl y ffordd, neu mewn perthynas â melinau neu wasgfeydd seidr, yn ogystal â nifer y meini melin sy'n ddiffygiol ac wedi'u gadael yn yr ardal gloddio. Ceir un enghraifft ar ddiwedd y ffordd gyhoeddus sy'n rhedeg i Dixton Hadnock (HLCA 020) wrth glwyd Hadnock Court, a osodwyd ar i fyny ar ei hochr, tra bod un arall yn ardal Tir Comin Church Hill (HLCA 032) o'r enw 'Cross Vermond' ac yn lleol credir mai gwaelod croes ydyw, er ei bod yn debycach i'r cerrig diffygiol a adawyd yn y chwareli yn ardaloedd cyfagos y coetir. Ceir gwasgfeydd seidr a melinau, sydd fel arfer yn gysylltiedig â ffermydd lleol, ar Fferm Coed Ithel (HLCA 017), Chapel Farm (HCLA 010), yn Nhyndyrn (HLCA 013), Tintern Parva (HLCA 016), ac yng Nghoedwig Troypark (HLCA 036).

Mae tystiolaeth o reoli a defnyddio coetir ar ffurf llefydd tân yn llosgi siarcol drwy'r ardaloedd o goetir hynafol hefyd yn nodweddiadol o weithgarwch amaeth-ddiwydiannol.

Yn ôl i'r brig

Trafnidiaeth a Chysylltiadau

Gwyddys i lwybr Rhufeinig groesi Afon Gwy i'r gogledd o Gas-gwent tra bod Ffordd Weston-under-Penyard (Ariconium) cangen o Antonine Itinerary XIII, parhad o'r ffordd Rufeinig a redai drwy Gaerllion i'r gogledd o Drefynwy tuag at Henffordd hefyd yn mynd drwy'r ardal (PRN 02954g, RR612a-03; Margary 1957; CBHC 1994; Sherman ac Evans 2004). Fodd bynnag, nid yw'r un o'r llwybrau hyn yn dilyn prif ddyffryn Gwy o'r gogledd i'r de, lle mae rhwydwaith o lonydd cul, llwybrau a thraciau, gan gynnwys llwybrau ymyl cefnen cynhanesyddol o bosibl yn dominyddu. Credir bod llawer o'r lonydd a'r traciau yn rhai canoloesol, a byddent wedi bod yn gysylltiedig â'r defnydd mynachaidd o dir, masnach a phererindod, tra bod eraill fwy na thebyg yn gysylltiedig â'r broses ôl-ganoloesol o ehangu diwydiant ac anheddiad. Mae'n debygol i lawer o'r llwybrau hyn gael eu defnyddio yn ystod y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan deithwyr â diddordeb yn nhirweddau pictiwrésg yr ardal. Byddai'n fuddiol ymchwilio ymhellach i rwydweithiau cysylltiadau cynnar yr ardal.

Gellir nodweddu Afon Gwy ei hun fel llwybr trafnidiaeth naturiol, ac mae bodolaeth afon y gellir ei mordwyo wedi dylanwadu ar ddatblygiad yr ardal i raddau helaeth. Mae'r afon yn donnol am 16km i fyny'r afon o Gas-gwent ac yn hanesyddol roedd yn bosibl ei mordwyo hyd at Henffordd, ac felly hyd y Dirwedd Hanesyddol. Yn wir, yr afon oedd y prif goridor cysylltiadau ar gyfer Dyffryn Gwy Isaf nes adeiladu ffordd dyrpeg yn y 1820au. Roedd yr afon yn darparu llwybr cysylltiadau i gludo deunyddiau i ac o'r safleoedd diwydiannol amrywiol ar hyd y llednentydd cyflymach, ac roedd yn un o'r prif ffactorau a ddylanwadodd ar leoliad sawl canolfan ddiwydiannol ar ei hyd. Mae glanfeydd ar bob un o'r prif safleoedd diwydiannol yn dangos pwysigrwydd y cychod camlas a oedd yn cyflenwi'r diwydiant, ac yn cludo'r cynhyrchion, a allai gael eu mordwyo i lawr Afon Gwy i Gas-gwent, ac o'r man hwnnw roedd modd eu dosbarthu ymhellach. Cyfrannodd Afon Gwy at economi'r ardal ymhellach, ac roedd cychod camlas yn cludo nwyddau ar hyd Dyffryn Gwy Isaf, gan gyfoethogi teuluoedd lleol. Roedd yr afon yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r diwydiant twristiaeth a oedd yn tyfu yn y dyffryn yn y ddeunawfed ganrif; yn ogystal â bod yn atyniad pwysig i dwristiaid ei hun, y ceunant prydferth a ddaeth yn nodwedd ganolog. Roedd hefyd yn ffordd bwysig o gludo twristiaid a daeth yn boblogaidd mynd ar gwch i lawr yr afon, gan aros mewn mannau amrywiol i weld y golygfeydd a mwynhau'r awyrgylch; yn 1808, cofnodir bod wyth cwch pleser yn gweithredu ar yr afon.

