The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

002 Cefn Crugwyllt a Chwm Maelwg


Tirwedd amaethyddol gaeedig Cefn Crugwyllt a Chwm Maelwg.

HLCA 002 Cefn Crugwyllt a Chwm Maelwg

Tirwedd amaethyddol gaeedig gyda chysylltiadau mynachaidd hanesyddol a nodweddion anheddiad canoloesol creiriol; coetir Hynafol a choed eraill; adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Cefn Crugwyllt a Chwm Maelwg yn ardal sy'n gysylltiedig ag abaty canoloesol Margam, yn bennaf maenor Crug, a uniaethwyd â fferm Grugwallt (Crugwallt fawr) gan Gray. Fodd bynnag, nid oes unrhyw olion y cyfnod i'w gweld yng Nghrugwyllt fawr heddiw. Gwyddys bod gan Fargam dir yn 'Crikfield' yn 1291 ac roedd Gwerthiant y Goron yn 1543 yn cynnwys tiroedd yn 'Cryke' a safle melin ddwr o'r enw 'Cryke Mylle' (o fewn yr HLCA gyfagos, HLCA 001). Ceir 'bath' neu ffynnon gysegredig o fewn adeiladwaith petryalog bach (8030 8692) i'r dwyrain o Grugwyllt fawr yng Nghwm-bach (CBHC, 1982, 275-6); Williams, 1990, 48-52).

Ar ôl diddymu'r mynachlogydd, prynwyd yr ardal, ynghyd â phethau eraill a oedd yn arfer bod yn eiddo i'r Abaty, yng Ngwerthiant y Goron yn 1543 gan Syr Rice Mansel, a bu ym meddiant ei olynydd hyd nes i'r ystad chwalu yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae mapiau o Ystad Hill (1814) yn dangos bod patrwm caeau'r ardal wedi'i ymsefydlu'n llawn erbyn dechrau'r 19eg ganrif.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Cefn Crugwyllt a Chwm Maelwg yn ardal sydd wedi'i disgrifio fel tirwedd amaethyddol gaeëedig ag anheddiad/caeau canoloesol/ôl-ganoloesol a chlostiroedd gwahanol â ffiniau pendant gan gynnwys wal sych, cloddiau ag arwyneb cerrig a chloddiau ag arwyneb cerrig â gwrychoedd. Mae tystiolaeth ddogfennol yn nodi bod yr ardal, sydd ar esgair/cefnen ucheldirol, yn rhan o faenor fynachaidd ganoloesol a oedd yn eiddo i Abaty Sistersaidd Margam a oedd yn gyfagos. Un o'r nodweddion mynachaidd amlwg sydd wedi goroesi yw'r 'Baddondy' neu Ffynnon Gysegredig 'Baddon' (PRNs 00754w a 04796w; SAM Gm 545) o'r 14eg neu'r 15fed ganrif.

Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau cynhenid ôl-ganoloesol yn yr ardal wedi'u haddasu, er bod enghraifft ddiddorol o dy â grisiau canolog o gyfnod y Dadeni yno hyd yng Nghwm Maelog. Mae ffotograffau o'r awyr yn nodi'r posibilrwydd o archeoleg gladdedig yn yr ardal a gynrychiolir gan olion crasu. Nodweddir ymylon deheuol a gogleddol yr ardal gan olion coetir hynafol yr ychwanegwyd atynt drwy blanhigfeydd diweddarach a choedwigaeth o'r 20fed ganrif. Ymhlith y nodweddion eraill mae mân nodweddion cysylltiadau, megis y llwybr canoloesol ar Gefn Crugwyllt.