Dyffryn Gwy Isaf
013 Tyndyrn
HLCA 013 Tyndyrn
Tirwedd fynachaidd ac anheddiad yn gysylltiedig â'r Mudiad Pictiwrésg: archeoleg greiriol: mynachaidd (Abaty Sistersaidd Tyndyrn a nodweddion mynachaidd cysylltiedig pwysig); cysylltiadau hanesyddol ac addurniadol/hamdden a thwristiaeth (Mudiad Pictiwrésg); archeoleg ddiwydiannol; anheddiad/caeau o'r cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol: clwstwr organig ac yn ddiweddarach patrwm anheddu datblygiad hirgul; arddull gynhenid nodedig (ailddefnyddio strwythurau cwfeiniol blaenorol); deunyddiau adeiladu traddodiadol a ffiniau nodedig; cysylltiadau; a lleoliad coediog. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Caiff ardal tirwedd hanesyddol Tyndyrn ei dominyddu gan olion Eglwys Abaty Sistersaidd y Santes Fair (SAM MM 102; LB 24037 Gradd I), a sefydlwyd ar 9fed Mai 1131 gan Walter fitz Richard o Clare, Arglwydd Cas-gwent. Fel y ty Sistersaidd cyntaf yng Nghymru, fe'i staffiwyd o Abbey de l'Aumone ger Chartres, un o ganghennau Cîteaux, a datblygodd yn gyflym drwy roddion ystadau yn yr ardal, ac erbyn 1291 roedd yn ffermio mwy na 3000 erw (1215 hectar) a hwn oedd y pumed ty cyfoethocaf yng Nghymru. Yn 1302, cafodd dir cyfoethog yn Norfolk gan Roger Bigod, Iarll Norfolk, ac arweiniodd hyn at gyrraedd anterth ei gyfoeth gan alluogi'r Abaty i gwblhau'r gwaith o adeiladu eglwys newydd, a ddechreuwyd oddeutu 1269. Gwaethygodd pethau yn sgîl y Pla Du yn 1348-9, a'r anghydfod yng Nghymru, a gyrhaeddodd ei anterth gyda gwrthryfel Owain Glyndwr ar ddechrau'r bymthegfed ganrif pan wnaed llawer o ddifrod. Wrth i'r niferoedd leihau, ni allai'r Abaty redeg ei ystadau cystal yn y ffordd gywir, ac fe'i diddymwyd fel mân dy yn 1536, gan gau ar 8fed Medi, ac yna fe'i trosglwyddwyd gan y Goron i Henry Somerset, Iarll Caerwrangon, Arglwydd Cas-gwent a Rhaglan.
Parhaodd yr Abaty a'i ystadau i fod yn eiddo i Iarllau Caerwrangon, a ddaeth yn Ddugiaid Beaufort yn ddiweddarach, tan 1901, pan brynwyd yr Abaty gan y Goron i'w gadw am £15,000. Ni fu to ar yr eglwys ryw lawer ers yr unfed ganrif ar bymtheg ac fe'i gorchuddiwyd gan gryn dipyn o iorwg, er ei bod mewn cyflwr hynod o dda o hyd ac yn debyg iawn i'r hyn a gofnodwyd gan y brodyr Buck yn 1732, sef y disgrifiad hysbys cynharaf o'r Abaty. Ers yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd gweddill yr adeiladau cwfeiniol wedi bod yn destun amryw brosesau, eu haddasu'n dai neu eu defnyddio at ddiben diwydiannol, neu eu chwarelu ar gyfer cerrig adeiladu, ond i ryw raddau diogelwyd yr eglwys gan deulu dylanwadol Beaufort; gorchmynnodd Siarl, y pedwerydd Dug, waith atgyweirio tua 1750 a daeth yr Abaty'n atyniad twristiaid pwysig. Roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i'r diddordeb mewn golygfeydd 'aruchel' a grëwyd gan y Parch William Gilpin yn dilyn ei ymweliad yn 1770, a byddai cau'r Cyfandir i deithwyr o Brydain yn ystod y Rhyfeloedd Napoleanaidd ond wedi ennyn y diddordeb hwn.
