Gwyr
074 Mynydd Llwynteg
HLCA074 Mynydd Llwynteg
Tir Comin Agored: nodweddion yn gysylltiedig â'r Ail Ryfel Byd; nodweddion diwydiannol ôl-ganoloesol; llwybrau cysylltu; a nodweddion dwr. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Llwynteg yn cyfateb i'r tir comin agored a elwir yn Fynydd Llwynteg, sy'n amgylchynu'r hyn a elwir bellach yn Faes Awyr Rhyngwladol Abertawe.
Mae'r ardal hon yn cynnwys tir comin ucheldirol agored lle y ceir ardaloedd o brysgwydd nas rheolir. Ymddengys i ffiniau cyfredol y tir comin gael eu sefydlu yn dilyn gweithgarwch tresmasu yn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg pan sefydlwyd ffermydd oddi amgylch. Yr unig newid mawr a gafwyd yn yr ardal oedd creu maes awyr Mynydd Llwynteg ym 1940. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwnaed defnydd helaeth o'r ardal at ddibenion denu ymosodiadau gan y gelyn i ffwrdd o faes awyr Mynydd Llwynteg (Maes Awyr Abertawe) ac o ddinas Abertawe. Mae'r dystiolaeth hon yn seiliedig ar ddeunydd ffotograffig a dynnwyd o'r awyr yn dyddio o'r cyfnod hwn, a nodwyd nifer o oleufeydd ar draws y tir comin.
Buwyd yn gweithio pyllau graean bach a phyllau glo ar y cyrion o'r ddeunawfed ganrif o leiaf. Ychydig a wyddom am adnodd archeolegol claddedig yr ardal, fodd bynnag mae tystiolaeth o'r maes awyr gerllaw (HLCA 075) yn awgrymu gweithgarwch yn dyddio o'r Oes Efydd, yn arbennig gweithgarwch angladdol a defodol; felly mae angen cynnal rhagor o arolygon archeolegol.