Gwyr
075 Maes Awyr Abertawe
HLCA075 Maes Awyr Abertawe
Maes awyr rhyngwladol/erodrom yn dyddio o'r Ail Ryfel Byd: nodweddion yn gysylltiedig â'r Ail Ryfel Byd; cyn-safleoedd angladdol a defodol; a chyn-lwybrau cysylltu llai pwysig. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Maes Awyr Abertawe yn cyfateb i Faes Awyr Rhyngwladol Abertawe, ac arferai gynnwys tir comin agored a rhan o Dir Comin Mynydd Llwynteg.
Dinistriwyd safleoedd carneddau Pennard Burch a Bishopston Burch yn dyddio o'r Oes Efydd yn ystod y 1940au trwy adeiladu maes awyr Mynydd Llwynteg. Cloddiwyd crug Pennard Burch (00239w) cyn 1855 gan yr Arglwyddes Mary Cole a dywedwyd i ddarnau o wrn ag olion cordyn yn dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd gael eu darganfod. Fe'i hailgloddiwyd wedyn ym 1941, pan ddarganfuwyd bod y twmpath yn strwythur cylch cyfansawdd a gynhwysai'r elfennau canlynol: cist garreg weddilliol ganolog a gynhwysai'r brif gladdedigaeth; cylch o gerrig o amgylch safle'r bedd a oedd yn 6.1m ar ei draws y tu mewn iddo; twmpath clai yn gorchuddio'r cylch cerrig hwn; twmpath tyweirch a oedd yn 17.1m ar ei draws ar ei letaf ac yn 1.4m o uchder; cylch allanol o gerrig o amgylch y twmpath tyweirch; casin allanol olaf o glai, gyda'r canlyniad bod y crug cyflawn 22.9m ar ei draws. Tarfwyd ar grug claddu Bishopston Burch (00240w) yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac wedyn fe'i difrodwyd ac yn ddiweddarach fe'i cloddiwyd ym 1941. Cynhwysai'r crug: twll claddu canolog a oedd yn 1.8m o hyd ac yn 1.5m o led ac yn 0.6m o ddyfnder a gynhwysai wrn torchog â'i ben i lawr ac esgyrn amlosgedig plentyn a golosg; carnedd o gerrig a oedd yn 12.2m ar ei thraws â thystiolaeth o gladdedigaethau eilaidd; twmpath crwn o glai a thyweirch a oedd yn selio'r garnedd, gyda'r canlyniad bod y crug yn 30.5m ar ei draws. Ar ben hynny, darganfuwyd tair aelwyd ar ymyl y garnedd neu'n agos ati, y darganfuwyd darn o lestr coginio Brythonaidd-Rufeinig yn un ohonynt.
Agorwyd RAF Mynydd Llwynteg, Maes Awyr Abertawe bellach, o dan Grwp Rhif 10 y Rheolaeth Awyrennau Ymladd ar 15fed Mehefin 1941. Roedd wedi cymryd blwyddyn i adeiladu'r maes awyr, ac roedd cryn dipyn o rwbel diwydiannol wedi'i ddefnyddio i sefydlogi'r tir garw, corslyd y'i hadeiladwyd arno (Jones 2000). O amgylch terfyn allanol y maes awyr, adeiladwyd cyfanswm o bymtheg lloc ar gyfer awyrennau ymladd. Diben y strwythurau hyn oedd gwasgaru awyrennau o amgylch yr orsaf, gan osgoi'r posibilrwydd y gellid dinistrio nifer sylweddol o awyrennau gan un bom neu gyrch pledu. Diogelai'r llociau unigol yr awyrennau a gedwid ynddynt, a diben y rhagfuriau pridd a'r mynedfeydd cyfyng oedd lleihau hyd yr eithaf ar ddifrod gan ffrwydradau pe ceid ymosodiad gerllaw: dim ond trawiad unionsyth a fyddai'n debygol o lwyddo. Adeiladwyd naw ar hugain o leiniau caled gwasgaru diamddiffyn hefyd o amgylch terfyn allanol yr orsaf.
Parhaodd y maes awyr i weithredu drwy gydol y rhyfel, ac ar wahanol adegau bu'n gwasanaethu fel gorsaf ar gyfer awyrennau ymladd dydd a nos, awyrennau ymladd a bomio, awyrennau hebrwng confois, awyrennau achub o'r môr ac o'r awyr, ac fel gwersyll ymarfer defnyddio arfau. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r maes awyr ar ôl i sgwadron 595 ymadael ym mis Hydref 1946, ac fe'i digomisiynwyd ym 1949.
O'r 1950au gwnaed sawl ymdrech gan gwmnïau awyrennau masnachol i weithredu o Faes Awyr Abertawe; cwmni Awyr Cymru oedd yr un diweddaraf. Mae'r maes awyr hefyd yn gartref i glwb hedfan preifat ac ysgol hofrenyddion (Harding 2000, 72; Howell 2001a; Jones 2000, 28-32; Robins 1993; Howell a Lawler 2003; Howell a Lawler 2004; Pearson 2003).