Dyffryn Gwy Isaf
020 Caelun Hadnock
HLCA 020 Caelun Hadnock
Tirwedd amaethyddol: patrwm afreolaidd amrywiol o gaeau cromliniol yng nghanol yr ardal (caeau agored canoloesol wedi'u ffosileiddio?), rhywfaint o gyfuno o'r 20fed ganrif yn y de; ffiniau traddodiadol; anheddiad/caeau Canoloesol/Ôl-ganoloesol; patrwm anheddu: ffermydd a bythynnod gwasgaredig (gan gynnwys ty bonedd bach Hadnock Hall); archeoleg gladdedig a chreiriol; Anheddiad Rhufeinig (fila), canfyddiadau ac archeoleg ddiwydiannol; nodweddion cysylltiadau (gan gynnwys ceuffordd/Ffordd Rufeinig); rheilffordd gyhoeddus). Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Caelun Hadnock yn dirwedd amaethyddol a leolir ar lethrau dyffryn llednant bach o'r Gwy ym mhen gogleddol Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Gwy. Amgylchynir yr ardal gan Afon Gwy i'r gogledd-orllewin a'r coetir hynafol ar bob ochr arall. Lleolir yr ardal ym mhlwyf Llandidiwg, ym maenor Hadnock.
Cynrychiolir meddiannaeth o'r ardal yn ystod y cyfnod Rhufeinig gan amrywiaeth o ganfyddiadau gwasgaredig, a chymhlyg mawr o adeiladau o'r ail/trydedd ganrif, sy'n darparu tystiolaeth nid yn unig o anheddiad, ond hefyd o weithgarwch diwydiannol ar ffurf gwaith metel (Mein 1977). Ceir anheddiad yn yr ardal i mewn i'r cyfnod canoloesol, gyda maenor yn yr ardal yn cael ei dangos ar fap o'r bedwaredd ganrif ar ddeg (Rees 1932). Dengys y patrwm caeau dystiolaeth o system gaeau agored ganoloesol wedi'i ffosileiddio, a welir ar fap degwm 1845 a mapiau modern (AO 2006 1:10000 data Landline).
Mae'r ardal hon â nodweddion wedi'i lleoli yn Upper Hadnock, ac roedd ymhlith tir a roddwyd gan Withenock o Fynwy i Briordy Mynwy. Cafodd Hadnock ei gymryd yn ôl wedyn gan ei fab Baderon yn gyfnewid am dair gefail (Kissack 1974). Yna fe'i rhoddwyd gan John o Fynwy i'r ysbyty a sefydlwyd ganddo yn y dref. Ar ôl i'r mynachdai gael eu Diddymu, daeth yr ardal yn sedd i deulu Huntley, a fu'n lesddeiliaid o dan yr ysbyty fwy na thebyg, ac yna fe'i trosglwyddwyd drwy briodas i'r Herberts. Yna daeth Dugiaid Caerhirfryn yn arglwyddi'r faenor, a drosglwyddwyd i'r stiward ac felly i deulu Hall. Yna daeth i law Arglwydd Gage, a werthodd y rhan hon o Hadnock i'r Llyngesydd Thomas Griffin. Pan fu farw ei ail fab, a etifeddodd y rhan hon o'r ystad, gwerthwyd y tir i Richard Blakemore, AS Wells, (Bradney 1904) a restrir fel perchennog y tir yn yr Atodlen sy'n cyd-fynd â map y degwm.
Prin fu'r newid i batrwm y caeau yng nghanol yr ardal, lle mae clostiroedd cromliniol o fewn dyffryn isel yn nodweddiadol o amaethu canoloesol o bosibl. Fodd bynnag, yn y de gwelir cryn gyfuno ar fapiau modern yr AO (AO 2006, 1:10000 data Landline) tra bod y caeau yn rhan ogleddol yr ardal wedi'u newid gryn dipyn erbyn dyddiad Argraffiad Cyntaf map yr AO (1882) oherwydd y gwaith o adeiladu'r rheilffordd yn y 1860au. Newidiodd y rheilffordd hon (rhan Pont-y-pwl, Mynwy a Rhosan, gweler HLCA 019) y dirwedd yn rhan ogleddol yr ardal yn fawr, gan ddiystyru ffiniau a oedd yn bodoli eisoes a rhedeg ychydig i'r de ac yn gyfochrog â ffordd fynediad Little Hadnock. Roedd safle Hadnock Halt, arhosfan amodol bach, hefyd wedi'i leoli yn yr ardal â nodweddion, er nad oes unrhyw ran o'r safle yn bodoli bellach. Caewyd y rheilffordd yn 1959, ac fe'i dymchwelwyd wedi hynny. Erbyn hyn mae wedi'i diogelu'n rhannol fel hawl tramwy cyhoeddus (www.ross-on-wye.com).
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Caelun Hadnock gan ei dirwedd amaethyddol, sy'n cynnwys caelun afreolaidd amrywiol, a nodweddir gan glostiroedd cromliniol ar waelod y dyffryn, sy'n nodweddiadol o gaeau agored canoloesol wedi'u ffosileiddio. Nid yw'r patrwm caeau hwn wedi newid fawr ddim rhwng map degwm 1845 ac Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881/1882 heblaw am y newidiadau yn y gogledd yn sgîl adeiladu Rheilffordd Great Western. Cyfunwyd caeau gryn dipyn i'r de ar fapiau modern (2006), er nad yw'r ardal wedi newid rhyw lawer yn y gogledd. Ffiniau caeau nodweddiadol yr ardal yw cloddiau daear, gwrychoedd, coed gwrych nodedig a ffensys post a gwifren, gyda rhai waliau cerrig sych.
