Dyffryn Gwy Isaf

The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Dyffryn Gwy Isaf

002 Coridor Trafnidiaeth Cas-gwent


'Middle-class' housing along the A4043

HLCA 002 Coridor Trafnidiaeth Cas-gwent

Coridor cysylltiadau a choridor morol arfordirol: pontydd; pontydd troed; pontydd rheilffyrdd; nodweddion glan yr afon a rhynglanwol, porthladdoedd/dociau; llithrfa; Archeoleg ddiwydiannol; rheilffordd gyhoeddus a diwydiannol; Archeoleg greiriol/claddedig: Anheddiad cynhanesyddol; ac angladdol a defodol Rhufeinig (amlosgiadau). Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coridor Trafnidiaeth Cas-gwent yn cynnwys ardal o ddociau gweithredol i'r de o brif dref Cas-gwent; mae warysau dociau a phrif reilffordd yn dominyddu'r ardal. Er bod prif ffocws yr ardal ychydig islaw Cas-gwent, mae'n parhau ymhellach i'r de ar ffurf llain gul sy'n cwmpasu glan yr afon a'r rheilffordd i aber Afon Gwy wrth ei gyflifiad ag Afon Hafren.

Y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch yn yr ardal yw cyfres o ddyddodion ogof sy'n dyddio'n ôl i'r cyfnod Uwch Balaeolithig a geir yn Ogof Sant Pedr (PRN 02216g, SAM MM160). Daethpwyd o hyd i nifer o amlosgiadau a nwyddau claddu cysylltiedig o'r cyfnod Rhufeinig hefyd.

Yn ystod y cyfnod canoloesol amgaewyd yr ardal gan y dref ganoloesol neu Fur Porthladd (PRN 01186g, NPRN 302128, LB 2477, SAM MM002) ac er yn berllannau a phlotiau bwrdeisi agored yn bennaf, o ganlyniad ffurfiwyd rhan o anheddiad canoloesol craidd Cas-gwent.

Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol gwelwyd sawl newid, a newidiodd gymeriad cynharach yr ardal yn y pen draw. Cafodd Rheilffordd De Cymru, cangen o Reilffordd Great Western, ei hadeiladu ar ôl i Ddeddf Seneddol awdurdodi hynny yn 1845 a gellir ei gweld gyntaf ar fapiau hanesyddol ar fap degwm 1846 o'r ardal; fodd bynnag, ni chafodd y rheilffordd ei hun (o Gas-gwent i Abertawe) a wnaeth dorri drwy'r Mur Porthladd canoloesol yn yr ardal gyntaf ei hagor tan 1850 ac ni chwblhawyd Pont Afon Gwy yng Nghas-gwent tan 1852. Agorwyd Gorsaf Cas-gwent yn 1850, ac agorodd Rheilffordd Dyffryn Gwy yn 1876 gan gysylltu Cas-gwent â Threfynwy nes iddi gael ei chau yn 1964 (Barry 1980).

Mae map degwm 1846 yn nodi bod cryn dipyn o'r tir ar lannau'r afon yn eiddo i ystad Beaufort. O astudio'r mapiau hanesyddol sy'n cwmpasu'r ardal gwelir nifer o nodweddion diwydiannol gan gynnwys tramffordd ar hyd Rheilffordd De Cymru a welir tan Drydydd Argraffiad (1921) map yr AO. Ar Argraffiad Cyntaf map yr AO gwelir hefyd chwarel gyferbyn â'r Mur Porthladd ac ychydig y tu mewn iddo, yn ogystal â Melin Cas-gwent (yd), cronfa ddwr, ty melin ac Iard Rwymedig â phont lanio gerllaw, a dwy sied nwyddau a phlanhigfa. Ychwanegwyd marchnad wartheg erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg/ugeinfed ganrif.

Adeiladwyd Melin Cas-gwent, a ddisgrifiwyd hefyd fel melin flawd ager, yn 1851 gan Robert Sharpe, contractwr rheilffordd, ac yn ddiweddarach fe'i galwyd yn Waith Fairfield Mabey (PRN 04453g, NPRN 2856). Rhoddwyd y gwaith ar y farchnad yn 1858 ac fe'i prynwyd gan Parnall and Co. o Gasnewydd; yn ddiweddarach yn y 1890au addaswyd y gweithfeydd yn fragdy gan Gwmni Bragdy Caerdydd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddiwyd yr adeilad fel biled, neu swyddfeydd, ar gyfer y Peirianwyr Brenhinol, a oedd yn gweithio ar lan yr afon ar y pryd yn Iard Longau Genedlaethol Rhif Un.