Mae llyfr poblogaidd William Gilpin Observations on the River Wye (1782) yn trafod yr Abaty o ran ei rinweddau pictiwrésg; dywed fod yr Abaty yn ymddangos yn llawer rhy reolaidd o bellter, ond ei fod yn well yn agos. Roedd y cyfuniad o bensaernïaeth eglwysig adfeiliedig wedi'i gorchuddio ag iorwg yn lleoliad agored a dramatig dyffryn yr afon yn Nhyndyrn a thirwedd gyferbyniol nodweddion diwydiannol, fel y melinau a'r gweithfeydd haearn, yn nyffryn cul Angidy gyda'i awyrgylch rhamantus gwyllt o fryniau, coedwigoedd a dwr gwyllt, yn atyniad i deithwyr a thwristiaid cynnar â diddordeb yn y mudiad pictiwrésg a rhamantus, a chyfrannodd at boblogrwydd yr ardal o ran olaf y ddeunawfed ganrif. Yn y ffordd hon roedd yr ardal yn ysbrydoliaeth i artistiaid gan gynnwys J M W Turner ac efallai yn fwyaf enwog y bardd William Wordsworth, a ymwelodd â Dyffryn Gwy gyntaf yn 1793 fel dyn ifanc 23 oed, a dychwelodd yn ystod haf 1798, pan ysgrifennodd 'Lines Composed a Few Miles above Tintern Abbey'. Mae William Coxe yn disgrifio'r Abaty yn 1800 yn nhermau atyniad prysur i dwristiaid, gyda thwristiaid yn ymweld ag ef min nos gyda golau ffagl yn llosgi. Cyfeiria Robinson at gyhoeddi yn 1828 yr 11eg argraffiad o lyfr Charles Heath Descriptive Account of Tintern Abbey, Monmouthshire (Trefynwy 1793), fel arwydd o ba mor boblogaidd oedd ymweliad â Thyndyrn erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (Robinson 1986).
Agorwyd tyrpeg Dyffryn Gwy, sy'n rhedeg drwy gyffiniau'r Abaty, yn 1829. Cyn y dyddiad hwn, yr unig fodd i gyrraedd Tyndyrn ar y ffordd oedd o gyfeiriad Devauden ac roedd yr holl draffig bron â bod ar yr afon. Cyrhaeddodd y gwelliannau i gysylltiadau trafnidiaeth yr ardal eu hanterth pan agorwyd Rheilffordd Dyffryn Gwy yn 1876, gan osod Abaty Tyndyrn ar y map fel prif gyrchfan twristiaid rhyngwladol.
Ar ôl i'r Goron brynu ardal Tyndyrn yn 1901, cynhaliwyd rhaglen helaeth o waith adfer a chofnodi yn yr Abaty o dan F W Waller a Syr Harold Brakspear a barhaodd tan 1928, gan gynnwys cael gwared ar yr holl iorwg ac ailadeiladu arcêd corff y de. Yn ystod yr un cyfnod, gwelodd anheddiad yr ardal a Dyffryn Angidy a Tintern Parva gryn dipyn o waith adnewyddu ac ehangu drwy adeiladu bythynnod ystad a chyfleusterau pentref eraill, gan gynnwys gorsaf yr heddlu newydd a swyddfa bost (Robinson 1995; Russell et al 1990; LB24037).
