Gwyr
056 Nicholaston
HLCA056 Nicholaston
Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad clystyrog; a ffermydd gwasgaredig; eglwys ar wahân yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol; caelun amrywiol; a nodweddion echdynnol amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Nicholaston yn cynnwys ardal anheddu a chaelun cysylltiedig sy'n cwmpasu fwy neu lai ardal cyn-blwyf Nicholaston, ac eithrio'r coetir i'r de a'r tir comin i'r gogledd (Cefn Bryn) ac i'r de (Twyni Tywod Nicholaston).
Cyfeirir at Nicholaston fel hen ffi Marchog mewn siarter ddyddiedig 1306, er na wyddom fawr ddim arall amdano (Nicholl 1936,168-169). Ymddengys mai Nicholaston oedd cnewyllyn cynnar daliadau'r teulu Mansel, a ddaeth i feddiant Ystâdau Pen-rhys ac Oxwich yn ddiweddarach, trwy briodas (Nicholl 1936,186).
Nid ymddengys eglwys St Nicholas yn Nicholaston (00293w; 158; LB 23538 II*) mewn cofnodion dogfennol tan 1558 (Clarke 1901, 2038). Mae wedi'i lleoli ar ei phen ei hun mewn mynwent bedeironglog fach (05244w), ac ymddengys na fu mewn pentref cnewyllol erioed. Credir i'r strwythur gwreiddiol gael ei adeiladu yn y drydedd ganrif ar ddeg. Fe'i disodlwyd gan y strwythur presennol, a adeiladwyd ym 1892-94 yn unol â chynllun y pensaer George Halliday yn arddull yr Adfywiad Gothig. Mae'n cynnwys cerfwaith a chrefftwaith cywrain a nodedig o garreg a deunyddiau eraill. O'r adeilad cynharach y cerrig a bwa'r gangell ac un trawst to yn y gangell yw'r prif eitemau a gadwyd yng Nghynllun Halliday, a gomisiynwyd gan Miss Olive Talbot o Ben-rhys (Newman1995, 476; Orrin1979, 50-53).
Ymddengys fod patrwm anheddu/dosbarthiad aneddiadau'r ardal yn ei le erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, fel y nodir gan y cynllun ystâd dyddiedig 1782, ac ni nodir fawr ddim newid ar y map degwm, nac yn wir arolwg argraffiad 1af map yr AO dyddiedig 1879, ar wahân i rai ychwanegiadau bach at yr aneddiadau a fodolai eisoes. Y newid mawr yn yr ardal rhwng map 1782 a map degwm 1844 yw'r gwaith a wnaed i gyfuno'r caeau amaethyddol i'r de ac i'r gorllewin o Neuadd Nicholaston. Mae astudiaeth Kissock o'r ardal yn nodi patrwm cyffredinol o gaeau mawr i'r gorllewin a daliadau rhanedig i'r dwyrain adeg arolwg y map degwm ac mae'n cytuno i'r patrwm ddeillio o gyfnod o welliannau amaethyddol tua 1800, a oedd yn gysylltiedig yn ôl pob tebyg â'r teulu Talbot a gymerodd y tir o dan ei reolaeth uniongyrchol; dengys y cynllun ystâd fod y patrwm o ddaliadau a ffiniau a ddangosir ar y map degwm wedi'i sefydlu, o leiaf yn rhannol, yn ddiweddar. Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ceid cyfres o gaeau bach, a oedd yn hir ac yn gul eu siâp ar y cyfan, o amgylch pentrefannau Nicholaston a Perriswood, yn wir dengys arolwg dyddiedig 1632 fod y dirwedd o randiroedd wedi goroesi'n gyfan tan ganol yr 17eg ganrif. Yn ei adluniad o dirwedd Nicholaston yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, damcaniaethodd Kissock fod caeau agored i'w cael yn yr ardal sy'n ymestyn i'r dwyrain o'r eglwys â'i thir Llan tua'r prif glwstwr o aneddiadau (Kissock 1986, 41-49).
Credir i ganolfan faenoraidd Neuadd Nicholaston (00289w; 19463), a'i gerddi cysylltiedig (265708), a leolir o fewn patrwm mwy rheolaidd o gaeau bach i ganolig eu maint, gael ei adeiladu ar ddiwedd y cyfnod canoloesol neu yn y cyfnod ôl-ganoloesol ar yr hyn a fuasai'n gyn-dir pori agored yn ôl adluniad model Kissock o Nicholaston yn y bedwaredd ganrif ar ddeg (Kissock 1986, 41-49). Cyfeirir at y Neuadd mewn cofnod o eiddo Hugh ap Meredith sy'n dyddio o'r unfed ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg, er bod Rice Merrick, ac yntau'n ysgrifennu ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, yn nodi ei fod wedi'i drosglwyddo i Syr Edward Mansel erbyn hynny (James 1983, 114-115, 118).
Dengys argraffiad cyntaf map yr AO Neuadd Nicholaston (00289w; 19463), a'i erddi (265708), sy'n dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol, wedi'i leoli i'r gorllewin o'r ardal, ymhell i ffwrdd o'r crynhoad o aneddiadau, ond yn hynod o agos i gaeau cyfunedig mawr yr ardal. Mae'r dirwedd o gaeau llai o faint a drylliau ffosiledig wedi goroesi hyd heddiw tua'r dwyrain gerllaw'r ffin â Phlwyf Penmaen, ac i'r gogledd o'r ardal sy'n ffinio â thir comin Cefn Bryn.
Dangosir dwy odyn galch ar argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO dyddiedig 1879 uwchlaw Clogwyni Nicholaston: y naill i'r gorllewin (02494w), y llall â chwarel gerllaw (02218w) i'r dwyrain. Mae argraffiadau diweddarach yn awgrymu i'r chwarel, o leiaf, barhau i gael ei defnyddio tan ddechrau'r ugeinfed ganrif.