Gwyr
060 Pwlldu Head
HLCA060 Pwlldu Head
Parth rhynglanwol a thirwedd ymyl arfordirol agored: safleoedd anheddu a safleoedd amddiffynnol cynhanesyddol; ogofâu; darganfyddiadau ac ecoffeithiau amlgyfnod; prosesu amaeth-ddiwydiannol; hanes, cysylltiadau arforol yn bennaf; a nodweddion rheoli da byw. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Pwlldu Head yn cynnwys yr ymyl arfordirol, llethr serth y clogwyn yn ogystal â phen agored y clogwyn rhwng y marc distyll cymedrig a'r tir agored ar hyd y clogwyni o Shire Combe i Fae Caswell, a hefyd ardal Pwlldu, rhan ddeheuol Dyffryn Llandeilo Ferwallt, a'i hanheddiad a'i chefn graeanog trawiadol, lle y mae'n cyfarfod â'r môr.
Ceir nifer o ogofâu yn wyneb y clogwyn ar hyd y darn hwn o arfordir; darparodd rhai o'r ogofâu hyn dystiolaeth o anheddu a gweithgarwch defodol hyd yn oed yn dyddio o'r cyfnod Paleolithig. Ogof Bacon Hole (00306w; 305582), a Minchin (Mitchen) Hole (00304w; 305580) yw'r enwocaf o'r ogofâu hyn. I ddechrau credid bod Ogof Bacon Hole yn cynnwys celfyddyd gynhanesyddol, er i hynny gael ei wrthbrofi yn ddiweddarach, fodd bynnag datgelodd gwaith cloddio a wnaed ym 1850 gan y Cyrnol Wood nifer fawr o esgyrn anifeiliaid yn dyddio o'r cyfnod Pleistosenaidd, megis Rhinoseros trwyn cul ac eliffant ag ysgithredd syth. Darganfuwyd celciau archeolegol hefyd a gynhwysai haenen denau dywyll â chasgliadau o grochenwaith a awgrymai fod pobl yn byw yn yr ogof neu'n ei defnyddio o ddechrau'r Oes Haearn hyd at y cyfnod canoloesol. Cloddiwyd Minchen Hole, y fwyaf o ogofâu esgyrn Bro Gwyr, yn gyntaf yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan y Cyrnol Wood o Stouthall. Cofnododd gwaith cloddio a wnaed o dan gyfarwyddyd Mason a Rutter rhwng 1946 a 1959 aelwydydd yn dyddio o'r cyfnod Brythonaidd-Rufeinig a dechrau'r cyfnodau canoloesol. Archwiliwyd celciau cyfordraeth yn dyddio o'r cyfnod Pleistosenaidd ac esgyrn anifeiliaid cysylltiedig hefyd. Roedd y deunydd dynol cynharaf a nodwyd yn dyddio o ddechrau'r Oes Haearn. Mae cyfres o froetshys efydd sy'n amrywio o ran eu dyddiad o'r drydedd ganrif hyd yr wythfed ganrif, 16 o ddarnau arian yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig a thri darn arian yn dyddio o'r nawfed ganrif yn arbennig o bwysig. Mae ogofâu eraill yn cynnwys Bosco's Den, Bowen's Parlour, Ogof Esgyrn Bae Caswell, Ogof Crows Hole, Ogof Spurge Hole, Ogof Foxhole ac ogofâu clogwyni'r dwyrain a'r gorllewin ym Mhennard, yr ymddengys fod llawer ohonynt yn cynnwys olion Pleistosenaidd. Datgelodd gwaith cloddio yn Bosco's Den neu Bacon's Eye (00305w and 04688w) yn dyddio o tua 1850 nifer o olion anifeiliaid gan gynnwys dros 1000 o gyrn ceirw a fwriwyd; dehonglwyd bod y rhain yn dynodi safle gweithio Ifori (Morris a Grenfell 1970, 4-5; Oldham 1986).
Pennau clogwyni'r ardal oedd canolbwynt gweithgarwch anheddu a gweithgarwch amddiffynnol yn ystod yr Oes Haearn; cynrychiolir y gweithgarwch hwnnw gan Gaer Bentir High Pennard (00312w; 94532; SAM GM405) a chlostir amddiffynedig Clogwyn Redley, neu Wersyll Clogwyn Caswell (00313w; 305585). Datgelodd gwaith cloddio a wnaed ar y safle cyntaf ym 1939 gan Audrey Williams dystiolaeth ei fod yn cael ei ddefnyddio yn ystod y cyfnod Rhufeinig, gall darganfyddiadau prin yn dyddio o ddiwedd y ganrif gyntaf a'r ail ganrif OC, yn debyg i'r gaer yn Nyffryn Llandeilo Ferwallt, a'r awgrym o graidd mewnol diffiniedig y rhagfur mewnol gynrychioli dau gyfnod anheddu. Tybiwyd rywle arall y gallai'r math hwn o safleoedd fod wedi parhau i gael eu meddiannu hyd at ddechrau'r cyfnod canoloesol neu y gallent fod wedi cael eu hailfeddiannu o leiaf.
Mae tystiolaeth uniongyrchol o weithgareddau canoloesol yn yr ardal, ar wahân i ddarganfyddiadau, yn gyfyngedig i waliau sych (00797w a 02281w), a thwmpath yn Graves End, Pwlldu (02282w), er y byddai pennau'r clogwyni wedi cael eu defnyddio fel tir pori cyffredin yn ystod y cyfnod hwn yn ôl pob tebyg. Efallai i'r ogofâu eu hunain gael eu defnyddio gan fasnachwyr neu smyglwyr ond ni phrofwyd hyn.
Efallai o'r cyfnod canoloesol ond yn sicr yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol defnyddid wynebau'r clogwyni at ddibenion cloddio; cyfeirir at hyn yn arolwg Cromwell dyddiedig 1650. Mae nifer fawr o odynau calch a chwareli yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi'u gwasgaru ar hyd yr arfordir dyma'r cyfnod pan fu cynnydd yn y defnydd a wneid o galch fel gwrtaith amaethyddol; o ganlyniad cynyddodd gweithgarwch cloddio a llosgi calch ar lwyfandir calchfaen Bro Gwyr.
Mae cysylltiadau cryf â'r môr ac roedd smyglo yn gyffredin yn ystod y ddeunawfed ganrif ac ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; o'r ddau dy rhestredig ym Mhwlldu, dywedir bod Tafarn y Beaufort, sy'n dyddio o'r ddeunawfed ganrif, yn ymwneud â smyglwyr ac mae'r ardal yn gysylltiedig â gang a arweinid gan y drwg-enwog William Arthur o Fferm Great Highway, a'i ddirprwy John Griffiths o Little Highway yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif. Nodwyd dros naw llongddrylliad sy'n dyddio yn bennaf o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif er bod llawer rhagor yn sicr o fod wedi cael eu dryllio dros y blynyddoedd. Y llongddrylliad cynharaf a nodwyd hyd yma yw'r Ceasar ym 1760, un o longau tendio'r Morlys a oedd yn hwylio gyda chargo o ddynion wedi'u presio ar ei ffordd o Fryste i Plymouth, a ddrylliwyd oddi ar Pwlldu Head, dywedir i rwng 68 a 97 o bobl golli eu bywydau; dywedir bod cyrff y meirw wedi'u claddu yn Graves End.
Yn debyg i'r rhan fwyaf o arfordir Bro Gwyr ceir nodweddion yn ymwneud â'r Ail Ryfel Byd yn yr ardal hon; mae'r rhain yn cynnwys Gorsaf Wylio Pwlldu (05396), a nodir gan un bolyn telegraff.