Dyffryn Gwy Isaf
015 Caelun Upper Redbrook
HLCA 015 Caelun Upper Redbrook
Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol: patrwm amrywiol o gaeau bach - canolig; anheddiad yn cynnwys ffermydd gwasgaredig yn bennaf; ffiniau traddodiadol; archeoleg greiriol: anheddiad/caeau mynachaidd canoloesol (Beaulieu neu Faenor 'Grace Dieu'); nodweddion cysylltiadau (ee. trosbont inclein, a rheilffordd ddiwydiannol). Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Caelun Upper Redbrook yn ardal amaethyddol ar ochrau a man gwastad copa'r gefnen sy'n ffurfio ochr ddwyreiniol Dyffryn Gwy. Ymddengys i'r ardal gael ei chlirio o goetir yn raddol a cheir dwy ardal o goetir hynafol i'r gogledd a'r de-orllewin: Coedwig Highmeadow (HLCA 019) a Choetir Lord’s Grove (HLCA 040) yn y drefn honno. Mae anheddiad y Cymin, a'r ardal o barcdir cofrestredig ar gopa bryn Cymin, yn ffinio â'r ardal i'r gogledd-orllewin. Mae coetir hefyd yn creu ffin naturiol i'r dwyrain, sydd hefyd yn cyd-daro â ffin rhanbarth gweinyddol Awdurdod Unedol Sir Fynwy a ffin genedlaethol Lloegr, ac yn yr un modd y ffin ddeheuol, sy'n rhedeg drwy ganol pentref Upper Redbrook, sydd ar y ffin. Yn hanesyddol, roedd yr ardal wedi'i lleoli ym mhlwyf Llandidiwg, ym mhentrefan Wyesham, a oedd ym meddiant Edward, pedwerydd Iarll Caerwrangon yn 1607 (Bradney 1904), sef Dugiaid Beaufort yn ddiweddarach.
Gellir olrhain y gweithgarwch yma mor bell yn ôl â'r Oes Efydd yn seiliedig ar ddod o hyd i saethben fflint tafod ac adfach yn yr ardal.
Tyfodd yr ardal mewn pwysigrwydd yn ystod y cyfnod canoloesol, pan roedd plas yn perthyn i Abaty Grace Dieu yma. Cafodd yr Abaty Sistersaidd hwn ei sefydlu gan John o Fynwy fel adain i Abaty Dore tua 1226, ond cafodd ei losgi'n ulw gan y Cymry yn 1233, am iddynt honni iddo gael ei adeiladu ar dir a atafaelwyd oddi wrthynt (Kissack 1974). Yn dilyn hynny symudwyd safle'r Abaty yn gyfan gwbl, ond arhosodd y plas yma, ac mae'n debygol mai at y plas hwn y cyfeirir yn 1291 fel 'Wyesham Grange', ac a ddisgrifir yn 1536 fel 'towards Newland' (Williams 1976). Yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, awgrymir bodolaeth Ty'r Brodyr neu Ysbyty, o'r enw 'Beaulieu of the Garth' (Rees 1932, taflen SE).
Yn yr ail ganrif ar bymtheg daeth Redbrook yn ganolfan mwyndoddi copr bwysig; roedd y pentref yn cynnwys dwy ffwrnais chwyth, dau waith mwyndoddi copr, dau waith tunplat, melin bapur, a sawl melin yd (Coates 1992). Roedd Gweithfeydd Redbrook wedi cau erbyn tua 1735 ac yn ddiweddarach defnyddiwyd y safleoedd i weithgynhyrchu tunplat. Caewyd Gweithfeydd Upper Redbrook yn 1818, ac fe'i dymchwelwyd yn ddiweddarach, gan godi bragdy yn ei le. Fodd bynnag, parhaodd Gweithfeydd Lower Redbrook i weithredu i mewn i'r ugeinfed ganrif (Coates 1992). Er nad yw'r safle hwn yn yr ardal â nodweddion, chwaraeodd ran bwysig yn natblygiad pentref Redbrook, a'r ardal gyfan.