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Tyndyrn yn bennaf gan ei olion eglwysig, yr ychwanegir at ei gymeriad gan ei leoliad naturiol ac sy'n creu canolbwynt tawel a phictiwrésg yn Nyffryn Gwy. Roedd yr abaty Sistersaidd yn Nhyndyrn yn ganolbwynt i dir a gweithgarwch eglwysig yn Nyffryn Gwy a'r ardal gyfagos am y rhan fwyaf o'r cyfnod canoloesol. Mae arwyddocâd Tyndyrn a'i Abaty wedi newid dros amser, o'i bwysigrwydd eglwysig fel canolbwynt crefyddol a chanolfan i bererinion yn y cyfnod canoloesol i gyrchfan i dwristiaid yn ystod y ddeunawfed ganrif fel rhan o 'Daith Dyffryn Gwy', gyda'i boblogrwydd yn cael ei adnewyddu yn sgîl y diddordeb yn y mudiad pictiwrésg. Mae cysylltiadau hanesyddol, yn benodol yn ymwneud â hamdden a thwristiaeth, yn deillio o'r mudiad hwn yn y ddeunawfed ganrif wedi cyfrannu nodwedd gref at yr ardal, ac maent wedi bod yn allweddol o ran cadwraeth nodweddion hanesyddol yr ardal. Hyd nes i'r ardal gael ei 'darganfod' gan dwristiaid yn y ddeunawfed ganrif, prin oedd yr abaty yn Nhyndyrn a'r amgylchedd cyfagos yn hysbys.
Mae'r ardal yn cynnwys cryn nifer o adeiladau cynnar. Yn ogystal mae themâu amrywiol yn glir. Anheddiad mynachaidd canoloesol: Abaty Tyndyrn ei hun, a nodweddion cyfoes eraill, fel y porth dwr, y felin, ty a chapel Santes Ann (rhan o borthdy'r abaty yn wreiddiol). Mae olion adfeiliedig Abaty Sistersaidd y Santes Fair yn Nhyndyrn (PRN 00713g a 00718g, LB24037; SAM MM102) a sefydlwyd yn 1131 yn ffurfio safle gwarchodaeth o dan reolaeth Cadw. Nid oes unrhyw ran o strwythur yr Abaty o'r ddeuddegfed ganrif uwchben y ddaear wedi goroesi; mae'r rhan fwyaf o'r hyn sy'n weddill yn perthyn i ail brif gam y gwaith o adeiladu'r Abaty a wnaed yn rhan olaf y drydedd ganrif ar ddeg. Mae'r Abaty a'i adeiladau cysylltiedig yn deillio o sawl cam adeiladu a barodd dros 400 o flynyddoedd, gyda'r cynllun daear yn dilyn ffurf safonol abatai Sistersaidd, a oedd yn cynnwys tair prif elfen o'r eglwys, y cloestr a'i adeiladau gweithredol. Mae'r ardal gyfagos yn cynnwys sawl mân nodwedd creiriol yn ymwneud â'r Abaty, gan gynnwys draeniau (PRNs 00719g, 03271.0g; a 03597.0g), a'r 'Ffynnon Oer' ganoloesol (PRN 00783g).
Y prif ddeunydd adeiladu yn yr ardal yw carreg, gyda chyfadeilad strwythur yr Abaty ei hun yn dywodfaen Defonaidd. Gellir gweld bod cryn dipyn o gerrig yr abaty wedi'u hailddefnyddio mewn adeiladau cyfagos, y mae gan lawer ohonynt arddull gynhenid nodedig, sy'n deillio o'r ailddefnydd ôl-ganoloesol o adeiladau'n gysylltiedig â'r Abaty. Y prif ddeunyddiau toi yw llechi a theils brics. Defnyddiwyd to plwm ar yr Abaty ond cafodd ei dynnu i lawr yn fuan ar ôl i'r mynachdy gael ei ddiddymu yn 1536, gyda'r elw o'i werthu yn cael ei gadw ar gyfer y Goron.
