Gwyr
073 Cwm Ilston
HLCA073 Cwm Ilston
Tirwedd dyffryn afon: coetir hynafol; tirwedd amaethyddol ddiwydiannol a sefydlwyd yn ystod y cyfnod canoloesol: melino; clwstwr anheddiad llinellol; a chapeli anghydffurfiol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwm Ilston yn cwmpasu dyffryn afon amgaeëdig, sy'n cynnwys dau anheddiad Parkmill tua ei phen gorllewinol a Stonemill wrth gymer i'r de-ddwyrain, gerllaw Maenor Cil-frwch. Gorweddai'r ardal wrth ffin nifer o faenorau canoloesol gan gynnwys Pennard â ffioedd Lunnon a Kittle, a Phenmaen i'r gorllewin. Gorweddai'r ardal gyfan o fewn Cwmwd canoloesol Cymreig Gwyr, o fewn Cantref Eginog. Yn ystod yr ad-drefnu a welwyd yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr ardal yn rhan o Gantref Abertawe, yn Sir Morgannwg.
Ychydig a wyddom am ddatblygiad yr ardal cyn y cyfnod canoloesol, ac mae tystiolaeth ar gyfer y cyfnod canoloesol wedi'i chyfyngu yn bennaf i safle capel canoloesol Cenydd Sant (00315w; 305581; SAM GM158) a Ffynnon y Drindod gerllaw (00316w; 32363; SAM GM158; Jones 1954, 184), er y gwyddom fod yr ardal yn cael ei defnyddio at ddibenion melino yn y cyfnod hwn.
Mae anheddiad Park Mill (02131w; 24961; LB 11726 II) yn dyddio o ddechrau'r Cyfnod Canoloesol, a cheir cyfeiriadau ato o tua 1300 ymlaen. Mae'r enw yn cyfeirio at y parc gerllaw a oedd yn eiddo i'r teulu Le Breos. Ceir sôn yn gyntaf am felinydd preswyl (Phillip Longe) ym 1428, a chyfeirir hefyd at bwll melin a pheiriannau melin; ystyrir bod yr adeilad presennol yn ymgorffori olion y strwythur canoloesol gwreiddiol. Ym 1585 daeth y felin yn rhan o ystâd Cil-frwch ac mae arolwg dyddiedig 1650 yn cyfeirio at 'two water grist mills called the Parke Mills', let for £15 annually, to which farm tenants still owed suit." Jenkin Ffrancklen Richard David ac Edward Price oedd y melinwyr bryd hynny. 'Stonemill' (02085w; 02087w; 24962), a ddangosir ar fap Colby dyddiedig tua 1830, oedd yr ail felin y cyfeiriwyd ati, er ei bod wedi'i haddasu bellach (Taylor 1991, 10-11).
Ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg daliwyd melin Parkmill gan William Davies fel tenant a fu yn ei rhedeg ei hun; parhaodd disgynyddion Davies fel melinwyr tan yr ugeinfed ganrif, yr oedd rhai ohonynt yn gymeriadau adnabyddus yn hanes Bro Gwyr. Ni nodir fawr ddim newid drwy gydol y ddeunawfed ganrif, a chyfeirir at ddwy felin yd yn Arolwg 1764; mae'r arolwg hwn hefyd yn cyfeirio at ffald yn Stonemill, ac yn Parkmill lleolid ty bychan a gardd gerllaw, ynghyd ag odyn ar gyfer sychu ceirch a leolid o dan y clogwyn gyferbyn.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymddengys i dy'r melinydd gael ei adeiladu gerllaw ac er i yd a bwydydd anifeiliaid barhau i gael eu prosesu, ymestynnwyd busnes y felin i gynnwys llifio, gwaith coed, gwneud olwynion (tua1860), ac ym 1912 ychwanegwyd gefail (41185). Caffaelodd John Davies rydd-ddeiliadaeth y felin ym 1920 gan Ystâd Cil-frwch. Gorffennodd y felin, a drydaneiddiwyd yn y 1950au, falu yd yn y 1960au, a bu'n cyflawni gweithrediadau eraill ym 1983. Gwerthwyd y safle ym 1989 a sefydlwyd Ymddiriedolaeth, sef 'Canolfan Crefftau a Chefn Gwlad y Felin Ddwr' i ddiogelu'r peiriannau yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a oedd wedi goroesi, mae'r safle yn gweithredu ar hyn o bryd fel 'Canolfan Treftadaeth Gwyr.'
Ymestynnwyd yr anheddiad yn Parkmill yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chynhwysai ychwanegiadau Gapel y Bedyddwyr Trinity Well (11821) a Chapel Mount Pisgah (01484w; 9626; LB 11735 II); Capel Mount Pisgah a adeiladwyd ym 1822, oedd yr olaf o chwech a adeiladwyd ar draul yr Arlwyddes Diana Barham, sef cymwynaswraig y mudiad efengylaidd, a ddaeth i fyw ym Mro Gwyr ym 1813. Daeth capel Mount Pisgah yn annibynnol ar ddechrau 1823, ar ôl i rwyg ddatblygu rhwng yr Arglwyddes Barham a mudiad y Methodistiaid Calfinaidd. Mae'r cynllun yn fwy uchelgeisiol yn bensaernïol na'r lleill, ac mae ei orffeniad o waith stwco a'r pafiliynau â thoeau ar wahân ar y naill ochr a'r llall iddo yn nodweddiadol o'r arddull Rhaglywiaethol glasurol (Newman 1995, 367).
Roedd Tafarn y Gower gerllaw hefyd yn bodoli erbyn cyhoeddi argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO map, yn ogystal â'r ysgol a thy'r ysgolfeistr (305496; LB 23537 II), a adeiladwyd yn arddull yr adfywiad Tuduraidd ac Elisabethaidd ym 1876 yn unol â chynllun J H Baylis o Abertawe, pensaer, ar gyfer Thomas Penrice o Gil-frwch. Erbyn hyn mae'r adeilad yn ganolfan weithgareddau sy'n perthyn i Geidiau Gorllewin Morgannwg (Newman 1995, 367).