The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Mynydd Margam

010 Coedwig Mynydd Margam


Coedwig Mynydd Margam.

HLCA 010 Coedwig Mynydd Margam

Planhigfa o goed helaeth o'r 20fed ganrif (Coetir hynafol a choetir llydanddail arall); mynydd agored a thir caeedig gynt; tir mynachaidd gynt: maenor a chapel; tirwedd archeolegol greiriol amlgyfnod: anheddiad o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol (patrwm anheddu gwasgaredig llac) a chaeau, nodweddion angladdol a defodol o'r cyfnod cynhanesyddol gydag elfen amddiffynnol o'r cyfnod cynhanesyddol; coridor cysylltiadau o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol; gorfawn yn casglu gydag effaith bosibl ar yr amgylchedd; nodweddion archeolegol diwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Coedwig Mynydd Margam yn cynnwys ardal o fynydd agored gynt a chymoedd caeedig sy'n gysylltiedig ag Abaty Sistersaidd Margam, yn benodol Maenor Hafod-y-Porth (SS 80128 8986), a Maenor Crug ac Abaty Margam ei hun, yr oedd yr olaf y tu allan i ffin yr ardal gymeriad. Yn yr ardal, ceir gweddillion pwysig maenor a chapel cysylltiedig yn Hafod (Hafod-y-Porth). Yn dilyn diddymu'r mynachlogydd daeth adeiladau mynachaidd yr ardal yn rhan o Ystad Margam.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Coedwig Mynydd Margam yn bennaf gan blanhigfa o goed helaeth o'r 20fed ganrif. Mae'r ardal, sydd bellach wedi ei chuddio gan goedwig fodern, yn cynnwys cymysgedd o hen glostiroedd agored a datblygedig/afreolaidd ac amrywiol (Ffigur 11a) a nodir ar gynlluniau ystad o 1814 ac argraffiad 1af mapiau AO 6" o 1884/5. Yr ardaloedd agored, mynydd agored gynt, yw Mynydd Margam ei hun (Ffigur 11a: HLCA 010C) a Mynydd Bach (Ffigur 11a: HLCA 010A); yr ardaloedd o dir caeedig (Ffigur 11a: HLCA 010B a D).

Nodweddir yr ardal hefyd gan ardaloedd o Goetir Hynafol, yn enwedig yn y cymoedd sydd ar lethrau Mynydd Margam, yn bennaf Cwm Maelog (a ailblannwyd yn rhannol â chonifferau yn 1858), Nant Cwm-y-Garn, a Chwm Nant-y-Glo, gyda rhagor o goetir llydanddail yn Nant Cwm Wernderi (argraffiad cyntaf AO 1884). Plannwyd ar y tir uwch, sef hen rostir agored o dan nawdd y Comisiwn Coedwigaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Roedd yr ardal, rhan o'r tiroedd mynachaidd helaeth a oedd yn gysylltiedig ag Abaty Margam ac a ffermiwyd o faenorau yn Hafod (Hafod-y-Porth) a Chrug ym Margam ei hun, yn dir pori ar fynydd agored/gwaun grugieir gynt gydag ardaloedd cyfagos o dir caeedig, ond ymylol.

Nodwedd bwysicaf yr ardal yw fel tirwedd archeolegol greiriol yn dyddio o sawl cyfnod, gyda gweddillion yn dyddio o'r cyfnodau cynhanesyddol, canoloesol ac ôl-ganoloesol, yn bennaf: aneddiadau a chaeau, nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol a nodweddion milwrol cynhanesyddol. Roedd y prif safleoedd yn cynnwys carneddau o'r Oes Efydd fel yn Ergyd Uchaf (SAM Gm 159) ac ym mhen draw Cwm Cynffig, h.y. carnedd gylchog, safle carreg Bodvoc (SAM Gm 443) a Thwmpath Diwlith (PRN 00754w), a'r safle cynhanesyddol cofrestredig, clostir hirgrwn a adwaenwyd fel y 'Gwersyll Danaidd' (SAM Gm 056). Mae'r ardal yn bwysig hefyd fel coridor cysylltiadau cynnar a sefydledig, yn seiliedig ar gefnffyrdd, a ddefnyddiwyd o'r cyfnod cynhanesyddol, hyd at heddiw, mewn rhai achosion. Y ffordd bwysicaf ohonynt oll yw Ffordd-y-gyfraith, (a adwaenwyd hefyd fel Cefn Ffordd), sy'n rhedeg ar hyd cefnen Mynydd Margam drwy Ryd Blaen-y-cwm ac i'r de-ddwyrain tuag at Fynydd Baedan (CBHC 1976, Cyf I, II a III; Rees 1932; map Yates 1799). Ystyrir bod effaith cliriad a newid yn yr hinsawdd tuag at ddiwedd yr Oes Efydd wedi arwain at amodau amgylcheddol a oedd yn addas ar gyfer ffurfio gorfawn; effeithiodd hyn ar lwyfandiroedd dyranedig Mynydd Margam fel mewn mannau eraill ar ucheldir Morgannwg (Caseldine 1990); mae'n bosibl bod dangosyddion amgylcheddol a dangosyddion eraill sy'n gysylltiedig â'r Oes Efydd a thirwedd gynharach wedi goroesi. Efallai fod coedwigaeth â'i draeniad cysylltiedig, yn ail hanner yr 20fed ganrif wedi cael effaith andwyol ar oroesiad y deunydd amgylcheddol.

Fel arall, mae nodweddion archeolegol drwy'r ardal gyfan yn bennaf cysylltiedig â naill ai amaethyddiaeth ucheldir ôl-ganoloesol ac amaethu ymgynhaliol, wedi eu nodweddu gan ffermydd, ysguboriau, corlannau, ac o leiaf un domen glustog bosibl, neu'n gysylltiedig â defnydd diwydiannol; mae'r olaf yn cynnwys chwareli, pyllau gro, pyllau glo (pob hen lefel lo a ddangosir ar ail argraffiad map AO 1900) a safleoedd llosgi siarcol. Mae'r ardal hefyd yn gysylltiedig â mân gyflenwad dwr. Mae meini terfyn, sy'n nodi rhaniadau tir amlinellol ôl-ganoloesol (neu gynharach hyd yn oed), hefyd yn nodweddion tirwedd niferus.

Credir bod gan batrwm anheddu gweladwy yr ardal ragflaenwyr canoloesol, yn ôl pob tebyg, er ei fod yn ei hanfod yn ôl-ganoloesol ar ei gam terfynol, yn cynnwys gwasgariad llac o ffermdai a bythynnod, yn cynnwys ffermydd Blaen-Maelwg, Llan Ton-y-Groes, a Nant-y-Glo, ac adeiladau fferm yn Wernderi a Hafod.