Mae wal gwmpasu (PRN 00714g; SAM MM157) cyfadeilad yr abaty, y mae rhannau ohoni wedi goroesi hyd at 2.5-3m mewn uchder, yn bwysig iawn. Ystyrir bod y strwythur hwn, a ddiffiniodd ffin allanol cyfadeilad yr Abaty a'r 27 erw o'i gwmpas, ynghyd â'r porthdy cysylltiedig ymhlith rhai o'r enghreifftiau pwysicaf sydd wedi goroesi o'u math ym Mhrydain. Sefydlwyd 86 o abatai Sistersaidd ym Mhrydain; o'r rhain mae ond yn bosibl diffinio'n gywir maint y ffin gwmpasu mewn 16 o achosion, ac ond saith o'r rhain - y mae Tyndyrn yn un - sydd wedi cadw hydoedd eu waliau cwmpasu a'u pyrth cysylltiedig. Cynhwysir rhan o borthdy'r Abaty yn Nhy rhestredig Santes Ann (PRN 00715g; LB 2051 Gradd II*), sy'n dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg/pedwaredd ganrif ar ddeg mae'n debyg ac yn gyfoes â chryn dipyn o wneuthuriad yr Abaty, ac ymhlith yr olion mae ffenestri aruchel o'r capel yn y glwyd mae'n debyg. Er yr ymddengys i'r rhan fwyaf o Dy Santes Ann sydd wedi goroesi ddyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys yr hen laethdy cysylltiedig (LB 24050 Gradd II), mae'r ffaith i'r nodweddion canoloesol yn rhan wreiddiol yr adeilad barhau i fod mewn cyflwr da yn dynodi iddo gael ei ddefnyddio ar ôl y Diddymiad (Robinson 1995; Russell et al 1990; a Newman 2000). Ymddengys fod Gwesty'r Abbey (hen Westy'r Beaufort Arms), a leolir ychydig o fewn llinell y wal gwmpasu, wedi cadw o leiaf un strwythur cynnar o'r cyfnod canoloesol fwy na thebyg, y rhes fwyaf gogleddol o'r ddwy res hirfain sydd wedi'u halinio i'r dwyrain-orllewin a ddangosir ar Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881; gallai hyn ad-dalu rhagor o ymchwil fanwl.
Ymhlith yr olion canoloesol creiriol ac yn ddiweddarach eglwysig ychwanegol mae'r adfail heb do sef Eglwys y Santes Fair (PRN 00751g; LB 2054 Gradd II rhestredig), a'i mynwent (PRNs 08171g; a 08389g), sy'n cynnwys nifer o feddrodau a henebion nodedig a rhestredig. Roedd Eglwys y Santes Fair yn hen ganolfan blwyfol i blwyf Chapel Hill, Tyndyrn. Cafodd plwyf Chapel Hill ei uno â Tintern Parva yn 1902 a chafodd yr eglwys, nas defnyddiwyd ar ôl 1972, ei llosgi yn 1977. Prin yw'r wybodaeth sydd ar gael am eglwys y Santes Fair ei hun, er bod adeiladwaith canoloesol i'w gweld o hyd, yn enwedig yn y rhan ddwyreiniol sydd mewn cyflwr gwael, er gwaethaf y gwaith adfer trylwyr a wnaed yn 1866 gan John Pritchard, pensaer esgobaeth Llandaf. Priodolwyd y twr i gydweithiwr Pritchard sef J P Seddon. Credir bod y manylion Addurnedig, yn enwedig y ffenestr i'r dwyrain, yn adlewyrchu gwaith gwreiddiol o'r bedwaredd ganrif ar ddeg neu ddechrau'r bymthegfed ganrif.