Mae rhan o dramffordd Mynwy yn croesi drwy bentref Upper Redbrook, dros y B4321 drwy'r Bont Inclein, a ddiogelir bellach gan statws Heneb Gofrestredig (SAM MM203). Cafodd y dramffordd hon ei hadeiladu gan Gwmni Rheilffordd Mynwy o dan Ddeddf Mai 24ain 1810, ac fe'i cwblhawyd yn 1812, gan gysylltu Howler's Slade yn Coleford â Mynwy. Fe'i defnyddiwyd i wasanaethu gweithfeydd tunplat Redbrook ymhellach i'r de drwy'r bont inclein yn Redbrook, sydd bellach yn Heneb Gofrestredig (SAM MM203; PRN 02195g; NPRN 85227). Ymddengys i'r rhan o'r dramffordd yn yr ardal fod yn segur erbyn iddi gael ei mapio yn 1887 (Argraffiad Cyntaf map yr AO), ac erbyn 1902, dangosir ei llwybr yn cael ei dorri gan linell cangen GWR Coleford (Ail Argraffiad map yr AO). Roedd y rheilffordd olaf yn amlinellu'r llethrau uwchben Upper Redbrook, gan dorri drwy ochr y bryn drwy dwnnel ac osgoi'r bont inclein.
Nodweddion y Dirwedd Hanesyddol
Nodweddir Caelun Upper Redbrook gan ei gaelun amrywiol o gaeau rheolaidd canolig i fawr a chaeau afreolaidd llai; lluniwyd y patrwm yn ôl y dirwedd, gyda chaeau rheolaidd yn cael eu lleoli'n gyffredinol ar y man gwastad a'r caeau afreolaidd yn gyfyngedig i ochrau mwy serth y dyffryn. Mae'r ffiniau yn yr ardal yn gymysgedd o wrychoedd â choed gwrych nodedig a ffensys post a gwifren. Yn nodedig hefyd mae archeoleg greiriol yr ardal; anheddiad a chaeau canoloesol sy'n gysylltiedig â'r plas yn Beaulieu (PRN 08337g), sef Beaulieu Farm bellach (gweler isod).
Mae patrwm y caeau wedi newid yn sylweddol o'r hyn a geir ar fap y degwm (1844) gyda chryn gyfuno yn rhan ddeheuol yr ardal, tra ymhellach i'r gogledd, mae ardaloedd a ddangoswyd fel coetir agored ar Argraffiad Cyntaf map yr AO wedi'u clirio ac yn glostir. Dangosodd tystiolaeth gartograffig yr ardal hon (ar wahân i gyferbyn â Beaulieu Farm) ar ffurf caeau cymharol reolaidd a mawr â ffiniau syth, sef patrwm sy'n cyferbynnu'n fawr â'r clostiroedd afreolaidd llai â ffiniau troellog, cromliniol sy'n nodweddu'r ardal ymhellach i'r de tuag at bentref Upper Redbrook. Fodd bynnag, mae'r caeau hyn wedi'u cyfuno i raddau helaeth, tra bod y clostiroedd rheolaidd i'r gogledd wedi'u his-rannu, gan greu patrwm rheolaidd o gaeau hirsgwar llai.
Nodweddir patrwm yr anheddiad yn bennaf gan ffermydd anghysbell gwasgaredig ac adeiladau allan cysylltiedig: Beaulieu Farm, Upper Beaulieu Farm, Duffield’s Farm, The Elms, ac ysguborau anghysbell Jordan’s Barn a Cockshoot Ash Barn. Mae'r anheddiad yn yr ardal hon, er gwaethaf rhywfaint o addasu, wedi cynnal ei gynllun nodweddiadol cyffredinol i raddau helaeth.
Mae'n debygol mai Beaulieu Farm yw'r fferm gynharaf yn yr ardal a chyfeirir ati yn 1560 fel y 'grange at Bewley', ac roedd yn un o ganghennau Abaty Grace Dieu (Williams 1990). Mae'r fferm a ddangosir ar fap degwm 1844 wedi cynnal ei chynllun i raddau helaeth ers arolwg Argraffiad Cyntaf map yr AO. Dengys yr olaf y fferm â'i chlostir hirsgwar ei hun a gyferbyn i'r gorllewin ceir cyfadeilad fferm ar wahân o fewn clostir is-hirsgwar hir wedi'i glystyru o amgylch iard sydd ychydig ar led â rhes siâp L yn ffurfio'r ochrau gogleddol a gorllewinol ac adeilad hirsgwar, ysgubor trothwy o bosibl i'r de, a nifer o adeiladau amaethyddol hirsgwar ar wahân eraill i'r de ac i'r gogledd o'r cyfadail. Ar sail tystiolaeth gartograffig ymddengys i'r fferm wreiddiol a'r cyfadeilad amaethyddol oroesi gydag ychydig o strwythurau ychwanegol.
