Mynydd Margam
009 Coridor Rheilffordd Cwm Dyffryn a Chwm Farteg
HLCA 009 Coridor Rheilffordd Cwm Dyffryn a Chwm Farteg
Pentref ystad o'r cyfnod ôl-ganoloesol gydag ychwanegiad hirgul o'r 20fed ganrif; adeiladau cynhenid o'r cyfnod ôl-ganoloesol (17eg-19eg ganrif) a phreswylfeydd maestrefol o'r 20fed ganrif. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Coridor Rheilffordd Cwm Dyffryn a Chwm Farteg yn adlewyrchu'r broses ddatblygedig o ddiwydiannu'r ardal o'r cyfnod canoloesol. Gwyddys mai Goytre oedd safle 'Fredulles Mills' (dwr a phandy) ar y Ffrwdwyllt, a oedd yn gysylltiedig â maenor fynachaidd Hafod-y-Porth (HLCA010), ac mai un ohonynt efallai oedd 'New Mill' o 1520. Roedd y rhain efallai ger safle Melin Dyffryn (yd) a welir ar argraffiad cyntaf map AO 1884. Yn dilyn y diddymiad, cafodd yr ardal a fu gynt yn dir mynachaidd a oedd yn cael ei ffermio o faenor Hafod-y-Porth, ei throsglwyddo ynghyd ag adeiladau mynachaidd eraill i ystad Margam.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Coridor Rheilffordd Cwm Dyffryn a Chwm Farteg yn bennaf fel ffordd gysylltiadau, sef yn bennaf ffordd hen linell segur Rheilffordd Port Talbot (PTR) rhwng Cyffordd Dyffryn Port Talbot a Maesteg, drwy Fryn, a adeiladwyd tua 1898. Mae'r ardal hefyd yn cynnwys ffordd gynharach Tramffordd Lefel Goetre (argraffiad cyntaf AO 1885) tuag at Waith Copr Margam, i'r gorllewin o'r ardal. Mae nodweddion trafnidiaeth eraill yn cynnwys is-ffordd, lonydd a llwybrau ôl-ganoloesol.
Nodwedd fawr arall ar yr ardal yw'r aneddiadau ochr rheilffordd diwydiannol o ddechrau'r 20fed ganrif, sef Goetre (Stryd y Dwyrain a Stryd Emroch) a Bryn (Station Terrace a Theras Gallt-y-cwm); yma cafodd yr anheddiad diwydiannol cynharach o'r 19eg ganrif sy'n gysylltiedig â Phwll Glo Bryn a'r Dramffordd ei ehangu yn y pen draw o amgylch yr orsaf reilffordd ddiweddarach (PTR). Nodweddir yr anheddiad diwydiannol (dechrau'r 20fed ganrif) gan batrymau hirgul a strydoedd grid hirfain; a'r math o adeilad nodweddiadol cynharaf oedd y ty teras, ac mae gan y rhai yng Ngoetre (h.y. Stryd y Dwyrain a Stryd Emroch), simneiau wedi eu gosod ar osgo i ffryntiad y stryd. Yn ddiweddarach tai cymdeithasol o'r 20fed ganrif yw'r nodwedd amlycaf. Nodwedd weledol o bwys yng Ngoetre yw ei fynwent fawr (a adeiladwyd yn unol â chynlluniau a gwblhawyd yn 1915). Mae'r ardal hefyd yn cynnwys gweddillion diwydiannol o'r 19eg ganrif, fel Lefel Goetre sydd bellach yn segur (glo; argraffiad cyntaf AO 1885).