Mae'n debygol bod cryn dipyn o'r anheddiad yng nghyffiniau'r Abaty wedi'i sefydlu ar ôl addasu hen strwythurau mynachaidd. Wedi goroesi hefyd mae llifddor yr Abaty a thafarndy'r Anchor sydd gerllaw (LB 24032; Gradd II, Llifddor SAM MM265). Mae'r adeilad hwn, a adnewyddwyd fel gwesty yng nghanol yr ugeinfed ganrif, yn cynnwys dwy adran ar wahân mewn siâp L; mae rhes hwy o'r ail ganrif ar bymtheg o darddiad diwydiannol, o bosibl melin seidr ag ydlofft uwchben, a rhes hyn, fyrrach, ty'r melinydd a gwr fferi'r Abaty, yn adlewyrchu'r gwaith o adnewyddu strwythur canoloesol yn y bôn yn y ddeunawfed ganrif. Mae'r Anchor wedi bodoli fel safle trwyddedig ers 1806 ac felly mae'n debygol ei fod yn tarddu o dwristiaeth 'bictiwrésg', ond gallai ei leoliad ger llifddor yr Abaty adlewyrchu cysylltiadau â lletygarwch yn dyddio o'r Canol Oesoedd. Roedd y fferi yn weithredol o'r bedwaredd ganrif ar ddeg tan tua 1920 pan orffennodd y rheilffordd groesi'r bont a daeth yn bosibl cerdded drosti (Russell et al 1990).
Caiff y mudiad pictiwrésg ei gynrychioli hefyd yn y stoc adeiladau sydd wedi goroesi: er enghraifft, Gwesty'r Abbey â'i gymeriad gothig o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg (gan ychwanegu at yr hyn sy'n ymddangos fel adeilad llawer cynharach a'i addurno). Yn nodweddiadol hefyd mae'r gwaith o ailfodelu Ty'r Santes Ann yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymhlith gwaith arall. Credir i'r broses o adeiladu'r Ffordd Dyrpeg (1828-9) gyflwyno'r dyffryn i fyd twristiaeth (a fu'n tyfu ers diwedd y ddeunawfed ganrif) a cheir sawl adeilad sy'n tystio i hyn yn uniongyrchol, ee Tafarndy'r Anchor.
Ymddengys i weithgarwch amaethyddol yn yr ardal yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol ganolbwyntio'n bennaf ar fferm fawr Abbey Farm, a leolwyd yn union i'r de o'r Abaty o fewn wal gwmpasu'r Abaty. Roedd yn cynnwys dwy res o adeiladau amaethyddol hirfain, y mae un ychydig yn groesgam: yr hyn a oedd agosaf at yr Abaty gyda'i iard hirsgwar oedd y fferm (Argraffiad Cyntaf map yr AO 1881), a addaswyd neu a ddisodlwyd gan res siâp L cyn 1921.
Cyn yr ugeinfed ganrif byddai anheddiad y tu hwnt i ardal gyfagos wal gwmpasu'r Abaty wedi cynnwys ffermydd a bythynnod gwasgaredig, fel Grove Cottage, Box Cottage a daliadau anghysbell mwy o faint gan gynnwys Highfield House, a newidiwyd rhwng 1881 a 1902, fel y daliad yn Church Grove Cottages, a gafodd ei ailfodelu'n gyfan gwbl ar ffurf pâr o fythynnod ystad. Fodd bynnag, mae'r anheddiad hirfain o dai mawr ar wahân o'r ugeinfed ganrif o fewn plotiau hirsgwar a leolir yn Chapel Hill yn yr ardal goediog yn wynebu'r lôn rhwng Gwesty'r Abbey (hen Westy'r Beaufort Arms) a Thafarndy'r Royal George, yn darparu patrwm anheddu dominyddol yr ardal. Ymddengys mai'r hyn a ysgogodd y broses hon o ehangu'r anheddiad oedd trosglwyddo perchenogaeth i Ystad y Goron ar ddechrau'r ugeinfed ganrif a datblygiad cychwynnol y pâr o dai ystad a alwyd yn Abbey View a Upper Leytons rhwng 1902 a 1921. Mae adeiladau Ystad y Goron (ee bythynnod a siopau) yn yr ardal hon â nodweddion ac ardaloedd â nodweddion gerllaw (ee. HLCA014 a HLCA016) o arddull ystad yn nodweddiadol ac maent yn ymwybodol bictiwrésg o ran idiom, wedi'u gwneud o gerrig, brics a theils.
