Gwyr
036 Stouthall
HLCA036 Stouthall
Ystâd fonedd a pharcdir ôl-ganoloesol: parc a choetir addurniadol; cysylltiadau hanesyddol hen ystâd y teulu Lucas; nodweddion amaeth-ddiwylliannol a llwybrau creiriol. Nôl i'r map
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Stouthall yn cyfateb i ardal parc a gardd restredig Stouthall (PGW (Gm) 57) a'u lleoliad hanfodol ynghyd â'r tir sy'n gysylltiedig â'r ystad a ddangosir ar fap degwm 1838.
Nodweddir ardal Cefn Bryn yn bennaf gan weithgarwch yn dyddio o'r Oes Efydd; lleolir maen hir yn dyddio o'r Oes Efydd (00158w) yn y coetir i'r dwyrain o Stouthall, fodd bynnag, fe'i symudwyd o'i leoliad gwreiddiol nad yw'n hysbys.
Ni chofnodwyd unrhyw dystiolaeth bellach o anheddu yn yr ardal tan y nawfed ganrif; lleolid croes garreg piler (00164w; 301403) ar un adeg o fewn y cyn-goetiroedd i'r dwyrain o'r briffordd yn rhedeg o'r gogledd i'r de. Roedd y groes hon wedi'i hailosod ar faen melin ar dwmpath bach yn ôl pob tebyg yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae croes ddwbl wedi'i hendorri ar un ochr ac ar yr ochr arall groes arfog gyfartal â chroesau llai o faint rhwng y breichiau, a rhan helaeth yn cynnwys addurniadau o glymwaith. Fe'i symudwyd bellach i eglwys Reynoldston.
Lleolir Stouthall (02902w; 265706) ychydig i'r de-orllewin o bentref Reynoldston, i'r gogledd o ffordd yr A4118 o fewn cyn-faenor Reynoldston a gall fod mai dyma leoliad y maenordy. Adeiladodd William Jernegan dy Stouthall (19999; 01505w; LB 19870 II*) ar ddiwedd y 1780au ar gyfer John Lucas yr ieuaf, gan ddisodli ty cynharach, a fuasai'n gartref i'r teulu Lucas ers yr unfed ganrif ar bymtheg. Cyn hynny bu John Lucas yn byw yn Fairyhill, fodd bynnag roedd wedi symud i Stouthall erbyn 1793. Yn y tiroedd cododd Lucas gylch bach o gerrig (a ddinistriwyd bellach) a ddisgrifir gan Samuel Lewis ym 1833 fel 'forming a miniature representation of Stonehenge'. Trosglwyddwyd yr eiddo i'w fab y Cyrnol J. Nicholas Lucas ac wedyn i'w fab yng nghyfraith y Cyrnol Edward R. Wood, Uchel Siryf ym 1861. Ymgymerodd y Cyrnol Wood â chloddiadau archeolegol mewn rhai ogofâu ym Mro Gwyr. Gwerthwyd Stouthall i'r teulu Morgan ym 1920 ac fe'u gosodwyd ar rent dros y blynyddoedd fel ysgol, ysbyty geni, cartref ymadfer a chanolfan astudiaethau maes.
Mae'r parcdir yn fach ac yn syml ac mae'n cynnwys cae mawr i'r gogledd o'r ty y ceir ffawydd yn ffinio ag ef. Mae tair prif ran i'r gerddi pleser a leolir i'r de ac i'r dwyrain o'r ty. Mae'r rhan gyntaf yn cynnwys coetir i'r dwyrain o'r dramwyfa sy'n arwain o ffordd yr A4118; mae'r ail yn cynnwys craig naturiol a newidiwyd gan weithgarwch cloddio ond sy'n cynnwys tyllau, clogwyni ac ogofâu naturiol a, rhewdy, i'r gorllewin o'r ardd lysiau; mae'r drydedd yn lle coediog arall yn ne-ddwyrain y tiroedd, ac mae'n cynnwys pwll bach. Ceir hefyd gerddi o amgylch y ty. O'r gerddi hyn dim ond yr ardd lysiau sydd wedi goroesi, mewn cyflwr adfeiliedig. Mae'n debyg bod y tiroedd yn dyddio o'r un cyfnod â'r ty; roedd John Lucas yn fotanegydd brwdfrydig ac felly mae'n debyg bod ganddo ddiddordeb yn ei erddi. Mae manylion gwerthiant yn dyddio o 1920 yn nodi bod y tiroedd 'of limited extent and inexpensive to maintain'; gan gynnwys lawnt dennis, Gardd y Boneddigesau a llwyni (Cadw 2000). Mae'n debyg mai'r Cyrnol Wood a drodd yr ogof yn nodwedd addurniadol yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ymddengys fod gardd â wal o'i chwmpas i'r dwyrain o'r ty hefyd yn dyddio o'r 1790au; mae manylion gwerthiant yn dyddio o 1920 yn disgrifio gwinwydd-dy croes, tir potio a pherllan gyffiniol.
Roedd y parcdir yn helaethach na'r arwynebedd a nodir yn y Gofrestr o Barciau a Gerddi; dengys map ystâd 1784 fod tir gerllaw hefyd ym meddiant John Lucas Yswain, ac mae'n dangos olion llain-gaeau i'r gogledd-ddwyrain o'r ty. Dangosir y ffiniau hyn ar fap degwm 1838 hefyd yn ogystal â fferm sydd wedi'i hychwanegu i'r dwyrain o'r ty. Pwysleisir hyn ymhellach ar argraffiad 1af map yr AO (1878) am fod rhes o goed sy'n ymestyn i'r lôn i Frog Moor yn ffinio â'r parcdir i'r gogledd ac i'r gorllewin. Ar ben hynny mae coed wedi'u plannu yma ac acw yn y cae. I'r dwyrain dangosir yr ardal a elwir yn goetiroedd fel coetir cymysg sy'n cynnwys nifer o rodfeydd coetir a phwll pysgod. Mae'r coetir a ffin y parc sydd â choed ar hyd-ddi yn bresennol tan o leiaf drydydd argraffiad map yr AO sy'n dangos bod y tir hwn yn dal i fod y rhan o ystâd Stouthall. Ychwanegwyd at res y fferm erbyn argraffiad cyntaf map 25 modfedd yr AO i ffurfio cwadrangl â mynedfeydd i'r gogledd ac i'r dwyrain. Parhaodd y rhes hon o adeiladau yn rhannol gyfan tan y trydydd argraffiad ac ar ôl hynny ymddengys iddi gael ei dymchwel. Erbyn hyn gelwir yr ardal hon yn Woodside, sy'n cynnwys annedd fodern â garej i'r gogledd.
Mae cyfres o gloddweithiau (54499) o fewn y tir ffermio, sy'n ffurfio'r lleoliad hanfodol, sy'n cynrychioli llwybr a chyn-system gaeau, i'w gweld ar fap 1784. Cliriwyd y rhan fwyaf o'r coetir erbyn hyn ac mae'r parc yn llai o faint.