Mae Upper Beaulieu Farm, a oedd yn un o ganghennau Beaulieu Farm yn wreiddiol fwy na thebyg, wedi'i hymestyn yn sylweddol; ar Argraffiad Cyntaf map yr AO fe'i dangosir fel grwp o dri adeilad hirsgwar bach, adeiladau allan fwy na thebyg a oedd yn gysylltiedig â Beaulieu Farm gerllaw, ac a arhosodd felly tan yr ugeinfed ganrif. Roedd y fferm fel yr oedd yn bodoli yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnwys rhes o adeiladau wedi'u halinio i'r gogledd-orllewin-de-ddwyrain a oedd yn gyfochrog ac wedi'u paru'n agos at ei gilydd ar draws iard, gyda rhes bellach ynghlwm ar dangiad ym mhen gogledd-ddwyreiniol rhan ddwyreiniol y ddau adeilad. Erbyn hyn mae Upper Beaulieu Farm yn cynnwys sawl adeilad amaeth-ddiwydiannol modern mawr i'r de-orllewin o'r fferm gynharach, ac o bosibl yn cynnwys rhan o'r fferm gynharach, a chyrhaeddir y safle bellach ar hyd ffordd wedi'i hailalinio'n rhannol o Beaulieu Farm, sydd i raddau helaeth yn dilyn y llwybr mynediad gwreiddiol gyferbyn â ffiniau'r caeau.
Mae Duffield's Farm yn bodoli heddiw ar ffurf gymharol debyg i'w hymddangosiad ar Argraffiad Cyntaf map yr AO fel rhes hirfain â chlwstwr o adeiladau allan i'r de-ddwyrain o fewn clostir siâp D a gyrhaeddir gan lôn o Upper Redbrook sef Duffield's Lane; ymddengys i'r fferm hon gadw llawer o'i nodweddion gwreiddiol. Mae Duffield's Lane yn parhau i'r gogledd-orllewin drwy'r ardal â nodweddion gan fynd heibio i Cockshoot Ash Barn drwy Lords Grove (HLCA040) tuag at Sky Farm (yn HLCA 033) cyn mynd i mewn i bentref Wyesham, (HLCA035).
Lleolir The Elms yng nghornel dde-ddwyreiniol yr ardal, yn agos at gyffordd Duffield's Lane â'r brif ffordd sy'n rhedeg drwy Upper Redbrook ar hyd rhan ddeheuol yr ardal â nodweddion. Ymddangosodd The Elms ar Argraffiad Cyntaf map yr AO 1887 fel fferm wasgaredig â chlwstwr o adeiladau amaethyddol ychydig ar wahân i'r gogledd. Yn ogystal, ymddengys nad yw Jordan's Barn na Cockshoot Ash Barn sy'n anghysbell wedi newid rhyw lawer ers y mapiau cynnar.
Nodweddir anheddiad yn yr ardal hefyd gan anheddiad hirgul yn Upper Redbrook. Mae'r adeiladau a geir yma yn gymysgedd o fythynnod blaen ac ôl a leolir ychydig o bellter o'r ffordd ac mae gan bob un ei blot eithaf mawr o dir cysylltiedig. Ymddengys i nifer yr adeiladau yn yr anheddiad hirgul yn Upper Redbrook leihau ers Argraffiad Cyntaf map yr AO (1887/1890), yr adeiladau hirsgwar, siâp L llai o faint cynharach wedi'u hymestyn, ee. Bush House, Spring Villa a Rose Cottages. Ymestynnwyd rhai adeiladau llai o faint cynharach hefyd, er enghraifft, Founder's Cottage, Malthouse Cottage a Killma Cottage, yn ogystal ag ychwanegu adeiladau newydd yn yr ardal fel Orchard Bungalow, Valley Lodge a Springfield. Er eu bod wedi newid yn helaeth mewn rhannau, mae'r adeiladau yn Upper Redbrook wedi cynnal cryn dipyn o'u cymeriad gwreiddiol; fel arfer maent wedi'u rendro a'u gwyngalchu â cherrig cwrs. Ceir llechi ar rai o doeon yr adeiladau, tra bod panteils diweddar ar eraill. Mae'r anheddiad hirgul, er y'i rhennir gan ffin wleidyddol, yn gyfrifol am gryn dipyn o gymeriad ardal Upper Redbrook.
Mae'r ardal yn cynnwys nifer o nodweddion cysylltiadau nodweddiadol gan gynnwys llwybrau, lonydd syth a throellog, a ddiffinnir gan dirwedd naturiol a ffiniau'r clostiroedd cynharach yn yr ardal â nodweddion, yn enwedig ffiniau caeau, ynghyd â'r rheilffordd ddiwydiannol, mae llwybr hen dramffordd Mynwy ac olion pont inclein gysylltiedig (SAM MM203; PRN 02195g; NPRN 85227) yn goroesi yn yr ardal, fel nodweddion sy'n gysylltiedig â hen linell segur cangen GWR Coleford, gan gynnwys ei dwnnel.