Daeth y gwaith o adeiladu llongau yn agwedd bwysig ar hanes yr ardal yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) pan symudodd ffocws y diwydiant i'r ardal i'r de o'r rheilffordd o'i ffocws blaenorol yn agosach at Bont Cas-gwent: yn 1916, sefydlodd y Cwmni Adeiladu Llongau Safonol iard longau a chafodd Mur canoloesol y Porthladd ei ddymchwel yn rhannol i wneud lle i'r iardiau llongau mwy o faint a'r cilffyrdd rheilffyrdd cysylltiedig. Gwladolwyd yr iard gan y llywodraeth yn 1917 a'i galw'n 'Rhif Un' o dair Iard Longau Genedlaethol a oedd yn ategu gweithgarwch a oedd yn gysylltiedig â'r rhyfel yn yr ardal ehangach. Prynodd Cwmni Adeiladu Llongau Trefynwy Iard Longau Genedlaethol Rhif Un yn 1920. Mae olion y dociau nas defnyddir yn dominyddu'r ardal hyd heddiw.

Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol

Nodweddir Coridor Trafnidiaeth Cas-gwent yn bennaf gan goridor cysylltiadau ac ardal ddiwydiannol ar lan yr afon, gydag olion dociau o'r Rhyfel Byd Cyntaf a oedd yn helaeth ar un adeg. Mae cyfres o gysylltiadau yn rhedeg drwy'r ardal hon, gan gynnwys rheilffordd ddiwydiannol a chyhoeddus, sef Rheilffordd De Cymru a adeiladwyd yn 1846, sy'n rhedeg i'r de-orllewin-gogledd-orllewin drwy'r ardal ac a gafodd ei chario'n wreiddiol dros Afon Gwy ar Bont Diwbaidd Brunel tua 1850 (LB 27113 Gradd II), a gafodd ei hadnewyddu a'i hymestyn yn rhannol yn 1962 o dan gwmni Rheilffyrdd Prydain. Mae gan y bont, a adeiladwyd o garreg ag wyneb o graig haenog â cherrig addurnedig a ddisgrifiwyd yn llawn yn y disgrifiad rhestru 'wide chamfered segmental arch' dros y ffordd a 'curved and angled abutments partly buttressed'.

Mae gan yr ardal nifer o nodweddion cysylltiadau eraill gan gynnwys pontydd rheilffyrdd, pontydd troed; yn arbennig gorsaf reilffordd Cas-gwent (LB 3586 Gradd II; PRN 02817g; a NPRN 34955), a'i Phont Droed gysylltiedig (LB 27112).

Y prif elfennau a welir yn yr ardal hon o hyd yw'r nodweddion diwydiannol canoloesol gan gynnwys yr hen felin flawd ager a'r bragdy (PRN 04453g NPRN 2856), sef Gweithfeydd Fairfield Mabey. Adeiladwyd Gweithfeydd Fairfield Mabey yn 1851, fel melin flawd ager ac fe'i haddaswyd yn ddiweddarach yn fragdy. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf defnyddiwyd y Gweithfeydd fel biled neu swyddfeydd, ac mae wedi parhau fel swyddfeydd hyd heddiw.

Mae archeoleg greiriol yn un o nodweddion diffiniadwy eraill yr ardal; tystia presenoldeb dyddodion ogof o'r cyfnod uwch Balaeolithig yn Ogof San Pedr (PRN 02216g, SAM MM160) i anheddiad cynhanesyddol, a warchodir bellach fel Heneb Gofrestredig. Daethpwyd o hyd i dri amlosgiad Rhufeinig yn yr ardal, roedd dau mewn crochenwaith cysylltiedig a gwelwyd trydydd mewn blwch neu gistan bren. Gwelwyd olion yr hyn y credir ei fod yn gysegr o bren o amgylch un o'r amlosgiadau. Mae'r Mur Porthladd (PRN 01186g, NPRN 302128, LB 2477, SAM MM002), sef y mur canoloesol sydd ar ochr Cas-gwent, yn croesi'r ardal hefyd. Cafodd y mur ei rannu gan Reilffordd De Cymru erbyn iddo gael ei fapio ym map degwm 1846. Cafodd Mur y Porthladd a ddangoswyd i'r dwyrain ac i'r gorllewin o'r rheilffordd ar yr Ail Argraffiad o fap yr AO (1901-2) ei ddymchwel yn rhannol (yn yr ardal i'r de-ddwyrain o Reilffordd De Cymru) i wneud lle i iardiau llongau mwy o faint a ddechreuodd yn 1916.