Yn sgîl adeiladu ffordd dyrpeg Cas-gwent i Drefynwy, lleihawyd y ddibyniaeth ar Afon Gwy i gludo pobl a nwyddau, ac agorodd y dyffryn a'r pentrefi, nad oedd modd mynd iddynt cyn hyn heblaw am ar y dwr, neu drwy'r rhwydwaith o lonydd gwledig cul a bach a oedd yn beryglus o serth, yr ystyrir i rai ohonynt gael eu creu i gysylltu'r maenorau mynachaidd â'u prif dai, fel Stony Way, a oedd yn cysylltu Tyndyrn â'i maenor ym Mhorthcaseg. Yn ddiweddarach, cafodd y gwaith o adeiladu sawl rheilffordd yn ystod hanner olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddylanwad mawr ar ddatblygiad Tirwedd Dyffryn Gwy Isaf. Crybwyllir tramffyrdd diwydiannol, fel Tramffordd Trefynwy o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, uchod. Y cynharaf o blith y rheilffyrdd cyhoeddus oedd Rheilffordd De Cymru, un o ganghennau Rheilffordd Great Western, a agorwyd yn 1850, ac a oedd yn rhedeg am 143 milltir o Gas-gwent drwy Gasnewydd, Caerdydd, Abertawe a Chaerfyrddin i arfordir gorllewinol Abergwaun, Sir Benfro (Barrie 1980).

Cafodd llinell Coleford, Trefynwy, Brynbuga a Phont-y-pwl ei hawdurdodi gan Ddeddf 1853, gyda changen yn gwasanaethu'r gweithfeydd nwy yn Wyesham. Roedd y llinell hon yn rhedeg o Gyffordd Little Mill i orsaf Wyesham, ac agorwyd yr adran i Drefynwy yn 1857. Cafodd y llinell o Drefynwy i Rosan ar Wy, a awdurdodwyd gan Ddeddf 1865, ei hadeiladu yn y 1860au gan Reilffordd Rhosan a Threfynwy, ac fe'i hagorwyd yn 1873. Yn wreiddiol, roedd y llinell hon yn gorffen yn May Hill nes i estyniad i orsaf Troy, i'r de o Drefynwy gael ei adeiladu yn 1874.

Awdurdodwyd Rheilffordd Dyffryn Gwy gan Ddeddf 1866, ac agorwyd y llinell o Gas-gwent i Drefynwy ar 1af Tachwedd 1876. Mae'r llinell sydd bellach yn segur yn rhedeg ar hyd y lan orllewinol o Tintern Parva i'r gogledd ar hyd yr afon cyn croesi Afon Gwy a mynd i mewn i Lundain yn Lower Redbrook. Gan barhau ar hyd y lan ddwyreiniol, mae'n rhedeg drwy Upper Redbrook ac yn mynd yn ôl i mewn i Gymru cyn mynd i mewn i Wyesham, ac o'r man hwnnw mae'n dilyn glannau dwyreiniol a deheuol yr afon cyn rhedeg i'r gogledd i mewn i Loegr. Roedd rheilffordd Dyffryn Gwy yn gwmni annibynnol tan 1905 pan ddaeth Rheilffyrdd Great Western yn gyfrifol amdano. Gorffennodd gwasanaethau teithwyr ar y llinell yn 1959, tra parhaodd trenau nwyddau nes i'r llinell gau yn gyfan gwbl yn 1964.

Cynrychiolir rheilffyrdd diwydiannol gan y tramffyrdd, a adeiladwyd i wasanaethu'r diwydiant prosesu metel yn Angidy, a Rheilffordd neu Dramffordd Trefynwy, a gwblhawyd yn 1812, a redai o Howler's Slade i Drefynwy, gyda changen yn gwasanaethu Gweithfeydd Tunplat Upper Redbrook.

Yn ôl i'r brig