Mae archeoleg greiriol yr ardal yn bwysig, a nodweddir gan anheddiad a chaeau Rhufeinig, canoloesol ac ôl-ganoloesol. Pan gloddiwyd y fila Rhufeinig yn Hadnock (PRN 02194g, NPRN 400333, SAM MM195) yn 1976 daethpwyd o hyd i nifer fawr o adeiladau yn dyddio'n ôl i'r ail a'r drydedd ganrif. Roedd y safle hwn yn cynnwys adeilad â system hypocawst, a phlastr wedi'i baentio ar waliau mewnol (Mein, 1977, 36). Awgrymir hefyd fod Rhufeiniaid wedi meddiannu'r ardal gan y darnau arian a ddarganfuwyd yn yr ardal (PRN 02272g).
Awgryma'r system gaeau agored ganoloesol wedi'i ffosileiddio anheddiad o'r dyddiad hwn yn yr ardal, tra bod maenor o bosibl yma yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg (Rees 1932, taflen SE). Mae gweithgarwch ôl-ganoloesol pwysig yn yr ardal hefyd, fel y dangosir gan Lys Hadnock. Mae'r ty hwn (PRN 02271g, NPRN 402652, LB 85205) yn dyddio'n ôl i ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, gydag addasiadau ac ychwanegiadau yn dyddio'n ôl i tua 1700, yn ogystal â'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Fe'i hadeiladwyd o garreg wedi'i rendro, gyda tho llechi, ac mae sawl adeilad cysylltiedig hefyd wedi'i ddiogelu gan statws Adeilad Rhestredig Gradd II. Ymhlith y rhain mae ysgubor (LB 85185), sy'n dyddio'n ôl i 1700 fwy na thebyg, ac adeilad fferm cyfunol (LB 85189), sy'n dyddio'n ôl i'r un cyfnod fwy na thebyg â'r ty gwreiddiol, gydag addasiadau'n gyfoes â'r rhai i'r prif dy. Hefyd, caiff pileri'r clwydi a'r clwydi eu hunain eu diogelu ar wahân gan statws gradd II (LB 85198). Gellir nodweddu'r anheddiad yn yr ardal fel gwasgariad o ffermdai a bythynnod blith draphlith, y mae'r rhan fwyaf ohonynt yn bodoli o ddyddiad map degwm 1843 o leiaf, ac wedi'u hadeiladu'n gyffredinol o gerrig patrymog wedi'u paentio â thoeon llechi.
Cynrychiolir nodweddion diwydiannol yr ardal gan olion o'r cyfnod Rhufeinig; cynhyrchodd cymhlyg fila Hadnock (PRN 02194g, NPRN 400333, SAM MM195) dystiolaeth o waith metel. Datgelodd y gwaith cloddio yn Hadnock ffwrnais bowlen i drawsnewid efydd, ynghyd â chanfyddiadau eraill, gan gynnwys ffwrnais haearn bwrw, sy'n dynodi gweithgarwch toddi haearn (Mein 1977). Ceir gweithgarwch diwydiannol pellach o'r cyfnod Rhufeinig yn yr ardal ar ddau safle arall; ffwrnais haearn (PRN 02962g) a ffwrnais haearn bwrw (PRN 02963g). Awgryma canfyddiadau eraill yn yr HER rhanbarthol (PRN’s 02272g, 02964g, 03866g, 03867g, 03868g, 03869g, 03871g, 03845g, 03846g) bosibilrwydd mawr bod olion claddedig eraill wedi goroesi.
Cynrychiolir cysylltiadau gan lwybr troellog ffordd yr A4136, sy'n rhedeg drwy ran ddeheuol yr ardal. Yn ogystal, rhydd lôn fach a llwybr troed fynediad i Little Hadnock. Roedd cangen Rhosyn a Mynwy o Reilffordd Great Western, a adeiladwyd yn y 1860au ac a agorwyd yn 1873, yn rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin drwy'r ardal. Er iddi gau yn 1965 ac er ei bod wedi'i dymchwel erbyn hyn, (www.ross-on-wye.com) mae'r rheilffordd yn bodoli o hyd, a ddiffinnir gan drac a ffiniau caeau bob ochr. Ceir Ceuffordd (PRN 07779g), sy'n diffinio'r ffin i'r gorllewin o'r ardal wrth y ffin â choetir Lady Grove. Fe'i dangosir ar Argraffiad Cyntaf ac Ail Argraffiad mapiau'r AO (1881, 1901) fel Ffordd Rufeinig, ac yn lleol fe'i gelwir yn Royal Road. Credir mai hon yw un o'r prif allanfeydd o Fforest Frenhinol y Ddena. Er nad yw ei darddiad yn hysbys, mae ei ddyfnder, hyd at dri neu bedwar metr mewn mannau, yn awgrymu cryn oedran.