The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

053 Twyni Tywod Oxwich a Nicholaston


Ffoto o Dwyni Tywod Oxwich a Nicholaston

HLCA053 Twyni Tywod Oxwich a Nicholaston

Tirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: archeoleg gladdedig; ffiniau caeau canoloesol; a nodweddion rhynglanwol, ôl-ganoloesol yn bennaf. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Tywod Oxwich a Nicholaston yn dirwedd wedi'i gorchuddio â thywod y mae ei photensial archeolegol yn anhysbys. Diffinnir yr ardal gan y marc penllanw cymedrig a'r systemau twyni tywod mewndirol yn Oxwich a Nicholaston. Mae'r ardal yn ffurfio SODdGA Bae Oxwich, a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich. Mae systemau twyni tywod yr ardal at ei gilydd yn sefydlog, trwy lystyfiant, er eu bod yn parhau i fod yn ansefydlog ar hyd y cyrion. Mae'r ardal yn ffinio â morfa Oxwich Marsh (HLCA 054) a tharren goediog Coedwig Nicholaston (HLCA055) i'r gogledd. Mae ei phwysigrwydd penodol fel tirwedd hanesyddol yn deillio nid o wyneb presennol y ddaear, ond o'r dystiolaeth am ddefnydd tir blaenorol sydd wedi'i chadw o dan y tywodydd.

Fodd bynnag, nid oes fawr ddim gwybodaeth ar gael am yr olion yn yr ardal ar wahân i ddarn o wal sych sydd mewn cyflwr gwael (00795w), sy'n ymestyn o'r gogledd-orllewin i'r de-ddwyrain, islaw'r clogwyni serth yn Nhwyni Tywod Nicholaston, y credir ei bod yn dyddio o'r cyfnod canoloesol. Efallai fod darganfyddiadau yn y parth rhynglanwol i'r dwyrain sy'n dyddio o'r cyfnod Rhufeinig a'r cyfnod Canoloesol yn arwydd o weithgarwch anheddu neu o leiaf weithgarwch yn yr ardal. Arferai'r ardal, sydd bellach yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, fod yn rhan o ddaliadau helaeth Ystâd Pen-rhys a berthynai i'r teulu Mansel-Talbot ac roedd yn dir comin a ddefnyddid at ddibenion pori anifeiliaid.

Fel system twyni tywod arfordirol, mae'n debyg y byddai wedi cael ei defnyddio fel cwningar yn ystod y cyfnod canoloesol, er na wyddom am unrhyw olion ffisegol sy'n gysylltiedig â'r defnydd hwn.

Ym 1878 cofnodir i olion dynol gael eu darganfod mewn cysylltiad ag allwedd watsh yn dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg a oedd yn dwyn arfbais y teulu Davenport, gerllaw'r ty ymdrochi yn Oxwich (00290w).

Dengys argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO sy'n dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg fod yr ardal yn cynnwys ty cwch wrth y marc penllanw yn Oxwich, tra dangosir morglawdd, a oedd yn gysylltiedig o bosibl â'r gwelliannau a wnaed i Forfa Oxwich yn y ddeunawfed ganrif (gweler HLCA054), wedi'i leoli ar Nicholaston Pill, ym mhen dwyreiniol System Twyni Tywod Oxwich. Lleolir iard lo a oedd yn gysylltiedig â masnach arfordirol, ac a oedd yn gysylltiedig o bosibl â gweithgareddau'r diwydiant calch yn ardaloedd cyfagos Oxwich a Phen-rhys, ar y Twyni Tywod gerllaw Oxwich.