The Glamorgan-Gwent Archaeological Trust Ltd.

Disgrifio Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Ardaloedd Cymeriad

Gwyr

058 Twyni Tywod Penmaen a Pennard


Ffoto o Dwyni Tywod Penmaen a Pennard

HLCA058 Twyni Tywod Penmaen a Pennard

Tirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: archeoleg greiriol/gladdedig amlgyfnod; nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol; aneddiadau canoloesol creiriol; a nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Nôl i'r map


Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Tywod Penmaen a Phennard yn cynnwys y dirwedd sydd wedi'i gorchuddio â thywod yn nhwyni tywod Penmaen a Phennard. Ni wyddom beth yn union yw maint yr anheddiad a orchuddiwyd â thywod ac felly gall ymestyn y tu hwnt i ffiniau'r ardal gymeriad hon.

Mae'n amlwg i'r ardal hon chwarae rôl bwysig mewn gweithgareddau dynol mewn nifer o gyfnodau yn ymestyn o'r cyfnod Mesolithig o leiaf hyd at y cyfnod Canoloesol. Darganfuwyd amrywiaeth o arfau fflint yn y tywod (00276w, 00277w, 00923w, 03161w, 00291w, 02099w) gan gynnwys creiddiau cerrig crynion holltedig, naddion, ysgrafelli a blaenau saethau, a ddyddiwyd i ddiwedd y cyfnod Mesolithig, dechrau'r cyfnod Neolithig a diwedd y cyfnod Neolithig neu ddechrau'r Oes Efydd. Mae'n debyg y defnyddid ogofâu gerllaw megis twll Leathers fel cysgodfeydd bryd hynny.

Lleolir beddrod siambrog megalithig (SAM GM123; 00250w; 94571) sy'n perthyn i grwp Hafren-Cotswold ar Dwyni Tywod Penmaen. Mae'r heneb hon sy'n dyddio o'r cyfnod Neolithig ar ffurf croes ac mae'n cynnwys cyntedd mynediad dwyreiniol, prif siambr â chapfaen sydd wedi lled-ddymchwel, siambr ochr ddeheuol sydd mewn cyflwr da a siambr ogleddol adfeiliedig. Datgelodd gwaith cloddio a wnaed rhwng 1861 a 1893 esgyrn anifeiliaid, llawer iawn o gregyn, dolen o asgwrn, crochenwaith ac olion dynol wedi'u datgymalu. Cofnodwyd tair carnedd (00275w) sy'n dyddio o bosibl o'r Oes Efydd ar Dwyni Tywod Pennard, fodd bynnag oherwydd tywod symudol a chwythir gan y gwynt ni lwyddwyd i leoli'r rhain yn ddiweddar ac nid oes unrhyw wybodaeth bellach ar gael.

Roedd twyni tywod Penmaen yn rhan o ffi marchog Penmaen, a pherthynai twyni tywod Pennard i faenor ddemên Pennard o'r drydedd ganrif ar ddeg o leiaf. Mae'n debyg mai'r ardal hon oedd lleoliad yr aneddiadau cynnar a oedd yn gysylltiedig â'r ffi a'r faenor. O ran ffi Penmaen, cofnodir ei lleoliad gwreiddiol fel 'Treflan Penmaen' rhwng ardal bresennol Parc le Breos a Parkmill mewn dogfen drosglwyddo yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg (Toft 1989, 34-37). Credir i'r canolbwynt gael ei symud yn ddiweddarach i leoliad arfordirol, fel y tystia olion castell (SAM GM129; 00300w; 305605) ac eglwys (SAM GM130; 00287w; 305604). Fodd bynnag, dyddiodd gwaith cloddio a wnaed yn y 1960au gan Alcock yr amddiffynfa gylch i ddiwedd y ddeuddegfed ganrif, sy'n gynharach na'r cyfeiriad at dreflan Penmaen. Felly erys rhywfaint o ddryswch ynghylch sut yn union y datblygodd Penmaen ar y twyni tywod. Mae gweithred yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar ddeg yn cyfeirio at ddwy dreflan o fewn ffi Penmaen; sef Worlang a Phenmaen (Toft 1989, 34-37), felly gellid dweud y cyfeiriai Penmaen at aneddiadau yn Church Hill, Parc le Breos tra cyfeiriai Worlang at aneddiadau ar yr arfordir. Dadleuodd Seyler (1920) mai Stedworlango oedd enw llawn yr anheddiad is hwn a nododd leiniau o dir a berthynai i'r anheddiad hwn i'r gogledd o'r twyni tywod. Felly erbyn hyn nid oes fawr ddim tystiolaeth uniongyrchol o anheddiad canoloesol anghyfannedd (00883w; 15435) ym Mhenmaen. Tynnodd arolwg a wnaed ym 2002 gan Phillip Poucher ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sylw at y ffaith bod 'siting of medieval castles and churches in relative isolation is common in this area', ond gallai nodweddion yn y twyni tywod gynrychioli olion adeiladau canoloesol eraill. Cloddiodd y Parchedig Edward Knight James yr eglwys yn nhwyni tywod Penmaen ym 1861, darganfuwyd thuser yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg, fodd bynnag, mae union ddyddiad yr eglwys yn anhysbys.

