Mynydd Margam
006 Eglwys Nunydd a Chwrt-y-defaid
HLCA 006 Eglwys Nunydd a Chwrt-y-defaid
Ardal amaethyddol a phreswyl gyda chysylltiadau hanesyddol pwysig; tirwedd eglwysig bwysig gyda tharddiadau cynnar; caeau o'r cyfnod ôl-ganoloesol; tirwedd archeolegol greiriol o anheddiad o'r cyfnodau canoloesol cynnar/canoloesol/ôl-ganoloesol; adeiladau cynhenid diddorol o'r cyfnod ôl-ganoloesol; gweddillion archeolegol claddedig ar ffurf darganfyddiadau (yn cynnwys cerrig arysgrifenedig) ac olion crasu/cnydau; coridor cysylltiadau pwysig (Rhufeinig a diweddarach). Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Eglwys Nunydd a Chwrt-y-defaid yn rhan o ystad Margam yn gyfagos i brif goridor trafnidiaeth yr ardal, h.y. Stryd y Dwr, ffordd arfordirol a ddefnyddiwyd ers y cyfnod Rhufeinig, rhwng Castell-nedd (Nidum) a Chaerdydd ac yn y pen draw Caerllion. Mae'r ardal yn dirwedd eglwysig o gryn bwys ac yn safle anheddiad mynachaidd o'r cyfnod canoloesol cynnar sy'n gysylltiedig â Santes Non, Mam Dewi Sant yng nghyffiniau fferm ôl-ganoloesol Eglwys Nunydd; tarddodd llawer o'r cerrig arysgrifedig a symudwyd i'r Amgueddfa ym Margam o'r ardal. Parhaodd pwysigrwydd eglwysig yr ardal gydag Abaty Sistersaidd Margam, pan ffermiwyd yr ardal o faenor fynachaidd ganoloesol Llanfugeilydd, Cwrt-y-defaid neu Faenor y Defaid gyda'i mynwent ganoloesol.
Mae nodweddion ôl-ganoloesol yn elfen bwysig ar y dirwedd heddiw, ac yn cynnwys clostir amaethyddol ac anheddiad. Ar wahân i weddillion fferm Eglwys Nunydd, mae aneddiadau ôl-ganoloesol nodedig eraill yn cynnwys yr Hen Barc, ty deulawr ar siâp L o ddiwedd yr 17eg ganrif, gyda chegin ym mhen pellaf pob rhes a phyrth cerrig amrywiol, yn cynnwys un goruwchadail ar fracedi. Mae'r ty yn cynnwys grisiau o ddiwedd yr 17eg ganrif y dywedir iddo darddu o blasty Abaty Margam a gafodd ei ddymchwel.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Eglwys Nunydd a Chwrt-y-defaid, ar y godre arfordirol isel, fel ardal amaethyddol a phreswyl gyda chysylltiadau hanesyddol pwysig. Mae'r ardal yn dirwedd eglwysig o gryn bwys. Gwyddys mai safle anheddiad mynachaidd canoloesol cynnar yn gysylltiedig â Santes Non, Mam Dewi Sant oedd ardal fferm ôl-ganoloesol Eglwys Nunydd. Ategir pwysigrwydd eglwysig yr ardal gan fodolaeth maenor fynachaidd ganoloesol yn eiddo i Abaty Sistersaidd Margam.
Nodwedd gryfaf yr ardal heddiw yw ei thirwedd ôl-ganoloesol amrywiol o gaeau mawr afreolaidd/datblygedig a rheolaidd gyda choedlannau neu ddrysgoed o goetir llydanddail yma a thraw. Er bod tirwedd archeolegol greiriol yr ardal o anheddiad canoloesol cynnar/canoloesol o ddiddordeb, yr adeiladau amaethyddol ôl-ganoloesol sy'n sefyll yw'r elfen weledol fwyaf nodweddiadol o'r dirwedd bellach. Mae'r ardal yn cynnwys nifer o adeiladau cynhenid ôl-ganoloesol yn cynnwys yr Ysgubor ddegwm, adeiladau allan a'r ffermdy yn Eglwys Nunydd, ty pedair uned â chyntedd grisiau canolog yr Hen Barc (17eg ganrif, rhestredig gradd II), yr ysgubor yn Nhy Cynffig a Bythynnodd Cwrt-y-defaid o'r 18fed ganrif, er enghraifft.
Mae gweddillion archeolegol claddedig yn nodweddion eraill llai gweledol ond pwysig serch hynny, yn amrywio o ddarganfyddiadau (yn cynnwys cerrig arysgrifedig canoloesol) i olion crasu/cnydau. Ffurfiodd yr ardal goridor trafnidiaeth/cysylltiadau pwysig hefyd o'r cyfnod cynhanesyddol hyd at heddiw, ac mae ffordd y B4283, sef ffordd ganoloesol Stryd y Dwr (a elwir hefyd yn Heol y Sheet, Heol Las, ac ati) a phriffordd bresennol yr A48 yn ffinio â hi.
Ychwanegiad diweddar i gymeriad adeiledig yr ardal yw'r clwstwr dwys o dai neu'r anheddiad cnewyllol cynlluniedig o dai safonol o amgylch fferm ôl-ganoloesol addasedig Eglwys Nunydd.