Mathau o adeiladau: adeiladau cynnar sylweddol, tai mwy o'r ddeunawfed ganrif a dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a datblygiadau adfywio celf a chref/domestig uchelgeisiol tua 1900 sy'n gysylltiedig â'r Ystad, yn ogystal â chyfres o fythynnod llai (o ddiwedd y ddeunawfed ganrif-dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg fwy na thebyg) - yn gyffredinol yn gynllun deulawr, dwy uned â simneiau ar y pen, y ffurf gynhenid leol dominyddol: mae'r rhain yn ymwneud â hanes diwydiannol ardal fwy na thebyg. Yn ogystal, mae'r ardal yn cynnwys enghreifftiau o'r mudiad pictiwrésg trefol o'r ugeinfed ganrif: byngalos a adeiladwyd i fwynhau'r olygfa.
Mae tystiolaeth o weithgarwch diwydiannol yn yr ardal â nodweddion yn goroesi ar ffurf archeoleg creiriol sy'n dyddio o gyfnod mor gynnar â'r canoloesoedd. Datgelodd gwaith cloddio yn y 1980au dystiolaeth o waith metel anfferus, yn ymwneud yn bennaf â phlwm a chopr, yng nghyfadeilad Abaty Tyndyrn ei hun (Courtney 1982). Daethpwyd o hyd i'r dystiolaeth yn hwyr mewn cyfres o gamau ar waith adeiladu canoloesol a lefelu. Ni ddarganfuwyd unrhyw beth y gellid ei ddyddio ond mae gwaith dyddio archeofagnetaidd wedi gosod y gweithgarwch diwydiannol hwn yn y bymthegfed ganrif yn bendant. Mae natur y nodweddion hefyd yn awgrymu gwaith cynhyrchu ar raddfa fawr. Un o'r nodweddion a gofnodwyd oedd tân agored a oedd yn cynnwys cerrig melin nas defnyddiwyd. Mae olion sy'n gysylltiedig â diwydiannau gwledig eraill, fel melinau seidr, hefyd i'w gweld yn yr ardal.
Mae llwybrau cysylltiadau a thrafnidiaeth hefyd yn gynnar ac yn cynnwys ffordd ganoloesol goblog sy'n gysylltiedig â'r Abaty, 'the Stony Way' (PRN 03174g), a oedd yn cysylltu Tyndyrn â Phlas Ruddings (Reddings) a maenor Porthcaseg, gyda'i lwybr yn croesi HLCA 009. Ymhlith y nodweddion cysylltu eraill mae ffordd dyrpeg Dyffryn Gwy 1829, sydd â charreg filltir restredig bellach 300m i'r de o Abaty Tyndyrn (LB 24056 Gradd II). Mae'r ardal hefyd yn cynnwys nifer o lwybrau cerdded a llwybrau eraill a ddaeth yn boblogaidd o'r ddeunawfed ganrif o leiaf, o ganlyniad uniongyrchol i ddiddordeb a gweithgarwch twristiaeth, sy'n rhedeg drwy'r ardal gan ei chysylltu â sawl ardal â nodweddion gyfagos a Dyffryn ehangach Gwy.
Ymhlith y nodweddion eraill mae'r patrwm caeau amaethyddol sy'n cynnwys caeau agored mawr yn gyffredinol, llifddolydd ar orlifdir Afon Gwy, a rannwyd gan wrychoedd wedi'u datblygu'n dda; mae'r rhain yn ffurfio elfen bwysig yn lleoliad yr Abaty. Mae'n debygol i'r caeau hyn gael eu defnyddio mor gynnar â'r cyfnod canoloesol i wasanaethu'r Abaty a byddai conversii neu frodyr lleyg wedi gweithio arnynt.