Awgrymwyd bod anheddiad anghyfannedd ym Mhennard hefyd (00884w; 15437). Adeiladwyd castell Pennard (SAM GM044; LB 11539 II*; 00285w; 94530) fel castell pridd a phren yn gyntaf ar ddechrau'r ddeuddegfed ganrif. Fe'i hailadeiladwyd o gerrig ar ddiwedd y drydedd ar ddeg ac olion y castell hwn sydd i'w gweld heddiw. Datgelodd gwaith cloddio a wnaed yn y 1960au gan Alcock fod yr olion yn eithaf helaeth ac mae'n debyg mai'r safle hwn oedd canolbwynt maenor gynnar Pennard. Lleolir olion eglwys y Santes Fair (SAM GM044; 00288w; 305606) a adeiladwyd yn y drydedd ganrif ar ddeg gerllaw ac maent yn cynnwys corff yr eglwys a changell. Mae tystiolaeth o anheddiad anghyfannedd ym Mhennard yn fwy cadarn nag ym Mhenmaen. Dehonglwyd olion adeilad a gloddiwyd ym Mhennard fel crofft gwerinwr yn y 1980au gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent a cheir hefyd tystiolaeth ddogfennol sy'n cyfeirio at adeiladau eraill yno yn ogystal â'r castell a'r eglwys (Latimer-Davies 1928).

Erbyn 1316 roedd y twyni tywod eisoes yn bodoli ym Mhennard am fod William de Breos yn rhoi ei 'dir diffaith tywodlyd' i'w heliwr William (Lees a Sell 1983). Yn raddol gorchuddiwyd yr ardal â mwy o mwy o dywod nes iddi gael ei gadael yn y diwedd rywbryd yn yr unfed ganrif ar bymtheg; digwyddodd hynny ym Mhenmaen hefyd. Yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol defnyddid yr ardal fel cwningar â thwmpath clustog, fodd bynnag, mae hyn yn dyddio o'r cyfnod canoloesol pan adeiladwyd twmpath clustog (00292w; 24490; 303000), y credir ei fod yn perthyn i'r un cyfnod â'r castell, yn yr ardal; mae tystiolaeth ddogfennol o gwningar ar draws y bae ym Mhennard tua 1320. Nodwyd bod y twyni tywod yn dir comin ac felly mae'n debyg y câi ei ddefnyddio ar gyfer pori anifeiliaid o'r cyfnod ôl-ganoloesol. Yr unig weithgaredd arall bryd hynny oedd cloddio'r clogwyni ar gyrion yr ardal a chynhyrchu calch; dangosir chwareli ac odynau calch ar argraffiad cyntaf map yr AO.

Parhaodd tywod i orchuddio'r ardal ac nid yw'r dirwedd a welwn heddiw yn annhebyg i dirwedd yr ardal yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wrth gwrs mae'r tywod yn dal i symud ac erydu gan ddatgelu tystiolaeth archeolegol mewn un lleoliad tra'n ei gorchuddio mewn lleoliadau eraill. Mae'r ardal yn dal i fod wedi'i dynodi fel tir comin er na wyddys a yw pobl yn dal i'w defnyddio ar gyfer pori anifeiliaid. Mae rhan o dwyni tywod Pennard yn gartref i Glwb Golff Pennard, yn ôl pob sôn buwyd yn chwarae golff yn yr ardal ers 1896 o leiaf (http://www.pennardgolfclub.com/).